Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 4:1-20

Luc 4:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dychwelodd Iesu, yn llawn o'r Ysbryd Glân, o'r Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn yr anialwch am ddeugain diwrnod, a'r diafol yn ei demtio. Ni fwytaodd ddim yn ystod y dyddiau hynny, ac ar eu diwedd daeth arno eisiau bwyd. Meddai'r diafol wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y garreg hon am droi'n fara.” Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw.’ ” Yna aeth y diafol ag ef i fyny a dangos iddo ar amrantiad holl deyrnasoedd y byd, a dywedodd wrtho, “I ti y rhof yr holl awdurdod ar y rhain a'u gogoniant hwy; oherwydd i mi y mae wedi ei draddodi, ac yr wyf yn ei roi i bwy bynnag a fynnaf. Felly, os addoli di fi, dy eiddo di fydd y cyfan.” Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi.’ ” Ond aeth y diafol ag ef i Jerwsalem, a'i osod ar dŵr uchaf y deml, a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddi yma; oherwydd y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat, i'th warchod di rhag pob perygl’, “a hefyd: “ ‘Byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ” Yna atebodd Iesu ef, “Y mae'r Ysgrythur yn dweud: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ” Ac ar ôl iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle. Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y sôn amdano ar hyd a lled y gymdogaeth. Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb. Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn ôl ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen. Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl a chael y man lle'r oedd yn ysgrifenedig: “Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f'eneinio i bregethu'r newydd da i dlodion. Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.” Wedi cau'r sgrôl a'i rhoi'n ôl i'r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno.

Luc 4:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd Iesu’n llawn o’r Ysbryd Glân pan aeth yn ôl o ardal yr Iorddonen. Gadawodd i’r Ysbryd ei arwain i’r anialwch, lle cafodd ei demtio gan y diafol am bedwar deg diwrnod. Wnaeth Iesu ddim bwyta o gwbl yn ystod y dyddiau yna, ac erbyn y diwedd roedd yn llwgu. Dyma’r diafol yn dweud wrtho, “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i’r garreg yma droi’n dorth o fara.” Atebodd Iesu, “Na! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Dim bwyd ydy’r unig beth mae pobl ei angen i fyw.’ ” Dyma’r diafol yn ei arwain i le uchel ac yn dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad. Ac meddai’r diafol wrtho, “Gwna i adael i ti reoli’r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae’r cwbl wedi’u rhoi i mi, ac mae gen i hawl i’w rhoi nhw i bwy bynnag dw i’n ei ddewis. Felly, os gwnei di fy addoli i, cei di’r cwbl.” Atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola’r Arglwydd dy Dduw, a’i wasanaethu e’n unig.’ ” Dyma’r diafol yn mynd â Iesu i Jerwsalem a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o’r fan yma. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydd Duw yn gorchymyn i’w angylion dy gadw’n saff; byddan nhw’n dy ddal yn eu breichiau, fel na fyddi’n taro dy droed ar garreg.’ ” Atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi’r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’ ” Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi. Aeth Iesu yn ôl i Galilea yn llawn o nerth yr Ysbryd, ac aeth y sôn amdano ar led drwy’r ardal gyfan. Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb. A daeth i Nasareth, lle cafodd ei fagu, a mynd i’r synagog ar y Saboth fel roedd yn arfer ei wneud. Safodd ar ei draed i ddarllen o’r ysgrifau sanctaidd. Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei rhoi iddo, a dyma fe’n ei hagor, a dod o hyd i’r darn sy’n dweud: “Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid, a phobl sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl, a’r rhai sy’n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr, a dweud hefyd fod y flwyddyn i’r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.” Caeodd y sgrôl a’i rhoi yn ôl i’r dyn oedd yn arwain yr oedfa yn y synagog, ac yna eisteddodd. Roedd pawb yn y synagog yn syllu arno.

Luc 4:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch, Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeugain niwrnod. Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd. A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg hon fel y gwneler hi yn fara. A’r Iesu a atebodd iddo, gan ddywedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw. A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr. A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi. Os tydi gan hynny a addoli o’m blaen, eiddot ti fyddant oll. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dy Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi. Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem, ac a’i gosododd ar binacl y deml, ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma: Canys ysgrifenedig yw, Y gorchymyn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di; Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dy Dduw. Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser. A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôn a aeth amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch. Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb. Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarllen. A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig, Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu i’r tlodion yr anfonodd fi, i iacháu’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a chaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydd-deb, I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd. Ac wedi iddo gau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno.