Marc 6:7-12
Marc 6:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A galwodd y Deuddeg ato a dechrau eu hanfon allan bob yn ddau. Rhoddodd iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, a gorchmynnodd iddynt beidio â chymryd dim ar gyfer y daith ond ffon yn unig; dim bara, dim cod, dim pres yn eu gwregys; sandalau am eu traed, ond heb wisgo ail grys. Ac meddai wrthynt, “Lle bynnag yr ewch i mewn i dŷ, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal. Ac os bydd unrhyw le yn gwrthod eich derbyn, a phobl yn gwrthod gwrando arnoch, ewch allan oddi yno ac ysgydwch ymaith y llwch fydd dan eich traed, yn rhybudd iddynt.” Felly aethant allan a phregethu ar i bobl edifarhau
Marc 6:7-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Galwodd y deuddeg disgybl at ei gilydd, a’u hanfon allan bob yn ddau a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw allan ysbrydion drwg. Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Peidiwch mynd â dim byd ond ffon gyda chi – dim bwyd, dim bag teithio na hyd yn oed newid mân. Gwisgwch sandalau, ond peidiwch mynd â dillad sbâr. Ble bynnag ewch chi, arhoswch yn yr un tŷ nes byddwch yn gadael y dref honno. Os bydd dim croeso i chi yn rhywle, neu os bydd pobl yn gwrthod gwrando arnoch, ysgydwch y llwch oddi ar eich traed wrth adael. Bydd hynny’n arwydd o farn Duw arnyn nhw!” Felly i ffwrdd â nhw i bregethu fod rhaid i bobl droi at Dduw a newid eu ffyrdd.
Marc 6:7-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A galwodd y Deuddeg ato a dechrau eu hanfon allan bob yn ddau. Rhoddodd iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, a gorchmynnodd iddynt beidio â chymryd dim ar gyfer y daith ond ffon yn unig; dim bara, dim cod, dim pres yn eu gwregys; sandalau am eu traed, ond heb wisgo ail grys. Ac meddai wrthynt, “Lle bynnag yr ewch i mewn i dŷ, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â'r ardal. Ac os bydd unrhyw le yn gwrthod eich derbyn, a phobl yn gwrthod gwrando arnoch, ewch allan oddi yno ac ysgydwch ymaith y llwch fydd dan eich traed, yn rhybudd iddynt.” Felly aethant allan a phregethu ar i bobl edifarhau
Marc 6:7-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan; Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i’r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau: Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno. A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno. A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau