Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jona 1:7-16

Jona 1:7-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma griw’r llong yn dod at ei gilydd, a dweud, “Gadewch i ni ofyn i’r duwiau ddangos i ni pwy sydd ar fai am y storm ofnadwy yma.” Felly dyma nhw’n taflu coelbren, a darganfod mai Jona oedd e. A dyma nhw’n gofyn i Jona, “Dywed, pam mae’r drychineb yma wedi digwydd? Beth ydy dy waith di? O ble wyt ti’n dod? O ba wlad? Pa genedl wyt ti’n perthyn iddi?” A dyma Jona’n ateb, “Hebrëwr ydw i. Dw i’n addoli’r ARGLWYDD, Duw’r nefoedd. Fe ydy’r Duw sydd wedi creu y môr a’r tir.” Pan glywon nhw hyn roedd y dynion wedi dychryn fwy fyth. “Beth wyt ti wedi’i wneud o’i le?” medden nhw. (Roedden nhw’n gwybod ei fod e’n ceisio dianc oddi wrth yr ARGLWYDD, am ei fod e wedi dweud hynny wrthyn nhw’n gynharach.) Roedd y storm yn mynd o ddrwg i waeth. A dyma’r morwyr yn gofyn i Jona, “Beth wnawn ni hefo ti? Oes rhywbeth allwn ni wneud i dawelu’r storm yma?” Dyma fe’n ateb, “Taflwch fi i’r môr a bydd y storm yn tawelu. Arna i mae’r bai eich bod chi yn y storm ofnadwy yma.” Yn lle gwneud hynny dyma’r morwyr yn ceisio rhwyfo’n galed i gyrraedd y tir. Ond methu wnaethon nhw; roedd y storm yn dal i fynd o ddrwg i waeth. Felly dyma nhw’n gweddïo ar yr ARGLWYDD, “O, plîs ARGLWYDD, paid gadael i ni foddi o achos y dyn yma. Paid cosbi ni am wneud hyn iddo os ydy e’n ddieuog. Ti sydd wedi achosi hyn i gyd i ddigwydd.” Yna dyma nhw’n gafael yn Jona a’i daflu i’r môr, a dyma’r storm yn tawelu. Roedd hyn wedi gwneud i’r morwyr ofni’r ARGLWYDD go iawn, a dyma nhw’n addo ar lw y bydden nhw’n offrymu aberthau iddo.

Jona 1:7-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a’r coelbren a syrthiodd ar Jona. A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir. A’r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd efe a fynegasai iddynt. A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrthym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi. Er hyn y gwŷr a rwyfasant i’w dychwelyd i dir; ond nis gallent: am fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy. Llefasant gan hynny ar yr ARGLWYDD, a dywedasant, Atolwg, ARGLWYDD, atolwg, na ddifether ni am einioes y gŵr hwn, ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion: canys ti, O ARGLWYDD, a wnaethost fel y gwelaist yn dda. Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i’r môr: a pheidiodd y môr â’i gyffro. A’r gwŷr a ofnasant yr ARGLWYDD ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r ARGLWYDD, ac a addunasant addunedau.