Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 5:1-15

Micha 5:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Yn awr, dos i mewn i'th gaer, ti ferch gaerog; y mae gwarchae wedi ei osod yn ein herbyn; trewir barnwr Israel ar ei foch â ffon.” Ond ti, Bethlehem Effrata, sy'n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda, ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywodraethwr yn Israel, a'i darddiad yn y gorffennol, mewn dyddiau gynt. Felly fe'u gedy hyd amser esgor yr un feichiog, ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israel at eu tylwyth. Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD, ac ym mawredd enw'r ARGLWYDD ei Dduw. A byddant yn ddiogel, oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau'r ddaear; ac yna bydd heddwch. Pan ddaw Asyria i'n gwlad, a cherdded hyd ein tir, codwn yn ei erbyn saith o fugeiliaid ac wyth o arweinwyr pobl. A bugeiliant Asyria â'r cleddyf, a thir Nimrod â'r cleddyf noeth; fe'n gwaredant oddi wrth Asyria pan ddaw i'n gwlad a sarnu'n terfynau. A bydd gweddill Jacob yng nghanol pobloedd lawer, fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, fel cawodydd ar laswellt, nad ydynt yn disgwyl wrth ddyn, nac yn aros am feibion dynion. A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd, ac yng nghanol pobloedd lawer, fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig, fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid, sydd, wrth fynd heibio, yn mathru ac yn malurio, heb neb i waredu. Bydd dy law wedi ei chodi yn erbyn dy wrthwynebwyr, a thorrir ymaith dy holl elynion. “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “distrywiaf dy feirch o'ch plith, a dinistriaf dy gerbydau. Distrywiaf ddinasoedd dy wlad, a mathraf dy holl geyrydd. Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael, ac ni fydd gennyt ddewiniaid. Distrywiaf dy gerfddelwau a'th golofnau o'ch mysg, a mwyach nid addoli waith dy ddwylo dy hun. Diwreiddiaf y prennau Asera yn eich plith, a dinistriaf dy ddinasoedd. Mewn llid a digofaint fe ddialaf ar yr holl genhedloedd na fuont yn ufudd.”

Micha 5:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar hyn o bryd rwyt ti’n torri dy hun â chyllyll ti ddinas dan ymosodiad! Mae’r gelyn yn gwarchae arnon ni! Maen nhw’n taro arweinydd Israel ar y foch gyda theyrnwialen. Ond wedyn ti, Bethlehem Effrata, rwyt ti’n un o’r pentrefi lleiaf pwysig yn Jwda. Ond ohonot ti y daw un fydd yn teyrnasu yn Israel – Un sydd â’i wreiddiau yn mynd yn ôl i’r dechrau yn y gorffennol pell. Felly bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pobl Israel i’r gelyn, hyd nes bydd yr un sy’n cael y babi wedi geni’r plentyn. Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adre at blant Israel. Bydd yn codi i arwain ei bobl fel bugail yn gofalu am ei braidd. Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr ARGLWYDD a gydag awdurdod yr ARGLWYDD ei Dduw. Byddan nhw yno i aros, achos bydd e’n cael ei anrhydeddu gan bawb i ben draw’r byd. Bydd e’n dod â heddwch i ni. “Os bydd Asyria’n ymosod ar ein tir ac yn ceisio mynd i mewn i’n plastai, bydd digon o arweinwyr i’w rhwystro! Byddan nhw’n rheoli Asyria gyda’r cleddyf; gwlad Nimrod gyda llafnau parod! Bydd ein brenin yn ein hachub pan fydd Asyria’n ymosod ar ein gwlad, ac yn ceisio croesi ein ffiniau.” ARGLWYDD Bydd pobl Jacob sydd ar ôl ar wasgar yng nghanol y bobloedd, fel y gwlith mae’r ARGLWYDD yn ei anfon, neu gawodydd o law ar laswellt – sydd ddim yn dibynnu ar bobl na disgwyl am eu caniatâd cyn dod. Bydd pobl Jacob sydd ar ôl yn byw yn y gwledydd, ar wasgar yng nghanol y bobloedd. Byddan nhw fel llew yng nghanol yr anifeiliaid gwyllt, neu lew ifanc yng nghanol praidd o ddefaid – yn rhydd i ladd a rhwygo heb neb i’w stopio. Byddi’n codi dy law i daro’r rhai sy’n dy erbyn, a dinistrio dy elynion i gyd! ARGLWYDD “Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD, “bydda i’n cael gwared â’ch arfau i gyd – y ceffylau a’r cerbydau rhyfel. Bydda i’n dinistrio trefi’r wlad ac yn bwrw i lawr y caerau amddiffynnol. Bydda i’n stopio eich dewino a’ch swynion, a fydd neb ar ôl i ddweud ffortiwn. Bydda i’n dinistrio’ch delwau cerfiedig a’ch colofnau cysegredig. Fyddwch chi byth eto yn plygu i addoli gwaith eich dwylo eich hunain. Bydda i’n diwreiddio polion y dduwies Ashera, ac yn dinistrio’ch eilun-dduwiau. Bydda i’n dial yn wyllt ar y gwledydd sy’n gwrthod gwrando arna i.”

Micha 5:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i’n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern. A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o’r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb. Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i’r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel. Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr ARGLWYDD, yn ardderchowgrwydd enw yr ARGLWYDD ei DDUW; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear. A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i’n tir ni: a phan sathro o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o’r dynion pennaf. A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf, a thir Nimrod â’i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a’n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i’n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau. A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion. A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd. Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a’th holl elynion a dorrir ymaith. A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr ARGLWYDD, i mi dorri ymaith dy feirch o’th ganol di, a dinistrio dy gerbydau: Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd: A thorraf ymaith o’th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid: Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a’th ddelwau o’th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun: Diwreiddiaf dy lwyni o’th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd. Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.