Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micha 5

5
1Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i’n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern. 2A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o’r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb. 3Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i’r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.
4Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr Arglwydd, yn ardderchowgrwydd enw yr Arglwydd ei Dduw; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear. 5A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i’n tir ni: a phan sathro o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o’r dynion pennaf. 6A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf, a thir Nimrod â’i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a’n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i’n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau. 7A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr Arglwydd, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.
8A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd. 9Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a’th holl elynion a dorrir ymaith. 10A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr Arglwydd, i mi dorri ymaith dy feirch o’th ganol di, a dinistrio dy gerbydau: 11Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd: 12A thorraf ymaith o’th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid: 13Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a’th ddelwau o’th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun: 14Diwreiddiaf dy lwyni o’th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd. 15Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.

Dewis Presennol:

Micha 5: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda