Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 15:13-33

Diarhebion 15:13-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae calon lawen yn rhoi gwên ar yr wyneb, ond mae calon drist yn llethu’r ysbryd. Mae person call eisiau dysgu mwy, ond mae ffŵl yn cael ei fwydo ar ffolineb. Mae pobl sy’n diodde yn cael bywyd caled, ond mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd. Mae ychydig bach gan rywun sy’n parchu’r ARGLWYDD yn well na chyfoeth mawr gyda helbulon. Mae platiaid o lysiau lle mae cariad yn well na gwledd o gig eidion â chasineb. Mae rhywun sy’n fyr ei dymer yn creu helynt, ond mae person amyneddgar yn tawelu ffrae. Mae’r ffordd mae person diog yn ymddwyn fel llwyn o fieri, ond mae llwybr yr un sy’n gwneud beth sy’n iawn fel priffordd agored. Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus, ond plentyn ffôl yn dangos dim parch at ei fam. Mae chwarae’r ffŵl yn hwyl i rywun heb sens, ond mae person call yn cadw ar y llwybr iawn. Mae cynlluniau’n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor. Mae ateb parod yn gwneud rhywun yn hapus, ac mor dda ydy gair yn ei bryd! Mae llwybr bywyd ar i fyny i’r doeth, ac yn ei droi oddi wrth Annwn isod. Bydd yr ARGLWYDD yn chwalu tŷ’r balch, ond mae’n gwneud eiddo’r weddw yn ddiogel. Mae’n gas gan yr ARGLWYDD feddyliau drwg, ond mae geiriau caredig yn bur yn ei olwg. Mae rhywun sy’n elwa ar draul eraill yn creu trwbwl i’w deulu, ond bydd yr un sy’n gwrthod breib yn cael byw. Mae’r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb, tra mae’r person drwg yn chwydu aflendid. Mae’r ARGLWYDD yn cadw draw oddi wrth bobl ddrwg, ond mae’n gwrando ar weddi’r rhai sy’n byw’n gywir. Mae gwên yn llonni’r galon, a newyddion da yn rhoi cryfder i’r corff. Mae’r glust sy’n gwrando ar gerydd buddiol yn byw yng nghwmni’r doeth. Mae’r un sy’n gwrthod cael ei gywiro yn ei gasáu ei hun, ond yr un sy’n gwrando ar gerydd yn dangos synnwyr. Mae parchu’r ARGLWYDD yn dysgu rhywun i fod yn ddoeth, a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.

Diarhebion 15:13-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb, ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl. Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth, ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb. I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus, ond y mae calon hapus yn wledd wastadol. Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD na chyfoeth mawr a thrallod gydag ef. Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad, nag ych pasgedig a chasineb gydag ef. Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen, ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl. Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri, ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad. Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad, ond y mae'r ffôl yn dilorni ei fam. Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr, ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union. Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori, ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr. Caiff rhywun foddhad pan fydd ganddo ateb, a beth sy'n well na gair yn ei bryd? Y mae ffordd y bywyd yn dyrchafu'r deallus, i'w droi oddi wrth Sheol isod. Y mae'r ARGLWYDD yn dymchwel tŷ'r balch, ond yn diogelu terfynau'r weddw. Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw bwriadau drwg, ond y mae geiriau pur yn hyfrydwch iddo. Y mae'r un sy'n awchu am elw yn creu anghydfod yn ei dŷ, ond y sawl sy'n casáu cildwrn yn cael bywyd. Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb, ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg. Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus, ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn. Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon, a newydd da yn adfywio'r corff. Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywyd yn aros yng nghwmni'r doeth. Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gasáu ei hun, ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb, a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.

Diarhebion 15:13-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Calon lawen a wna wyneb siriol: ond trwy ddolur y galon y torrir yr ysbryd. Calon y synhwyrol a ymgais â gwybodaeth: ond genau y ffyliaid a borthir â ffolineb. Holl ddyddiau y cystuddiedig sydd flin: ond gwledd wastadol yw calon lawen. Gwell yw ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD, na thrysor mawr a thrallod gydag ef. Gwell yw pryd o ddail lle byddo cariad, nag ych pasgedig a chas gydag ef. Gŵr dicllon a gyffry gynnen: ond gŵr hwyrfrydig i lid a dyr ymryson. Ffordd y diog sydd fel cae drain: ond ffordd yr uniawn sydd wastad. Mab doeth a lawenha ei dad: ond dyn ffôl a ddiystyra ei fam. Ffolineb sydd hyfryd gan yr ynfyd: ond gŵr deallus a rodia yn uniawn. Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor: ac mewn amlder cynghorwyr y sicrheir hwynt. Llawenydd fydd i ŵr oherwydd ymadrodd ei enau; ac O mor dda yw gair yn ei amser! Ffordd y bywyd sydd fry i’r synhwyrol, i ochel uffern obry. Yr ARGLWYDD a ddiwreiddia dŷ y beilchion: ond efe a sicrha derfyn y weddw. Meddyliau yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr ARGLWYDD: ond geiriau y glân ŷnt beraidd. Y neb a fyddo dra chwannog i elw, a derfysga ei dŷ: ond y neb a gasao roddion, fydd byw. Calon y cyfiawn a fyfyria i ateb: ond genau y drygionus a dywallt allan ddrwg. Pell yw yr ARGLWYDD oddi wrth y rhai annuwiol: ond efe a wrendy weddi y cyfiawn. Llewyrch y llygaid a lawenha y galon: a gair da a frasâ yr esgyrn. Y glust a wrandawo ar gerydd y bywyd, a breswylia ymhlith y doethion. Y neb a wrthodo addysg, a ddiystyra ei enaid ei hun: ond y neb a wrandawo ar gerydd, a feddianna ddeall. Addysg doethineb yw ofn yr ARGLWYDD; ac o flaen anrhydedd yr â gostyngeiddrwydd.