Mathew 13:1-32
Mathew 13:1-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan ac eistedd ar lan Llyn Galilea. Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu o’i gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had. Wrth iddo wasgaru’r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma’r adar yn dod a’i fwyta. Dyma beth o’r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn, ond yn yr haul poeth dyma’r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau. Yna dyma beth o’r had yn syrthio i ganol drain, ond tyfodd y drain a thagu’r planhigion. Ond syrthiodd peth o’r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – beth ohono gan gwaith, chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na chafodd ei hau.” “Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu!” Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt ti’n dweud y straeon yma wrthyn nhw?” Dyma oedd ei ateb: “Dych chi’n cael gwybod beth ydy’r gyfrinach am deyrnasiad yr Un nefol, ond dydyn nhw ddim. Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy, a byddan nhw ar ben eu digon! Ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim – bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw. Dyna pam dw i’n defnyddio straeon i siarad â nhw. Er eu bod yn edrych, dŷn nhw ddim yn gweld; er eu bod yn gwrando, dŷn nhw ddim yn clywed nac yn deall. Ynddyn nhw mae’r hyn wnaeth Eseia ei broffwydo yn dod yn wir: ‘Byddwch chi’n gwrando’n astud, ond byth yn deall; Byddwch chi’n edrych yn ofalus, ond byth yn dirnad. Maen nhw’n rhy ystyfnig i ddysgu unrhyw beth – maen nhw’n fyddar, ac wedi cau eu llygaid. Fel arall, bydden nhw’n gweld â’u llygaid, yn clywed â’u clustiau, yn deall go iawn, ac yn troi, a byddwn i’n eu hiacháu nhw’. Ond dych chi’n cael y fath fraint o weld a chlywed y cwbl! Wir i chi, mae llawer o broffwydi a phobl dduwiol wedi hiraethu am gael gweld beth dych chi’n ei weld a chlywed beth dych chi’n ei glywed, ond chawson nhw ddim. “Felly dyma beth ydy ystyr stori’r ffermwr yn hau: Pan mae rhywun yn clywed y neges am y deyrnas a ddim yn deall, mae’r Un drwg yn dod ac yn cipio beth gafodd ei hau yn y galon. Dyna’r had ddisgynnodd ar y llwybr. Yr had sy’n syrthio ar dir creigiog ydy’r sawl sy’n derbyn y neges yn frwd i ddechrau. Ond dydy’r neges ddim yn gafael yn y person go iawn, ac felly dydy e ddim yn para’n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am ei fod wedi credu, mae’n troi cefn yn ddigon sydyn! Wedyn yr had syrthiodd i ganol drain ydy’r sawl sy’n clywed y neges, ond mae’n rhy brysur yn poeni am hyn a’r llall ac yn ceisio gwneud arian. Felly mae’r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i’w weld yn ei fywyd. Ond yr had sy’n syrthio ar dir da ydy’r sawl sy’n clywed y neges ac yn ei deall. Mae’r effaith fel cnwd anferth – can gwaith neu chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na gafodd ei hau.” Dwedodd Iesu stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel dyn yn hau had da yn ei gae. Tra oedd pawb yn cysgu, dyma rywun oedd yn ei gasáu yn hau chwyn yng nghanol y gwenith. Pan ddechreuodd y gwenith egino a thyfu, daeth y chwyn i’r golwg hefyd. “Aeth gweision y ffermwr ato a dweud, ‘Feistr, onid yr had gorau gafodd ei hau yn dy gae di? O ble mae’r holl chwyn yma wedi dod?’ “‘Rhywun sy’n fy nghasáu i sy’n gyfrifol am hyn’ meddai. “‘Felly, wyt ti am i ni fynd i godi’r chwyn?’ meddai ei weision. “‘Na,’ meddai’r dyn, ‘Rhag ofn i chi godi peth o’r gwenith wrth dynnu’r chwyn. Gadewch i’r gwenith a’r chwyn dyfu gyda’i gilydd. Wedyn pan ddaw’r cynhaeaf bydda i’n dweud wrth y rhai fydd yn casglu’r cynhaeaf: Casglwch y chwyn gyntaf, a’u rhwymo’n fwndeli i’w llosgi; wedyn cewch gasglu’r gwenith a’i roi yn fy ysgubor.’” Dwedodd stori arall wrthyn nhw: “Mae teyrnasiad yr Un nefol fel hedyn mwstard yn cael ei blannu gan rywun yn ei gae. Er mai dyma’r hedyn lleia un, mae’n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae’n tyfu’n goeden y gall yr adar ddod i nythu yn ei changhennau!”
Mathew 13:1-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan o'r tŷ ac eisteddodd ar lan y môr. Daeth tyrfaoedd mawr ynghyd ato, nes iddo fynd ac eistedd mewn cwch, ac yr oedd yr holl dyrfa yn sefyll ar y lan. Fe lefarodd lawer wrthynt ar ddamhegion, gan ddweud: “Aeth heuwr allan i hau. Ac wrth iddo hau, syrthiodd peth had ar hyd y llwybr, a daeth yr adar a'i fwyta. Syrthiodd peth arall ar leoedd creigiog, lle na chafodd fawr o bridd, a thyfodd yn gyflym am nad oedd iddo ddyfnder daear. Ond wedi i'r haul godi fe'i llosgwyd, ac am nad oedd iddo wreiddyn fe wywodd. Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, a thyfodd y drain a'u tagu. A syrthiodd eraill ar dir da a ffrwytho, peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.” Daeth y disgyblion a dweud wrtho, “Pam yr wyt yn siarad wrthynt ar ddamhegion?” Atebodd yntau, “I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas nefoedd wedi ei roi, ond iddynt hwy nis rhoddwyd. Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, a bydd ganddo fwy na digon; ond oddi ar yr sawl nad oes ganddo y dygir hyd yn oed hynny sydd ganddo. Am hynny yr wyf yn siarad wrthynt ar ddamhegion; oherwydd er iddynt edrych nid ydynt yn gweld, ac er iddynt wrando nid ydynt yn clywed nac yn deall. A chyflawnir ynddynt hwy y broffwydoliaeth gan Eseia sy'n dweud: “ ‘Er clywed a chlywed, ni ddeallwch ddim; er edrych ac edrych, ni welwch ddim. Canys brasawyd calon y bobl yma, y mae eu clyw yn drwm, a'u llygaid wedi cau; rhag iddynt weld â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'u calon, a throi'n ôl, i mi eu hiacháu.’ “Ond gwyn eu byd eich llygaid chwi am eu bod yn gweld, a'ch clustiau chwi am eu bod yn clywed. Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a rhai cyfiawn wedi dyheu am weld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant. “Gwrandewch chwithau felly ar ddameg yr heuwr. Pan fydd unrhyw un yn clywed gair y deyrnas heb ei ddeall, daw'r Un drwg a chipio'r hyn a heuwyd yn ei galon. Dyma'r un sy'n derbyn yr had ar hyd y llwybr. A'r un sy'n derbyn yr had ar leoedd creigiog, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei dderbyn ar ei union yn llawen. Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo'i hunan, a thros dro y mae'n para; pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwymp ar unwaith. Yr un sy'n derbyn yr had ymhlith y drain, dyma'r un sy'n clywed y gair, ond y mae gofal y byd hwn a hudoliaeth golud yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth. A'r un sy'n derbyn yr had ar dir da, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth ac yn rhoi peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.” Cyflwynodd Iesu ddameg arall iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i ddyn a heuodd had da yn ei faes. Ond pan oedd pawb yn cysgu, daeth ei elyn a hau efrau ymysg yr ŷd a mynd ymaith. Pan eginodd y cnwd a dwyn ffrwyth, yna ymddangosodd yr efrau hefyd. Daeth gweision gŵr y tŷ a dweud wrtho, ‘Syr, onid had da a heuaist yn dy faes? O ble felly y daeth efrau iddo?’ Atebodd yntau, ‘Gelyn a wnaeth hyn.’ Meddai'r gweision wrtho, ‘A wyt am i ni fynd allan a chasglu'r efrau?’ ‘Na,’ meddai ef, ‘wrth gasglu'r efrau fe allwch ddiwreiddio'r ŷd gyda hwy. Gadewch i'r ddau dyfu gyda'i gilydd hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf dywedaf wrth y medelwyr, “Casglwch yr efrau yn gyntaf, a rhwymwch hwy'n sypynnau i'w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i'm hysgubor.” ’ ” A dyma ddameg arall a gyflwynodd iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a'i hau yn ei faes. Dyma'r lleiaf o'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw'r mwyaf o'r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau.”
Mathew 13:1-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y môr. A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i’r llong, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr heuwr a aeth allan i hau. Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant. Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear: Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant. A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy. Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy. Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo. Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch; Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt. Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed: Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant. Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr. Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae’r drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd. A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn; Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir. A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain. Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes: A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. Ac wedi i’r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo? Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt? Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt. Gadewch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i’m hysgubor. Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes: Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.