Ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi ei garcharu, aeth Iesu ymaith i Galilea. A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali, fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:
“Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali,
ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd;
y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwch
a welodd oleuni mawr,
ac ar drigolion tir cysgod angau
y gwawriodd goleuni.”
O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”
Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau frawd, Simon, a elwid Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent. A dywedodd wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.” Gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef. Ac wedi iddo fynd ymlaen oddi yno gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio eu rhwydau. Galwodd hwythau, ac ar unwaith, gan adael y cwch a'u tad, canlynasant ef.
Yr oedd yn mynd o amgylch Galilea gyfan, dan ddysgu yn eu synagogau hwy a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd ymhlith y bobl. Aeth y sôn amdano trwy Syria gyfan; dygasant ato yr holl gleifion oedd yn dioddef dan amrywiol afiechydon, y rhai oedd yn cael eu llethu gan boenau, y rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, y rhai'n dioddef o ffitiau, a'r rhai oedd wedi eu parlysu; ac fe iachaodd ef hwy. A dilynwyd ef gan dyrfaoedd mawr o Galilea a'r Decapolis, a Jerwsalem a Jwdea, a'r tu hwnt i'r Iorddonen.