Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan; Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i’r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau: Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais. Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno. A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno. A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau
Darllen Marc 6
Gwranda ar Marc 6
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Marc 6:7-12
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos