“Yn awr, dos i mewn i'th gaer, ti ferch gaerog;
y mae gwarchae wedi ei osod yn ein herbyn;
trewir barnwr Israel ar ei foch â ffon.”
Ond ti, Bethlehem Effrata,
sy'n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda,
ohonot ti y daw allan i mi
un i fod yn llywodraethwr yn Israel,
a'i darddiad yn y gorffennol,
mewn dyddiau gynt.
Felly fe'u gedy hyd amser esgor yr un feichiog,
ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israel
at eu tylwyth.
Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD,
ac ym mawredd enw'r ARGLWYDD ei Dduw.
A byddant yn ddiogel,
oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau'r ddaear;
ac yna bydd heddwch.
Pan ddaw Asyria i'n gwlad,
a cherdded hyd ein tir,
codwn yn ei erbyn saith o fugeiliaid
ac wyth o arweinwyr pobl.
A bugeiliant Asyria â'r cleddyf,
a thir Nimrod â'r cleddyf noeth;
fe'n gwaredant oddi wrth Asyria
pan ddaw i'n gwlad
a sarnu'n terfynau.
A bydd gweddill Jacob yng nghanol pobloedd lawer,
fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD,
fel cawodydd ar laswellt,
nad ydynt yn disgwyl wrth ddyn,
nac yn aros am feibion dynion.
A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd,
ac yng nghanol pobloedd lawer,
fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig,
fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid,
sydd, wrth fynd heibio, yn mathru
ac yn malurio, heb neb i waredu.
Bydd dy law wedi ei chodi yn erbyn dy wrthwynebwyr,
a thorrir ymaith dy holl elynion.
“Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,
“distrywiaf dy feirch o'ch plith,
a dinistriaf dy gerbydau.
Distrywiaf ddinasoedd dy wlad,
a mathraf dy holl geyrydd.
Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael,
ac ni fydd gennyt ddewiniaid.
Distrywiaf dy gerfddelwau
a'th golofnau o'ch mysg,
a mwyach nid addoli waith dy ddwylo dy hun.
Diwreiddiaf y prennau Asera yn eich plith,
a dinistriaf dy ddinasoedd.
Mewn llid a digofaint fe ddialaf
ar yr holl genhedloedd na fuont yn ufudd.”