Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 6:30-44

Marc 6:30-44 BNET

Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw’n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi’i wneud a’i ddysgu. Ond roedd cymaint o bobl yn mynd a dod nes bod dim cyfle iddyn nhw fwyta hyd yn oed. Felly dyma Iesu’n dweud, “Gadewch i ni fynd i ffwrdd i rywle tawel i chi gael gorffwys.” I ffwrdd â nhw mewn cwch i le tawel i fod ar eu pennau’u hunain. Ond roedd llawer o bobl wedi’u gweld yn gadael, ac wedi cerdded ar frys o’r holl drefi a chyrraedd yno o’u blaenau. Pan gyrhaeddodd Iesu’r lan a gweld y dyrfa fawr yno, roedd yn teimlo i’r byw drostyn nhw, am eu bod fel defaid heb fugail i ofalu amdanyn nhw. Felly treuliodd amser yn dysgu llawer o bethau iddyn nhw. Roedd hi’n mynd yn hwyr, felly dyma’i ddisgyblion yn dod ato a dweud, “Mae’r lle yma’n anial, ac mae’n mynd yn hwyr. Anfon y bobl i ffwrdd i’r pentrefi sydd o gwmpas, iddyn nhw gael mynd i brynu rhywbeth i’w fwyta.” Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai’n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!” “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw’n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!” Dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw am wneud i’r bobl eistedd mewn grwpiau ar y glaswellt. Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant. Wedyn dyma Iesu’n cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a’i roi i’w ddisgyblion i’w rannu i’r bobl, a gwneud yr un peth gyda’r ddau bysgodyn. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, a dyma nhw’n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!