Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 14:1-18

Diarhebion 14:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei thŷ, ond y ffôl yn ei dynnu i lawr â'i dwylo'i hun. Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ofni'r ARGLWYDD, ond y cyfeiliornus ei ffyrdd yn ei ddirmygu. Yng ngeiriau'r ffôl y mae gwialen i'w gefn, ond y mae ymadroddion y doeth yn ei amddiffyn. Heb ychen y mae'r preseb yn wag, ond trwy nerth ych ceir cynnyrch llawn. Nid yw tyst gonest yn dweud celwydd, ond y mae gau dyst yn pentyrru anwireddau. Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael, ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus. Cilia oddi wrth yr un ffôl, oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo. Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd, ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain. Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd, ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol. Gŵyr y galon am ei chwerwder ei hun, ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd. Dinistrir tŷ'r drygionus, ond ffynna pabell yr uniawn. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd. Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus, a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd. Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun, a'r daionus gan ei weithredoedd yntau. Y mae'r gwirion yn credu pob gair, ond y mae'r call yn ystyried pob cam. Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus. Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl, a chaseir yr un dichellgar. Ffolineb yw rhan y rhai gwirion, ond gwybodaeth yw coron y rhai call.

Diarhebion 14:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei chartref, ond mae’r un ffôl yn ei rwygo i lawr â’i dwylo ei hun. Mae’r person sy’n byw’n iawn yn parchu’r ARGLWYDD, ond mae’r rhai sy’n twyllo yn ei ddirmygu. Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn, ond mae geiriau’r doeth yn ei amddiffyn. Heb ychen, mae’r cafn bwydo yn wag; mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr. Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd; ond mae tyst ffals yn palu celwyddau. Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael; ond mae person deallus yn dysgu’n rhwydd. Cadw draw o gwmni person ffôl, achos wnei di ddysgu dim ganddo. Mae person call yn gwybod ble mae e’n mynd, ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb. Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd, ond mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn profi ffafr Duw. Dim ond y galon ei hun sy’n gwybod pa mor chwerw ydy hi, a does neb arall yn gallu rhannu’i llawenydd. Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio, ond bydd cartre’r un sy’n byw’n iawn yn llwyddo. Mae yna ffordd o fyw sy’n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw. Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin, ac mae hapusrwydd yn gallu troi’n dristwch yn y diwedd. Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd, ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd. Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth, ond mae’r person call yn fwy gofalus. Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni, ond mae’r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll. Mae rhywun sy’n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl, ac mae’n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau cyfrwys. Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb, ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth.

Diarhebion 14:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Y mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei thŷ, ond y ffôl yn ei dynnu i lawr â'i dwylo'i hun. Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ofni'r ARGLWYDD, ond y cyfeiliornus ei ffyrdd yn ei ddirmygu. Yng ngeiriau'r ffôl y mae gwialen i'w gefn, ond y mae ymadroddion y doeth yn ei amddiffyn. Heb ychen y mae'r preseb yn wag, ond trwy nerth ych ceir cynnyrch llawn. Nid yw tyst gonest yn dweud celwydd, ond y mae gau dyst yn pentyrru anwireddau. Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael, ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus. Cilia oddi wrth yr un ffôl, oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo. Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd, ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain. Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd, ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol. Gŵyr y galon am ei chwerwder ei hun, ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd. Dinistrir tŷ'r drygionus, ond ffynna pabell yr uniawn. Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union, ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd. Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus, a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd. Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun, a'r daionus gan ei weithredoedd yntau. Y mae'r gwirion yn credu pob gair, ond y mae'r call yn ystyried pob cam. Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg, ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus. Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl, a chaseir yr un dichellgar. Ffolineb yw rhan y rhai gwirion, ond gwybodaeth yw coron y rhai call.

Diarhebion 14:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwraig ddoeth a adeilada ei thŷ: ond y ffolog a’i tyn ef i lawr â’i dwylo. Yr hwn sydd yn rhodio yn ei unionder, sydd yn ofni yr ARGLWYDD; a’r hwn sydd gyndyn yn ei ffyrdd, sydd yn ei ddirmygu ef. Yng ngenau y ffôl y mae gwialen balchder: ond gwefusau y doethion a’u ceidw hwynt. Lle nid oes ychen, glân yw y preseb: ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych. Tyst ffyddlon ni ddywed gelwydd; ond gau dyst a draetha gelwyddau. Y gwatwarwr a gais ddoethineb, ac nis caiff: ond gwybodaeth sydd hawdd i’r deallus. Dos ymaith oddi wrth ŵr ffôl pan wypech nad oes ganddo wefusau gwybodaeth. Doethineb y call yw deall ei ffordd ei hun: ond ffolineb y ffyliaid yw twyll. Y ffyliaid a ymhyfrydant mewn camwedd: ond ymhlith y rhai uniawn y mae ewyllys da. Y galon sydd yn gwybod chwerwder ei henaid ei hun: a’r dieithr ni bydd gyfrannog o’i llawenydd hi. Tŷ yr annuwiolion a ddinistrir: ond pabell y rhai uniawn a flodeua. Y mae ffordd sydd uniawn yng ngolwg dyn: ond ei diwedd hi yw ffyrdd angau. Ie, wrth chwerthin y bydd blin ar y galon; a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch. Y gwrthnysig o galon a gaiff ddigon o’i ffyrdd ei hun: ond y gŵr daionus a gilia oddi wrtho ef. Yr ehud a goelia bob gair: a’r call a ddeil ar ei gamre. Y doeth sydd yn ofni, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni: ond y ffôl sydd ffrom a hyderus. Gŵr dicllon a wna ffolineb: a chas yw y gŵr dichellgar. Y rhai ehud a etifeddant ffolineb: ond y rhai call a goronir â gwybodaeth.