Josua 22:10-34
Josua 22:10-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaethant i Geliloth ger yr Iorddonen, cododd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse allor yno yng ngwlad Canaan ger yr Iorddonen; yr oedd yn allor nodedig o fawr. Clywodd yr Israeliaid fod y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse wedi adeiladu allor ar derfyn gwlad Canaan, yn Geliloth ger yr Iorddonen, ar ochr yr Israeliaid; ac wedi iddynt glywed, ymgynullodd holl gynulleidfa'r Israeliaid i Seilo, er mwyn mynd i ryfel yn eu herbyn. Anfonodd yr Israeliaid Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, i Gilead at y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse gyda deg pennaeth, un ar gyfer pob un o lwythau Israel, pob un yn benteulu ymysg tylwythau Israel. Daethant at y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse yng ngwlad Gilead a dweud wrthynt, “Y mae holl gynulleidfa'r ARGLWYDD yn gofyn, ‘Beth yw'r brad hwn yr ydych wedi ei wneud yn erbyn Duw Israel trwy gefnu ar yr ARGLWYDD, ac adeiladu allor heddiw mewn gwrthryfel yn ei erbyn? Onid oedd trosedd Peor yn ddigon inni? Nid ydym hyd heddiw yn lân oddi wrtho, a bu'n achos pla ar gynulleidfa'r ARGLWYDD. Dyma chwi'n awr yn cefnu ar yr ARGLWYDD; ac os gwrthryfelwch yn ei erbyn ef heddiw, yna bydd ei ddicter yntau yn erbyn holl gynulleidfa Israel yfory. Os yw'r wlad a feddiannwyd gennych yn aflan, dewch drosodd i wlad sydd ym meddiant yr ARGLWYDD, lle saif tabernacl yr ARGLWYDD, a derbyniwch ran yn ein plith ni. Peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, na ninnau, drwy adeiladu ichwi unrhyw allor ar wahân i allor yr ARGLWYDD ein Duw. Pan droseddodd Achan fab Sera ynglŷn â'r diofryd, oni ddaeth dicter ar holl gynulleidfa Israel? Ac er mai un oedd ef, nid un yn unig a drengodd am ei drosedd.’ ” Atebodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse a dweud wrth benaethiaid tylwythau Israel, “Yr ARGLWYDD yw Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD yw Duw y duwiau! Fe ŵyr ef y gwir; bydded i Israel hefyd ei wybod. Os mewn gwrthryfel neu frad yn erbyn yr ARGLWYDD y gwnaed hyn, peidiwch â'n harbed ni heddiw. Os bu inni adeiladu allor i droi oddi wrth yr ARGLWYDD, ac i offrymu arni boethoffrymau a bwydoffrymau, neu i ddarparu heddoffrymau, bydded i'r ARGLWYDD ei hun ein dwyn i gyfrif. Yn hytrach gwnaethom hyn rhag ofn i'ch plant chwi yn y dyfodol ddweud wrth ein plant ni, ‘Beth sydd a wneloch chwi ag ARGLWYDD Dduw Israel? Y mae'r ARGLWYDD wedi gosod yr Iorddonen yn ffin rhyngom ni a chwi, llwythau Reuben a Gad; nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD.’ Yna gallai eich plant chwi rwystro'n plant ni rhag addoli'r ARGLWYDD. Am hynny dywedasom, ‘Awn ati i adeiladu allor, nid ar gyfer poethoffrwm nac aberth, ond yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng y cenedlaethau a ddaw ar ein hôl, ein bod ninnau hefyd i gael gwasanaethu'r ARGLWYDD â'n poethoffrymau a'n hebyrth a'n heddoffrymau, fel na all eich plant chwi edliw i'n plant ni yn y dyfodol, “Nid oes gennych chwi ran yn yr ARGLWYDD”.’ Yr oeddem yn meddwl, ‘Petaent yn dweud hyn wrthym ac wrth ein plant yn y dyfodol, byddem ninnau'n dweud, “Edrychwch ar y copi o allor yr ARGLWYDD a wnaeth ein hynafiaid, nid ar gyfer poethoffrymau nac aberth, ond yn dyst rhyngom ni a chwi”.’ Pell y bo oddi wrthym ein bod yn gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a chefnu arno trwy godi unrhyw allor ar gyfer poethoffrwm neu fwydoffrwm neu aberth heblaw allor yr ARGLWYDD ein Duw sydd o flaen ei dabernacl.” Pan glywodd yr offeiriad Phinees, a phenaethiaid y gynulleidfa a phennau tylwythau Israel oedd gydag ef, yr hyn a ddywedodd y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse, yr oeddent yn falch iawn. Ac meddai Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, wrth y Reubeniaid, y Gadiaid a'r Manasseaid, “Yn awr fe wyddom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd nid ydych wedi gwneud y brad hwn yn erbyn yr ARGLWYDD, ond wedi gwaredu'r Israeliaid o'i law.” Yna dychwelodd Phinees, mab yr offeiriad Eleasar, a'r penaethiaid oddi wrth y Reubeniaid a'r Gadiaid, a mynd yn ôl i wlad Gilead at yr Israeliaid yng ngwlad Canaan, a rhoi adroddiad iddynt. Derbyniodd yr Israeliaid yr adroddiad yn llawen, a bendithio Duw. Ni bu rhagor o sôn am fynd i ryfel a difetha'r wlad lle'r oedd y Reubeniaid a'r Gadiaid yn byw. Rhoddodd y Reubeniaid a'r Gadiaid yr enw Tyst i'r allor. “Am ei bod,” meddent, “yn dyst rhyngom mai'r ARGLWYDD sydd Dduw.”
Josua 22:10-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond pan oedden nhw’n dal ar ochr Canaan i’r Iorddonen, dyma nhw’n adeiladu allor fawr drawiadol yn Geliloth, wrth ymyl yr afon. Pan glywodd gweddill pobl Israel am y peth, dyma nhw’n dod at ei gilydd yn Seilo i baratoi i fynd i ryfel ac ymosod ar y ddau lwyth a hanner. Ond cyn gwneud hynny, dyma bobl Israel yn anfon Phineas mab Eleasar, yr offeiriad, i siarad â nhw yn Gilead. Aeth deg o arweinwyr eraill gydag e, un o bob llwyth – dynion oedd yn arweinwyr teuluoedd estynedig o fewn eu llwythau. Dyma nhw’n mynd i Gilead at lwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, a dweud wrthyn nhw: “Mae pobl Israel i gyd eisiau gwybod pam dych chi wedi bradychu Duw Israel fel yma? Beth wnaeth i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD ac adeiladu eich allor eich hunain? Sut allwch chi wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD fel yma? Oedd beth wnaethon ni yn Peor ddim digon drwg? Dŷn ni’n dal ddim wedi dod dros hynny’n iawn. Mae canlyniadau’r pla wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD bryd hynny yn dal gyda ni! A dyma chi eto heddiw, yn troi cefn ar yr ARGLWYDD! Os gwnewch chi droi yn ei erbyn e heddiw, mae perygl y bydd yr ARGLWYDD yn cosbi pobl Israel i gyd yfory! Os ydych chi’n teimlo fod eich tir chi yr ochr yma i’r Iorddonen yn aflan, dewch drosodd i fyw gyda ni ar dir yr ARGLWYDD ei hun, lle mae pabell presenoldeb Duw. Ond peidiwch troi yn erbyn yr ARGLWYDD, a’n tynnu ni i mewn i’r peth, drwy godi allor arall i chi’ch hunain. Dim ond un allor sydd i fod i’r ARGLWYDD ein Duw. Meddyliwch am Achan fab Serach! Pan fuodd e’n anufudd i’r gorchymyn am y cyfoeth oedd i fod i gael ei gadw i’r ARGLWYDD, roedd Duw yn ddig gyda phobl Israel i gyd. Dim fe oedd yr unig un wnaeth farw o ganlyniad i’w bechod!” Yna dyma bobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse yn ateb arweinwyr Israel, a dweud, “Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Mae e’n gwybod beth ydy’r gwir, a bydd pobl Israel yn gwybod hefyd! Os ydyn ni wedi troi yn ei erbyn a bod yn anufudd, lladdwch ni heddiw! Wnaethon ni ddim codi’r allor i ni’n hunain gyda’r bwriad o droi cefn ar yr ARGLWYDD, nac i gyflwyno offrymau i’w llosgi, offrymau o rawn neu offrymau i ofyn am ei fendith arni. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn ein cosbi ni os ydyn ni’n dweud celwydd! Na! Poeni oedden ni y byddai eich disgynyddion chi ryw ddydd yn dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Pa gysylltiad sydd gynnoch chi â’r ARGLWYDD, Duw Israel? Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi afon Iorddonen fel ffin glir rhyngon ni a chi. Does gynnoch chi, bobl Reuben a Gad, ddim hawl i addoli’r ARGLWYDD.’ Roedd gynnon ni ofn y byddai eich disgynyddion chi yn rhwystro ein disgynyddion ni addoli’r ARGLWYDD. Felly dyma ni’n penderfynu codi’r allor yma. Nid er mwyn offrymu ac aberthu arni, ond i’n hatgoffa ni a chi, a’n disgynyddion ni hefyd, mai ei gysegr ydy’r lle i ni fynd i addoli’r ARGLWYDD a chyflwyno aberthau ac offrymau iddo. Wedyn, yn y dyfodol, fydd eich disgynyddion chi ddim yn gallu dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Does gynnoch chi ddim perthynas â’r ARGLWYDD.’ Roedden ni’n tybio, os byddai pethau felly’n cael eu dweud wrthon ni a’n disgynyddion, y gallen ni ateb, ‘Edrychwch ar y copi yma o allor yr ARGLWYDD gafodd ei chodi gan ein hynafiaid. Dim allor i gyflwyno offrymau i’w llosgi nac aberthu arni ydy hi, ond un i’n hatgoffa o’r berthynas sydd rhyngon ni.’ “Fydden ni ddim yn meiddio troi yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod ei ddilyn drwy godi allor arall i gyflwyno arni offrymau i’w llosgi, aberthau ac offrymau i ofyn am ei fendith. Allor yr ARGLWYDD ein Duw o flaen ei Dabernacl ydy’r unig un i wneud hynny arni.” Pan glywodd Phineas yr offeiriad, ac arweinwyr llwythau Israel, beth oedd amddiffyniad pobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, roedden nhw’n fodlon. A dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, yn dweud wrthyn nhw: “Nawr, dŷn ni’n gwybod fod yr ARGLWYDD gyda ni. Dych chi ddim wedi bod yn anufudd iddo. Dych chi wedi achub pobl Israel rhag cael eu cosbi gan yr ARGLWYDD.” Felly dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, a’r arweinwyr oedd gydag e, yn gadael pobl Reuben a Gad yn Gilead, a mynd yn ôl i Canaan i adrodd i weddill pobl Israel beth oedd wedi cael ei ddweud. Roedd pobl Israel yn hapus gyda’r hyn gafodd ei ddweud, a dyma nhw’n addoli Duw. Doedd dim sôn ar ôl hynny am ymosod ar y wlad lle roedd pobl llwythau Reuben a Gad yn byw. A dyma lwythau Reuben a Gad yn rhoi enw i’r allor – “Arwydd i’n hatgoffa ni i gyd mai dim ond yr ARGLWYDD sydd Dduw.”
Josua 22:10-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd yng ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg. A chlybu meibion Israel ddywedyd, Wele, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan, wrth derfynau yr Iorddonen, gan ystlys meibion Israel. A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, i ddyfod i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel. A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead, Phinees mab Eleasar yr offeiriad, A deg o dywysogion gydag ef, un tywysog o bob tŷ, pennaf trwy holl lwythau Israel; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau, ymysg miloedd Israel. A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasse, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed holl gynulleidfa yr ARGLWYDD, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn DUW Israel, gan ddychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddiw yn erbyn yr ARGLWYDD? Ai bychan gennym ni anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho eto hyd y dydd hwn, er bod pla ymysg cynulleidfa yr ARGLWYDD, Ond bod i chwi droi ymaith heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD? Ac am i chwi wrthryfela heddiw yn erbyn yr ARGLWYDD, efe a lidia yfory yn erbyn holl gynulleidfa Israel. Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad meddiant yr ARGLWYDD, yr hon y mae tabernacl yr ARGLWYDD yn aros ynddi, a chymerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr ARGLWYDD, ac na childynnwch i’n herbyn ninnau, trwy adeiladu ohonoch i chwi eich hun allor, heblaw allor yr ARGLWYDD ein DUW. Oni wnaeth Achan mab Sera gamwedd, oherwydd y diofryd-beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynulleidfa Israel? ac efe oedd un gŵr; eto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd. Yna meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a atebasant, ac a lefarasant wrth benaethiaid miloedd Israel; ARGLWYDD DDUW y duwiau, ARGLWYDD DDUW y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr ARGLWYDD y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,) Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ôl yr ARGLWYDD, neu os offrymasom arni boethoffrwm, neu fwyd-offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr ARGLWYDD ei hun a’i gofynno: Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ôl hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch ag ARGLWYDD DDUW Israel? Canys yr ARGLWYDD a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD. Felly y gwnâi eich meibion chwi i’n meibion ni beidio ag ofni yr ARGLWYDD. Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boethoffrwm, nac i aberth; Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hôl, i gael ohonom wasanaethu gwasanaeth yr ARGLWYDD ger ei fron ef, â’n poethoffrymau, ac â’n hebyrth, ac â’n hoffrymau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ôl hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr ARGLWYDD. Am hynny y dywedasom, Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein hepil ar ôl hyn; yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr ARGLWYDD, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boethoffrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi. Na ato DUW i ni wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD a dychwelyd heddiw oddi ar ôl yr ARGLWYDD; gan adeiladu allor i boethoffrwm, i fwyd-offrwm, neu i aberth, heblaw allor yr ARGLWYDD ein DUW yr hon sydd gerbron ei dabernacl ef. A phan glybu Phinees yr offeiriad, a thywysogion y gynulleidfa, a phenaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gydag ef, y geiriau a lefarasai meibion Reuben, a meibion Gad, a meibion Manasse, da oedd y peth yn eu golwg hwynt. Phinees mab Eleasar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasse, Heddiw y gwybuom fod yr ARGLWYDD yn ein plith; oherwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr ARGLWYDD: yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr ARGLWYDD. Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a’r tywysogion, oddi wrth feibion Reuben, ac oddi wrth feibion Gad, o wlad Gilead, i wlad Canaan, at feibion Israel, ac a ddygasant drachefn air iddynt. A da oedd y peth yng ngolwg meibion Israel; a meibion Israel a fendithiasant DDUW, ac ni soniasant am fyned i fyny yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi. A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr ARGLWYDD sydd DDUW.