Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 4

4
Temtiad Iesu
Mc. 1:12–13; Lc. 4:1–13
1Yna arweiniwyd Iesu i'r anialwch gan yr Ysbryd, i gael ei demtio gan y diafol. 2Wedi iddo ymprydio am ddeugain dydd a deugain nos daeth arno eisiau bwyd. 3A daeth y temtiwr a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi'n fara.” 4Ond atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig:
“ ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw,
ond ar bob gair sy'n dod allan
o enau Duw.’ ”
5Yna cymerodd y diafol ef i'r ddinas sanctaidd, a'i osod ar dŵr uchaf y deml, 6a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; oherwydd y mae'n ysgrifenedig:
“ ‘Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat;
byddant yn dy godi ar eu dwylo
rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ”
7Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'n ysgrifenedig drachefn: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ” 8Unwaith eto cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant, 9a dweud wrtho, “Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.” 10Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig:
“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,
ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”
11Yna gadawodd y diafol ef, a daeth angylion a gweini arno.
Dechrau'r Weinidogaeth yng Ngalilea
Mc. 1:14–15; Lc. 4:14–15
12Ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi ei garcharu, aeth Iesu ymaith i Galilea. 13A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali, 14fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:
15“Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali,
ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd;
16y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwch
a welodd oleuni mawr,
ac ar drigolion tir cysgod angau
y gwawriodd goleuni.”
17O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”
Galw Pedwar Pysgotwr
Mc. 1:16–20; Lc. 5:1–11
18Wrth gerdded ar lan Môr Galilea gwelodd Iesu ddau frawd, Simon, a elwid Pedr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; pysgotwyr oeddent. 19A dywedodd wrthynt, “Dewch ar fy ôl i, ac fe'ch gwnaf yn bysgotwyr dynion.” 20Gadawsant eu rhwydau ar unwaith a'i ganlyn ef. 21Ac wedi iddo fynd ymlaen oddi yno gwelodd ddau frawd arall, Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd, yn y cwch gyda Sebedeus eu tad yn cyweirio eu rhwydau. Galwodd hwythau, 22ac ar unwaith, gan adael y cwch a'u tad, canlynasant ef.
Gweinidogaethu i Dyrfa Fawr
Lc. 6:17–19
23Yr oedd yn mynd o amgylch Galilea gyfan, dan ddysgu yn eu synagogau hwy a phregethu efengyl y deyrnas, ac iacháu pob afiechyd a phob llesgedd ymhlith y bobl. 24Aeth y sôn amdano trwy Syria gyfan; dygasant ato yr holl gleifion oedd yn dioddef dan amrywiol afiechydon, y rhai oedd yn cael eu llethu gan boenau, y rhai oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, y rhai'n dioddef o ffitiau, a'r rhai oedd wedi eu parlysu; ac fe iachaodd ef hwy. 25A dilynwyd ef gan dyrfaoedd mawr o Galilea a'r Decapolis, a Jerwsalem a Jwdea, a'r tu hwnt i'r Iorddonen.

Dewis Presennol:

Mathew 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd