A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio. Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.
Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser. Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.
Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef.