Yna dywedodd y morwyr wrth ei gilydd, “O achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? Gadewch inni fwrw coelbren, inni gael gwybod.” Felly bwriasant goelbren, a syrthiodd y coelbren ar Jona. Yna dywedasant wrtho, “Dywed i ni, beth yw dy neges? O ble y daethost? Prun yw dy wlad? O ba genedl yr wyt?” Atebodd yntau hwy, “Hebrëwr wyf fi; ac yr wyf yn ofni'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, a wnaeth y môr a'r sychdir.” A daeth ofn mawr ar y dynion, a dywedasant wrtho, “Beth yw hyn a wnaethost?” Oherwydd gwyddai'r dynion mai ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd, gan iddo ddweud hynny wrthynt. Yna dywedasant, “Beth a wnawn â thi, er mwyn i'r môr ostegu inni, oherwydd y mae'n gwaethygu o hyd.” Atebodd yntau, “Cymerwch fi a'm taflu i'r môr, ac yna fe dawela'r môr ichwi; oherwydd gwn mai o'm hachos i y daeth y storm arw hon arnoch.” Rhwyfodd y dynion yn galed i gyrraedd tir, ond ni allent, gan fod y môr yn gwaethygu o hyd yn eu herbyn. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD a dweud, “O ARGLWYDD, paid â gadael inni gael ein difetha am fywyd y dyn hwn, na rhoi gwaed dieuog yn ein herbyn; ti yw'r ARGLWYDD, ac yr wyt yn gwneud fel y gweli'n dda.” Yna cymerasant Jona a'i daflu i'r môr, a llonyddodd y môr o'i gynnwrf. Ac ofnodd y gwŷr yr ARGLWYDD yn fawr iawn, gan offrymu aberth i'r ARGLWYDD a gwneud addunedau.
Darllen Jona 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Jona 1:7-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos