Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 6:30-44

Marc 6:30-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth yr apostolion ynghyd at Iesu a dweud wrtho am yr holl bethau yr oeddent wedi eu gwneud a'u dysgu. A dywedodd wrthynt, “Dewch chwi eich hunain o'r neilltu i le unig a gorffwyswch am dipyn.” Oherwydd yr oedd llawer yn mynd a dod, ac nid oedd cyfle iddynt hyd yn oed i fwyta. Ac aethant ymaith yn y cwch i le unig o'r neilltu. Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen. Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt. Pan oedd hi eisoes wedi mynd yn hwyr ar y dydd daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.” Atebodd yntau hwy, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent wrtho, “A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a'i roi iddynt i'w fwyta?” Meddai yntau wrthynt, “Pa sawl torth sydd gennych? Ewch i edrych.” Ac wedi cael gwybod dywedasant, “Pump, a dau bysgodyn.” Gorchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn gwmnïoedd ar y glaswellt. Ac eisteddasant yn rhesi, bob yn gant a hanner cant. Yna cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y bobl; rhannodd hefyd y ddau bysgodyn rhwng pawb. Bwytasant oll a chael digon. A chodasant ddeuddeg basgedaid o dameidiau bara, a pheth o'r pysgod. Ac yr oedd y rhai oedd wedi bwyta'r torthau yn bum mil o wŷr.

Marc 6:30-44 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw’n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi’i wneud a’i ddysgu. Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu’n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.” I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau’u hunain. Ond roedd llawer o bobl wedi’u gweld yn gadael, ac wedi cerdded ar frys o’r holl drefi a chyrraedd yno o’u blaenau. Pan gyrhaeddodd Iesu’r lan a gweld y dyrfa fawr yno, roedd yn teimlo i’r byw drostyn nhw, am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw. Roedd hi’n mynd yn hwyr, felly dyma’i ddisgyblion yn dod ato a dweud, “Mae’r lle yma’n anial, ac mae’n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd i’r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i’w fwyta.” Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai’n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!” “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw’n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!” Dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw am wneud i’r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt. Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant. Wedyn dyma Iesu’n cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a’i roi i’w ddisgyblion i’w rannu i’r bobl, a gwneud yr un peth gyda’r ddau bysgodyn. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a dyma nhw’n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!

Marc 6:30-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a’r rhai hefyd a athrawiaethasent. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta. A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o’r neilltu. A’r bobloedd a’u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a’i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o’r holl ddinasoedd, ac a’u rhagflaenasant hwynt, ac a ymgasglasant ato ef. A’r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau. Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o’r dydd, y daeth ei ddisgyblion ato ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o’r dydd: Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i’r wlad oddi amgylch, ac i’r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i’w fwyta. Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a’i roddi iddynt i’w fwyta? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn. Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt. A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau. Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua’r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion, i’w gosod ger eu bronnau hwynt: a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll. A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon. A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd, ac o’r pysgod. A’r rhai a fwytasent o’r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr.