Roedd Iesu’n llawn o’r Ysbryd Glân pan aeth yn ôl o ardal yr Iorddonen. Gadawodd i’r Ysbryd ei arwain i’r anialwch, lle cafodd ei demtio gan y diafol am bedwar deg diwrnod. Wnaeth Iesu ddim bwyta o gwbl yn ystod y dyddiau yna, ac erbyn y diwedd roedd yn llwgu.
Dyma’r diafol yn dweud wrtho, “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i’r garreg yma droi’n dorth o fara.”
Atebodd Iesu, “Na! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Dim bwyd ydy’r unig beth mae pobl ei angen i fyw.’ ”
Dyma’r diafol yn ei arwain i le uchel ac yn dangos holl wledydd y byd iddo mewn eiliad. Ac meddai’r diafol wrtho, “Gwna i adael i ti reoli’r rhain i gyd, a chael eu cyfoeth nhw hefyd. Mae’r cwbl wedi’u rhoi i mi, ac mae gen i hawl i’w rhoi nhw i bwy bynnag dw i’n ei ddewis. Felly, os gwnei di fy addoli i, cei di’r cwbl.”
Atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola’r Arglwydd dy Dduw, a’i wasanaethu e’n unig.’ ”
Dyma’r diafol yn mynd â Iesu i Jerwsalem a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. “Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o’r fan yma. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
‘Bydd Duw yn gorchymyn i’w angylion
dy gadw’n saff;
byddan nhw’n dy ddal yn eu breichiau,
fel na fyddi’n taro dy droed ar garreg.’ ”
Atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi’r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’ ”
Pan oedd y diafol wedi ceisio temtio Iesu bob ffordd bosib, gadawodd iddo nes i gyfle arall godi.
Aeth Iesu yn ôl i Galilea yn llawn o nerth yr Ysbryd, ac aeth y sôn amdano ar led drwy’r ardal gyfan. Roedd yn dysgu yn y synagogau, ac yn cael ei ganmol gan bawb.
A daeth i Nasareth, lle cafodd ei fagu, a mynd i’r synagog ar y Saboth fel roedd yn arfer ei wneud. Safodd ar ei draed i ddarllen o’r ysgrifau sanctaidd. Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei rhoi iddo, a dyma fe’n ei hagor, a dod o hyd i’r darn sy’n dweud:
“Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i,
oherwydd mae wedi fy eneinio i
i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd.
Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid,
a phobl sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl,
a’r rhai sy’n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr,
a dweud hefyd fod y flwyddyn i’r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.”
Caeodd y sgrôl a’i rhoi yn ôl i’r dyn oedd yn arwain yr oedfa yn y synagog, ac yna eisteddodd. Roedd pawb yn y synagog yn syllu arno.