Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda, a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn. Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod, ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog. Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu, ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus. Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni, ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon? Ym mhob llafur y mae elw, ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen. Eu craffter yw coron y doeth, ond ffolineb yw addurn y ffyliaid. Y mae tyst geirwir yn achub bywydau, ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau. Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn, a bydd yn noddfa i'w blant. Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywiol i arbed rhag maglau marwolaeth. Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin; ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr. Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar, ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer. Meddwl iach yw iechyd y corff, ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen. Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr, ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu. Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun, ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw. Trig doethineb ym meddwl y deallus, ond dirmygir hi ymysg ffyliaid. Y mae cyfiawnder yn dyrchafu cenedl, ond pechod yn warth ar bobloedd. Rhydd brenin ffafr i was deallus, ond digia wrth yr un a'i sarha.
Darllen Diarhebion 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Diarhebion 14:19-35
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos