Marc 6
6
1Ac efe a aeth ymaith oddi yno, ac a ddaeth i’w wlad ei hun; a’i ddisgyblion a’i canlynasant ef. 2Ac wedi dyfod y Saboth, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog: a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef? 3Onid hwn yw’r saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Jwdas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o’i blegid ef. 4Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 5Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a’u hiacháu hwynt. 6Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i’r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu.
7Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan; 8Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i’r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau: 9Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais. 10Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno. 11A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno. 12A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau: 13Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a eliasant ag olew lawer o gleifion, ac a’u hiachasant.
14A’r brenin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. 15Eraill a ddywedasant, Mai Eleias yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai proffwyd yw, neu megis un o’r proffwydi. 16Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai’r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw. 17Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi. 18Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd. 19Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwenychodd ei ladd ef; ac nis gallodd: 20Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a’i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnâi lawer o bethau, ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar. 21Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swper i’w benaethiaid, a’i flaenoriaid, a goreugwyr Galilea: 22Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a’i rhoddaf i ti. 23Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a’i rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas. 24A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr. 25Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. 26A’r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef. 27Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef. 28Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a’i rhoddes i’r llances; a’r llances a’i rhoddes ef i’w mam. 29A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i dodasant mewn bedd.
30A’r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a’r rhai hefyd a athrawiaethasent. 31Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta. 32A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o’r neilltu. 33A’r bobloedd a’u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a’i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o’r holl ddinasoedd, ac a’u rhagflaenasant hwynt, ac a ymgasglasant ato ef. 34A’r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau. 35Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o’r dydd, y daeth ei ddisgyblion ato ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o’r dydd: 36Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i’r wlad oddi amgylch, ac i’r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i’w fwyta. 37Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a’i roddi iddynt i’w fwyta? 38Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn. 39Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt. 40A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau. 41Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua’r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion, i’w gosod ger eu bronnau hwynt: a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll. 42A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon. 43A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd, ac o’r pysgod. 44A’r rhai a fwytasent o’r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr. 45Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i’r llong, a myned o’r blaen i’r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl. 46Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i’r mynydd i weddïo.
47A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei hun ar y tir. 48Ac efe a’u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt. 49Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant. 50(Canys hwynt oll a’i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch. 51Ac efe a aeth i fyny atynt i’r llong; a’r gwynt a dawelodd. A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant. 52Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu. 53Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac a laniasant. 54Ac wedi eu myned hwynt allan o’r llong, hwy a’i hadnabuant ef yn ebrwydd. 55Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o’r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef. 56Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a atolygent iddo gael ohonynt gyffwrdd cymaint ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.
Dewis Presennol:
Marc 6: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.