Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y môr. A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i’r llong, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr heuwr a aeth allan i hau. Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant. Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear: Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant. A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy. Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy. Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo. Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch; Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt. Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed: Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.
Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr. Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae’r drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd. A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn; Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir. A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.
Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes: A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. Ac wedi i’r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo? Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt? Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt. Gadewch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i’m hysgubor.
Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes: Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.