Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 14:19-35

Diarhebion 14:19-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Bydd pobl ddrwg yn ymgrymu o flaen y da, a’r rhai wnaeth ddrwg yn disgwyl wrth giatiau’r cyfiawn. Mae hyd yn oed cymdogion y person tlawd yn ei gasáu, ond mae gan y cyfoethog lot o ffrindiau. Mae rhywun sy’n malio dim am bobl eraill yn pechu, ond mae bendith fawr i’r rhai sy’n helpu pobl mewn angen. Onid ydy’r rhai sy’n cynllwynio drwg yn mynd ar goll? Ond mae’r rhai sy’n bwriadu gwneud daioni yn garedig ac yn ffyddlon. Mae elw i bob gwaith caled, ond mae gwneud dim ond siarad yn arwain i dlodi. Mae’r doeth yn cael cyfoeth yn goron, ond ffolineb ydy torch ffyliaid. Mae tyst sy’n dweud y gwir yn achub bywydau, ond mae’r un sy’n palu celwyddau yn dwyllwr. Mae parchu’r ARGLWYDD yn rhoi hyder, ac yn lle diogel i blant rhywun gysgodi. Mae parchu’r ARGLWYDD yn ffynnon sy’n rhoi bywyd, ac yn troi rhywun oddi wrth faglau marwolaeth. Mae bod yn frenin ar boblogaeth fawr yn anrhydedd, ond heb bobl dydy llywodraethwr yn neb. Mae rheoli’ch tymer yn beth call iawn i’w wneud, ond mae colli’ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl. Mae ysbryd tawel yn iechyd i’r corff, ond cenfigen fel cancr yn pydru’r esgyrn. Mae’r un sy’n gormesu’r tlawd yn amharchu ei Grëwr, ond mae bod yn garedig at rywun mewn angen yn anrhydeddu Duw. Mae pobl ddrwg yn cael eu dymchwel gan eu drygioni eu hunain, ond mae gonestrwydd y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn yn eu cadw nhw’n saff. Mae doethineb yn eistedd yn gyfforddus ym meddwl rhywun sy’n synhwyrol, ond ydy ffyliaid yn gwybod amdano o gwbl? Mae cyfiawnder yn gwneud gwlad yn un wych, ond pechod yn dwyn gwarth ar bobl. Mae’r brenin yn dangos ffafr at was da, ond yn digio wrth un sy’n dda i ddim.

Diarhebion 14:19-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Y rhai drygionus a ymostyngant gerbron y daionus: a’r annuwiol ym mhyrth y cyfiawn. Y tlawd a gaseir, ie, gan ei gymydog ei hun: ond llawer fydd yn caru y cyfoethog. A ddirmygo ei gymydog, sydd yn pechu: ond y trugarog wrth y tlawd, gwyn ei fyd ef. Onid ydyw y rhai a ddychmygant ddrwg yn cyfeiliorni? eithr trugaredd a gwirionedd a fydd i’r sawl a ddychmygant ddaioni. Ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi. Coron y doethion yw eu cyfoeth: ond ffolineb y ffyliaid sydd ffolineb. Tyst ffyddlon a weryd eneidiau: ond y twyllodrus a ddywed gelwyddau. Yn ofn yr ARGLWYDD y mae gobaith cadarn: ac i’w blant ef y bydd noddfa. Ofn yr ARGLWYDD yw ffynnon y bywyd, i ddianc rhag maglau angau. Mewn amlder y bobl y mae anrhydedd y brenin: ac o ddiffyg pobl y dinistrir y tywysog. Y diog i ddigofaint sydd yn llawn o synnwyr: ond y dicllon ei ysbryd a ddyrchafa ynfydrwydd. Calon iach yw bywyd y cnawd: ond cenfigen a bydra yr esgyrn. Y neb a orthryma y tlawd, a gywilyddia ei Greawdydd: ond y neb a drugarhao wrth yr anghenus, a’i hanrhydedda ef. Y drygionus a yrrir ymaith yn ei ddrygioni: ond y cyfiawn a obeithia pan fyddo yn marw. Doethineb sydd yn gorffwys yng nghalon y call: ond yr hyn sydd yng nghalon ffyliaid a wybyddir. Cyfiawnder a ddyrchafa genedl: ond cywilydd pobloedd yw pechod. Ewyllys da y brenin sydd ar ei was synhwyrol: ond ei ddigofaint a fydd ar was gwaradwyddus.