Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Josua 22

22
Llwythau’r dwyrain yn mynd yn ôl adre
1Dyma Josua yn galw llwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse at ei gilydd, 2a dweud wrthyn nhw: “Dych chi wedi gwneud popeth wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei ddweud wrthoch chi, ac wedi gwrando arna i hefyd. 3Wnaethoch chi ddim troi cefn ar eich pobl, llwythau Israel, o gwbl. Dych chi wedi gwneud beth wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw ei ofyn gynnoch chi. 4Bellach mae’r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi heddwch i weddill llwythau Israel, fel gwnaeth e addo. Felly gallwch fynd yn ôl adre i’r tir wnaeth Moses, gwas yr ARGLWYDD, ei roi i chi yr ochr arall i afon Iorddonen.
5“Ond cofiwch gadw’r rheolau a’r deddfau wnaeth Moses eu rhoi i chi. Caru yr ARGLWYDD eich Duw, byw fel mae e’n dweud, cadw ei reolau, bod yn ffyddlon iddo, a rhoi eich hunain yn llwyr i’w addoli â’ch holl galon!”
6Dyma Josua yn eu bendithio nhw, a’u hanfon nhw i ffwrdd, a dyma nhw’n mynd am adre. 7(Roedd hanner llwyth Manasse wedi cael tir yn Bashan gan Moses, ac roedd Josua wedi rhoi tir i’r hanner arall i’r gorllewin o afon Iorddonen, gyda gweddill pobl Israel.) Pan anfonodd Josua nhw adre, dyma fe’n eu bendithio nhw: 8“Ewch adre, a rhannu gyda’ch pobl yr holl gyfoeth dych chi wedi’i gymryd gan eich gelynion – nifer fawr o anifeiliaid, hefyd arian, aur, pres a haearn, a lot fawr o ddillad hefyd.”
Yr allor wrth ymyl Afon Iorddonen
9Felly dyma lwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse yn gadael gweddill pobl Israel yn Seilo yn Canaan, a throi am adre i’w tir eu hunain yn Gilead – sef y tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi iddyn nhw drwy Moses. 10Ond pan oedden nhw’n dal ar ochr Canaan i’r Iorddonen, dyma nhw’n adeiladu allor fawr drawiadol yn Geliloth, wrth ymyl yr afon.
11Pan glywodd gweddill pobl Israel am y peth, 12dyma nhw’n dod at ei gilydd yn Seilo i baratoi i fynd i ryfel ac ymosod ar y ddau lwyth a hanner. 13Ond cyn gwneud hynny, dyma bobl Israel yn anfon Phineas mab Eleasar, yr offeiriad, i siarad â nhw yn Gilead. 14Aeth deg o arweinwyr eraill gydag e, un o bob llwyth – dynion oedd yn arweinwyr teuluoedd estynedig o fewn eu llwythau.
15Dyma nhw’n mynd i Gilead at lwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, a dweud wrthyn nhw: 16“Mae pobl Israel i gyd eisiau gwybod pam dych chi wedi bradychu Duw Israel fel yma? Beth wnaeth i chi droi cefn ar yr ARGLWYDD ac adeiladu eich allor eich hunain? Sut allwch chi wrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD fel yma? 17Oedd beth wnaethon ni yn Peor#22:17 beth wnaethon ni yn Peor gw. Numeri 25:1-9. ddim digon drwg? Dŷn ni’n dal ddim wedi dod dros hynny’n iawn. Mae canlyniadau’r pla wnaeth daro pobl yr ARGLWYDD bryd hynny yn dal gyda ni! 18A dyma chi eto heddiw, yn troi cefn ar yr ARGLWYDD! Os gwnewch chi droi yn ei erbyn e heddiw, mae perygl y bydd yr ARGLWYDD yn cosbi pobl Israel i gyd yfory! 19Os ydych chi’n teimlo fod eich tir chi yr ochr yma i’r Iorddonen yn aflan, dewch drosodd i fyw gyda ni ar dir yr ARGLWYDD ei hun, lle mae pabell presenoldeb Duw. Ond peidiwch troi yn erbyn yr ARGLWYDD, a’n tynnu ni i mewn i’r peth, drwy godi allor arall i chi’ch hunain. Dim ond un allor sydd i fod i’r ARGLWYDD ein Duw. 20Meddyliwch am Achan fab Serach!#22:20 Achan fab Serach gw. Josua 7:1-26. Pan fuodd e’n anufudd i’r gorchymyn am y cyfoeth oedd i fod i gael ei gadw i’r ARGLWYDD, roedd Duw yn ddig gyda phobl Israel i gyd. Dim fe oedd yr unig un wnaeth farw o ganlyniad i’w bechod!”
21Yna dyma bobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse yn ateb arweinwyr Israel, a dweud, 22“Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Yr ARGLWYDD ydy Duw y duwiau! Mae e’n gwybod beth ydy’r gwir, a bydd pobl Israel yn gwybod hefyd! Os ydyn ni wedi troi yn ei erbyn a bod yn anufudd, lladdwch ni heddiw! 23Wnaethon ni ddim codi’r allor i ni’n hunain gyda’r bwriad o droi cefn ar yr ARGLWYDD, nac i gyflwyno offrymau i’w llosgi, offrymau o rawn neu offrymau i ofyn am ei fendith arni. Bydd yr ARGLWYDD ei hun yn ein cosbi ni os ydyn ni’n dweud celwydd! 24Na! Poeni oedden ni y byddai eich disgynyddion chi ryw ddydd yn dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Pa gysylltiad sydd gynnoch chi â’r ARGLWYDD, Duw Israel? 25Mae’r ARGLWYDD wedi rhoi afon Iorddonen fel ffin glir rhyngon ni a chi. Does gynnoch chi, bobl Reuben a Gad, ddim hawl i addoli’r ARGLWYDD.’ Roedd gynnon ni ofn y byddai eich disgynyddion chi yn rhwystro ein disgynyddion ni addoli’r ARGLWYDD. 26Felly dyma ni’n penderfynu codi’r allor yma. Nid er mwyn offrymu ac aberthu arni, 27ond i’n hatgoffa ni a chi, a’n disgynyddion ni hefyd, mai ei gysegr ydy’r lle i ni fynd i addoli’r ARGLWYDD a chyflwyno aberthau ac offrymau iddo. Wedyn, yn y dyfodol, fydd eich disgynyddion chi ddim yn gallu dweud wrth ein disgynyddion ni, ‘Does gynnoch chi ddim perthynas â’r ARGLWYDD.’ 28Roedden ni’n tybio, os byddai pethau felly’n cael eu dweud wrthon ni a’n disgynyddion, y gallen ni ateb, ‘Edrychwch ar y copi yma o allor yr ARGLWYDD gafodd ei chodi gan ein hynafiaid. Dim allor i gyflwyno offrymau i’w llosgi nac aberthu arni ydy hi, ond un i’n hatgoffa o’r berthynas sydd rhyngon ni.’
29“Fydden ni ddim yn meiddio troi yn erbyn yr ARGLWYDD a gwrthod ei ddilyn drwy godi allor arall i gyflwyno arni offrymau i’w llosgi, aberthau ac offrymau i ofyn am ei fendith. Allor yr ARGLWYDD ein Duw o flaen ei Dabernacl ydy’r unig un i wneud hynny arni.”
30Pan glywodd Phineas yr offeiriad, ac arweinwyr llwythau Israel, beth oedd amddiffyniad pobl Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse, roedden nhw’n fodlon. 31A dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, yn dweud wrthyn nhw: “Nawr, dŷn ni’n gwybod fod yr ARGLWYDD gyda ni. Dych chi ddim wedi bod yn anufudd iddo. Dych chi wedi achub pobl Israel rhag cael eu cosbi gan yr ARGLWYDD.”
32Felly dyma Phineas fab Eleasar, yr offeiriad, a’r arweinwyr oedd gydag e, yn gadael pobl Reuben a Gad yn Gilead, a mynd yn ôl i Canaan i adrodd i weddill pobl Israel beth oedd wedi cael ei ddweud.
33Roedd pobl Israel yn hapus gyda’r hyn gafodd ei ddweud, a dyma nhw’n addoli Duw. Doedd dim sôn ar ôl hynny am ymosod ar y wlad lle roedd pobl llwythau Reuben a Gad yn byw. 34A dyma lwythau Reuben a Gad yn rhoi enw i’r allor – “Arwydd i’n hatgoffa ni i gyd mai dim ond yr ARGLWYDD sydd Dduw.”

Dewis Presennol:

Josua 22: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd