Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 26:1-16

Mathew 26:1-16 BNET

Pan oedd Iesu wedi gorffen dweud y pethau yma i gyd, meddai wrth ei ddisgyblion, “Fel dych chi’n gwybod, mae’n Ŵyl y Pasg nos fory. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy mradychu i’m croeshoelio.” Yr un pryd, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad, i drafod sut allen nhw arestio Iesu a’i ladd. “Ond dim yn ystod yr Ŵyl,” medden nhw, “neu bydd reiat.” Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‘Simon y gwahanglwyf’. Roedd yno’n bwyta pan ddaeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr drud, a thywallt y persawr ar ei ben. Roedd y disgyblion yn wyllt pan welon nhw hi’n gwneud hyn. “Am wastraff!” medden nhw, “Gallai rhywun fod wedi gwerthu’r persawr yna am arian mawr, a rhoi’r cwbl i bobl dlawd.” Roedd Iesu’n gwybod beth oedden nhw’n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i’r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd. Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, ond fydda i ddim yma bob amser. Wrth dywallt y persawr yma arna i mae hi wedi paratoi fy nghorff ar gyfer ei gladdu. Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.” Ar ôl i hyn ddigwydd aeth Jwdas Iscariot, un o’r deuddeg disgybl, at y prif offeiriaid a gofyn iddyn nhw, “Faint wnewch chi dalu i mi os gwna i ei fradychu e?” A dyma nhw’n cytuno i roi tri deg darn arian iddo. O hynny ymlaen roedd Jwdas yn edrych am ei gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw.