Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 10:1-16

Diarhebion 10:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Diarhebion Solomon: Mae plentyn doeth yn gwneud ei dad yn hapus; ond mae plentyn ffôl yn gwneud ei fam yn drist. Dydy ennill ffortiwn drwy dwyll o ddim lles, ond mae gonestrwydd yn achub bywyd o berygl marwol. Dydy’r ARGLWYDD ddim yn gadael i rywun cyfiawn lwgu, ond mae’n rhwystro’r rhai drwg rhag cael beth maen nhw eisiau. Mae diogi yn arwain i dlodi, ond gwaith caled yn ennill cyfoeth. Mae’r un sy’n casglu ei gnwd yn yr haf yn gall, ond yr un sy’n cysgu drwy’r cynhaeaf yn achosi cywilydd. Mae cawodydd o fendith yn disgyn ar y cyfiawn, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb. Mae’n fendith cofio am rywun cyfiawn, ond bydd enw’r drwg yn pydru. Mae’r un sy’n ddoeth yn derbyn cyngor, ond mae’r ffŵl sy’n siarad dwli yn syrthio. Mae’r un sy’n byw yn onest yn byw’n ddibryder, ond bydd y gwir yn dod i’r golwg am yr un sy’n twyllo. Mae’r un sy’n wincio o hyd yn creu helynt, ond mae’r sawl sy’n ceryddu’n agored yn dod â heddwch. Mae geiriau person cyfiawn yn ffynnon sy’n rhoi bywyd, ond mae geiriau pobl ddrwg yn cuddio creulondeb. Mae casineb yn codi twrw, ond mae cariad yn cuddio pob bai. Mae pobl gall yn siarad yn ddoeth, ond gwialen sydd ei hangen ar rai sydd heb synnwyr cyffredin. Mae pobl ddoeth yn storio gwybodaeth, ond mae siarad dwl yn dod â dinistr yn agos. Mae holl eiddo’r cyfoethog fel caer ddiogel, ond tlodi’r tlawd yn ddinistr. Gwobr y person sy’n byw’n iawn ydy bywyd, ond cosb am bechod ydy cyflog pobl ddrwg.