Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 15

15
1Y mae ateb llednais yn dofi dig,
ond gair garw yn cynnau llid.
2Y mae tafod y doeth yn clodfori deall,
ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb.
3Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man,
yn gwylio'r drwg a'r da.
4Y mae tafod tyner yn bren bywiol,
ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd.
5Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad,
ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.
6Y mae llawer o gyfoeth yn nhŷ'r cyfiawn,
ond trallod sydd yn enillion y drygionus.
7Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth,
ond nid felly feddwl y ffyliaid.
8Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus,
ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.
9Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus,
ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.
10Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd,
a bydd y sawl sy'n casáu cerydd yn trengi.
11Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD;
pa faint mwy feddyliau pobl?
12Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd;
nid yw'n cyfeillachu â'r doethion.
13Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb,
ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.
14Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth,
ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.
15I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus,
ond y mae calon hapus yn wledd wastadol.
16Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD
na chyfoeth mawr a thrallod gydag ef.
17Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad,
nag ych pasgedig a chasineb gydag ef.
18Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen,
ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.
19Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri,
ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.
20Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad,
ond y mae'r ffôl yn dilorni ei fam.
21Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr,
ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union.
22Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori,
ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr.
23Caiff rhywun foddhad pan fydd ganddo ateb,
a beth sy'n well na gair yn ei bryd?
24Y mae ffordd y bywyd yn dyrchafu'r deallus,
i'w droi oddi wrth Sheol isod.
25Y mae'r ARGLWYDD yn dymchwel tŷ'r balch,
ond yn diogelu terfynau'r weddw.
26Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw bwriadau drwg,
ond y mae geiriau pur yn hyfrydwch iddo.
27Y mae'r un sy'n awchu am elw yn creu anghydfod yn ei dŷ,
ond y sawl sy'n casáu cildwrn yn cael bywyd.
28Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb,
ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg.
29Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus,
ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn.
30Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon,
a newydd da yn adfywio'r corff.
31Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywyd
yn aros yng nghwmni'r doeth.
32Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gasáu ei hun,
ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall.
33Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb,
a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.

Dewis Presennol:

Diarhebion 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd