Mathew 4:12-25
Mathew 4:12-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea. Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali. Felly roedd beth ddwedodd Duw drwy’r proffwyd Eseia yn dod yn wir: “Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr, a’r ardal yr ochr draw i afon Iorddonen, hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw – Mae’r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch wedi gweld golau llachar; ac mae golau wedi gwawrio ar y rhai sy’n byw dan gysgod marwolaeth.” Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.” Un tro roedd Iesu’n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, oedd pawb yn ei alw’n Pedr, a’i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi’n taflu rhwyd i’r llyn. Dyma Iesu’n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi’n bysgotwyr sy’n dal pobl yn lle pysgod.” Heb oedi, dyma’r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl. Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall – Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu’n eu galw nhw hefyd, a dyma nhw’n gadael y cwch a’u tad a dechrau dilyn Iesu. Roedd Iesu’n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu’r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi’r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl. Daeth Iesu’n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi’u parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd. Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman – pobl o Galilea, y Decapolis, Jerwsalem a Jwdea, ac o’r ochr draw i afon Iorddonen.
Mathew 4:12-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi ei garcharu, aeth Iesu ymaith i Galilea. A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd: “Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali, ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd; y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, ac ar drigolion tir cysgod angau y gwawriodd goleuni.” O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.” Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau frawd, Simon, a elwid Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent. A dywedodd wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.” Gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef. Ac wedi iddo fynd ymlaen oddi yno gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio eu rhwydau. Galwodd hwythau, ac ar unwaith, gan adael y cwch a'u tad, canlynasant ef. Yr oedd yn mynd o amgylch Galilea gyfan, dan ddysgu yn eu synagogau hwy a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd ymhlith y bobl. Aeth y sôn amdano trwy Syria gyfan; dygasant ato yr holl gleifion oedd yn dioddef dan amrywiol afiechydon, y rhai oedd yn cael eu llethu gan boenau, y rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, y rhai'n dioddef o ffitiau, a'r rhai oedd wedi eu parlysu; ac fe iachaodd ef hwy. A dilynwyd ef gan dyrfaoedd mawr o Galilea a'r Decapolis, a Jerwsalem a Jwdea, a'r tu hwnt i'r Iorddonen.
Mathew 4:12-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glybu’r Iesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilea. A chan ado Nasareth, efe a aeth ac a arhosodd yng Nghapernaum, yr hon sydd wrth y môr, yng nghyffiniau Sabulon a Neffthali: Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Tir Sabulon, a thir Neffthali, wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea’r Cenhedloedd: Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr; ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chysgod angau, y cyfododd goleuni iddynt. O’r pryd hwnnw y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd. A’r Iesu yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu ddau frodyr, Simon, yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i’r môr; canys pysgodwyr oeddynt: Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a mi a’ch gwnaf yn bysgodwyr dynion. A hwy yn y fan, gan adael y rhwydau, a’i canlynasant ef. Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gyda Sebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau; ac a’u galwodd hwy. Hwythau yn ebrwydd, gan adael y llong a’u tad, a’i canlynasant ef. A’r Iesu a aeth o amgylch holl Galilea, gan ddysgu yn eu synagogau, a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl. Ac aeth sôn amdano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a’r rhai cythreulig, a’r rhai lloerig, a’r sawl oedd â’r parlys arnynt; ac efe a’u hiachaodd hwynt. A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef o Galilea, a Decapolis, a Jerwsalem, a Jwdea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen.