Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 4

4
Temtiad Iesu
Mth. 4:1–11; Mc. 1:12–13
1Dychwelodd Iesu, yn llawn o'r Ysbryd Glân, o'r Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn yr anialwch 2am ddeugain diwrnod, a'r diafol yn ei demtio. Ni fwytaodd ddim yn ystod y dyddiau hynny, ac ar eu diwedd daeth arno eisiau bwyd. 3Meddai'r diafol wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y garreg hon am droi'n fara.” 4Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig: ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw.’ ” 5Yna aeth y diafol ag ef i fyny a dangos iddo ar amrantiad holl deyrnasoedd y byd, 6a dywedodd wrtho, “I ti y rhof yr holl awdurdod ar y rhain a'u gogoniant hwy; oherwydd i mi y mae wedi ei draddodi, ac yr wyf yn ei roi i bwy bynnag a fynnaf. 7Felly, os addoli di fi, dy eiddo di fydd y cyfan.” 8Atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig:
“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,
ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”
9Ond aeth y diafol ag ef i Jerwsalem, a'i osod ar dŵr uchaf y deml, a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddi yma; 10oherwydd y mae'n ysgrifenedig:
“ ‘Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat,
i'th warchod di rhag pob perygl’,
11“a hefyd:
“ ‘Byddant yn dy godi ar eu dwylo
rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ”
12Yna atebodd Iesu ef, “Y mae'r Ysgrythur yn dweud: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ” 13Ac ar ôl iddo ei demtio ym mhob modd, ymadawodd y diafol ag ef, gan aros ei gyfle.
Dechrau'r Weinidogaeth yng Ngalilea
Mth. 4:12–17; Mc. 1:14–15
14Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y sôn amdano ar hyd a lled y gymdogaeth. 15Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb.
Gwrthod Iesu yn Nasareth
Mth. 13:53–58; Mc. 6:1–6
16Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn ôl ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen. 17Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl a chael y man lle'r oedd yn ysgrifenedig:
18“Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf,
oherwydd iddo f'eneinio
i bregethu'r newydd da i dlodion.
Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion,
ac adferiad golwg i ddeillion,
i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd,
19i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.”
20Wedi cau'r sgrôl a'i rhoi'n ôl i'r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno. 21A'i eiriau cyntaf wrthynt oedd: “Heddiw yn eich clyw chwi y mae'r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni.” 22Yr oedd pawb yn ei gymeradwyo ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol oedd yn dod o'i enau ef, gan ddweud, “Onid mab Joseff yw hwn?” 23Ac meddai wrthynt, “Diau yr adroddwch wrthyf y ddihareb, ‘Feddyg, iachâ dy hun’, a dweud, ‘Yr holl bethau y clywsom iddynt ddigwydd yng Nghapernaum, gwna hwy yma hefyd ym mro dy febyd.’ ” 24Ond meddai, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes dim croeso i'r un proffwyd ym mro ei febyd. 25Ar fy ngwir rwy'n dweud wrthych, yr oedd llawer o wragedd gweddw yn Israel yn nyddiau Elias pan gaewyd y ffurfafen am dair blynedd a chwe mis, ac y bu newyn mawr ar yr holl wlad. 26Ond nid at un ohonynt hwy yr anfonwyd Elias, ond yn hytrach at wraig weddw yn Sarepta yng ngwlad Sidon. 27Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser y proffwyd Eliseus, ac ni lanhawyd yr un ohonynt hwy, ond yn hytrach Naaman y Syriad.” 28Wrth glywed hyn llanwyd pawb yn y synagog â dicter; 29codasant, a bwriasant ef allan o'r dref a mynd ag ef hyd at ael y bryn yr oedd eu tref wedi ei hadeiladu arno, i'w luchio o'r clogwyn. 30Ond aeth ef drwy eu canol hwy, ac ymaith ar ei daith.
Y Dyn ag Ysbryd Aflan ynddo
Mc. 1:21–28
31Aeth i lawr i Gapernaum, tref yng Ngalilea, a bu'n dysgu'r bobl ar y Saboth. 32Yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu, oherwydd yr oedd ei air yn llawn awdurdod. 33Yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan. Gwaeddodd hwnnw â llais uchel, 34“Och, beth sydd a fynni di â ni, Iesu o Nasareth? A wyt ti wedi dod i'n difetha ni? Mi wn pwy wyt ti—Sanct Duw.” 35Ceryddodd Iesu ef â'r geiriau, “Taw, a dos allan ohono.” Lluchiodd y cythraul y dyn i'w canol ac aeth allan ohono heb niweidio dim arno. 36Aeth pawb yn syn a dechreusant siarad â'i gilydd, gan ddweud, “Pa air yw hwn? Y mae ef yn gorchymyn yr ysbrydion aflan ag awdurdod ac â nerth, ac y maent yn mynd allan.” 37Yr oedd sôn amdano yn mynd ar hyd a lled y gymdogaeth.
Iacháu Llawer
Mth. 8:14–17; Mc. 1:29–34
38Ymadawodd Iesu â'r synagog ac aeth i dŷ Simon. Yr oedd mam-yng-nghyfraith Simon yn dioddef dan dwymyn lem, a deisyfasant ar Iesu ar ei rhan. 39Safodd ef uwch ei phen a cheryddu'r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; ac ar unwaith cododd a dechrau gweini arnynt. 40Ac ar fachlud haul, pawb oedd â chleifion yn dioddef dan amrywiol afiechydon, daethant â hwy ato; a gosododd yntau ei ddwylo ar bob un ohonynt a'u hiacháu. 41Yr oedd cythreuliaid yn ymadael â llawer o bobl gan floeddio, “Mab Duw wyt ti.” Ond eu ceryddu a wnâi ef, a gwahardd iddynt ddweud gair, am eu bod yn gwybod mai'r Meseia oedd ef.
Taith Bregethu
Mc. 1:35–39
42Pan ddaeth hi'n ddydd aeth allan a theithio i le unig. Yr oedd y tyrfaoedd yn chwilio amdano, a daethant hyd ato a cheisio'i rwystro rhag mynd ymaith oddi wrthynt. 43Ond dywedodd ef wrthynt, “Y mae'n rhaid imi gyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw i'r trefi eraill yn ogystal, oherwydd i hynny y'm hanfonwyd i.” 44Ac yr oedd yn pregethu yn synagogau Jwdea.

Dewis Presennol:

Luc 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd