Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 14:1-18

Diarhebion 14:1-18 BNET

Mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei chartref, ond mae’r un ffôl yn ei rwygo i lawr â’i dwylo ei hun. Mae’r person sy’n byw’n iawn yn parchu’r ARGLWYDD, ond mae’r rhai sy’n twyllo yn ei ddirmygu. Mae siarad balch y ffŵl yn wialen ar ei gefn, ond mae geiriau’r doeth yn ei amddiffyn. Heb ychen, mae’r cafn bwydo yn wag; mae cryfder ychen yn dod â chynhaeaf mawr. Dydy tyst gonest ddim yn dweud celwydd; ond mae tyst ffals yn palu celwyddau. Mae gwawdiwr yn chwilio am ddoethineb, ac yn methu ei gael; ond mae person deallus yn dysgu’n rhwydd. Cadw draw o gwmni person ffôl, achos wnei di ddysgu dim ganddo. Mae person call yn gwybod ble mae e’n mynd, ond mae ffyliaid yn mynd ar goll yn eu ffolineb. Mae ffyliaid yn gwawdio offrwm dros euogrwydd, ond mae’r rhai sy’n byw yn iawn yn profi ffafr Duw. Dim ond y galon ei hun sy’n gwybod pa mor chwerw ydy hi, a does neb arall yn gallu rhannu’i llawenydd. Bydd tai pobl ddrwg yn syrthio, ond bydd cartre’r un sy’n byw’n iawn yn llwyddo. Mae yna ffordd o fyw sy’n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw. Gall y galon fod yn drist hyd yn oed pan mae rhywun yn chwerthin, ac mae hapusrwydd yn gallu troi’n dristwch yn y diwedd. Bydd pobl ddiegwyddor yn wynebu canlyniadau eu ffyrdd, ond pobl dda yn cael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd. Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth, ond mae’r person call yn fwy gofalus. Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni, ond mae’r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll. Mae rhywun sy’n fyr ei dymer yn gwneud pethau ffôl, ac mae’n gas gan bobl rai sydd â chynlluniau cyfrwys. Mae pobl ddiniwed yn etifeddu ffolineb, ond pobl gall yn cael eu coroni â gwybodaeth.