Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 26:1-16

Mathew 26:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan orffennodd Iesu lefaru'r holl eiriau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Gwyddoch fod y Pasg yn dod ymhen deuddydd, ac fe draddodir Mab y Dyn i'w groeshoelio.” Yna daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ynghyd yng nghyntedd yr archoffeiriad, a elwid Caiaffas, a chynllwyn i ddal Iesu trwy ddichell a'i ladd. Ond dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag digwydd cynnwrf ymhlith y bobl.” Pan oedd Iesu ym Methania yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd. Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, “I ba beth y bu'r gwastraff hwn? Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am lawer o arian a'i roi i'r tlodion.” Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, “Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi. Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser. Wrth dywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, fy mharatoi yr oedd hi ar gyfer fy nghladdu. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yma yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.” Yna aeth un o'r Deuddeg, hwnnw a elwid Jwdas Iscariot, at y prif offeiriaid a dweud, “Beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi?” Talasant iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian; ac o'r pryd hwnnw dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.

Mathew 26:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, meddai wrth ei ddisgyblion, “Fel dych chi’n gwybod, mae’n Ŵyl y Pasg nos fory. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i’m croeshoelio.” Yr un pryd, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad, i drafod sut allen nhw arestio Iesu a’i ladd. “Ond dim yn ystod yr Ŵyl,” medden nhw, “neu bydd reiat.” Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‘Simon y gwahanglwyf’. Roedd yno’n bwyta pan ddaeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr drud, a thywallt y persawr ar ei ben. Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi’n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw, “Gallai rhywun fod wedi gwerthu’r persawr yna am arian mawr, a rhoi’r cwbl i bobl dlawd.” Roedd Iesu’n gwybod beth oedden nhw’n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i’r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd. Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser. Wrth dywallt y persawr yma arna i mae hi wedi paratoi fy nghorff ar gyfer ei gladdu. Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.” Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid a gofyn iddyn nhw, “Faint wnewch chi dalu i mi os gwna i ei fradychu e?” A dyma nhw’n cytuno i roi tri deg darn arian iddo. O hynny ymlaen roedd Jwdas yn edrych am ei gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.

Mathew 26:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio. Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl. Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser. Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi. Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef.