Job 34:1-37
Job 34:1-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Elihu: “Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion; clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus. Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau, fel y profir bwyd gan daflod y genau. Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn, a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda. Dywedodd Job, ‘Yr wyf yn gyfiawn, ond trodd Duw farn oddi wrthyf. Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog; y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.’ Pwy sydd fel Job, yn drachtio dirmyg fel dŵr, yn cadw cwmni â rhai ofer, ac yn gwag-symera gyda'r drygionus? Oherwydd dywedodd, ‘Nid yw o werth i neb ymhyfrydu yn Nuw.’ “Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf. Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn. Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred, a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw. Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg, ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn. Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear, a rhoi'r byd cyfan iddo? Pe byddai ef yn rhoi ei fryd ar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn ôl ato'i hun, yna byddai pob cnawd yn marw, a phawb yn dychwelyd i'r pridd. “Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn, a rho sylw i'm geiriau. A all un sy'n casáu barn lywodraethu? A gondemni di'r un cyfiawn cadarn? Gall ef ddweud wrth frenin, ‘Y dihiryn’, ac wrth lywodraethwyr, ‘Y cnafon’; nid yw'n dangos ffafr at swyddogion, nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd, oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt. Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos; trenga'r cyfoethog, a diflannu; symudir ymaith y cryf heb ymdrech. “Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un, a gwêl ei holl gamau. Nid oes tywyllwch na chaddug lle y gall drwgweithredwyr guddio. Nid oes amser wedi ei drefnu i neb ddod i farn o flaen Duw; y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi, ac yn gosod eraill yn eu lle. Y mae'n adnabod eu gweithredoedd, ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson. Y mae'n eu taro o achos eu drygioni, a hynny yng ngŵydd pawb, am eu bod yn troi oddi wrtho, ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd. Gwnânt i gri'r tlawd ddod ato, ac iddo glywed gwaedd yr anghenus. Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg; y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais— boed genedl neu unigolyn— rhag i neb annuwiol lywodraethu, a maglu pobl. “Os dywed un wrth Dduw, ‘Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto; am na allaf fi weld, hyffordda di fi; os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato’— a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybio y bydd ef yn fodlon ar hynny? Ti sydd i ddewis, nid fi; traetha yr hyn a wyddost. Y mae pobl ddeallus yn siarad â mi, a rhai doeth yn gwrando arnaf. Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried, ac nid yw ei eiriau yn ddeallus. O na phrofid Job i'r eithaf, gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg! Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod, yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith, ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw.”
Job 34:1-37 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dwedodd Elihw: “Gwrandwch be dw i’n ddweud, chi ddynion doeth; dych chi’n ddynion deallus, felly gwrandwch yn astud. Mae’r glust yn profi geiriau fel mae’r geg yn blasu bwyd. Gadewch i ni ystyried beth sy’n wir; a phenderfynu rhyngon beth sy’n iawn. Mae Job wedi dweud, ‘Dw i’n ddieuog; dydy Duw ddim wedi bod yn deg â mi. Fi sy’n iawn. Ydw i i fod i ddweud celwydd? Dw i wedi fy anafu, a does dim gwella ar y clwyf, er fy mod heb droseddu.’ Oes rhywun tebyg i Job? Mae’n dangos dirmyg fel yfed dŵr! Mae’n cadw cwmni cnafon ac yn ymddwyn fel pobl ddrwg! Achos mae wedi dweud, ‘Does dim pwynt byw i blesio Duw.’ Felly, gwrandwch, chi ddynion deallus, Fyddai Duw byth yn gwneud drwg; a’r Un sy’n rheoli popeth yn gwneud dim o’i le! Mae e’n talu i bobl am yr hyn maen nhw’n ei wneud, mae pawb yn cael beth maen nhw’n ei haeddu! Dydy Duw yn sicr ddim yn gwneud drwg; dydy’r Un sy’n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder. Pwy roddodd y ddaear yn ei ofal? Pwy roddodd hawl iddo roi trefn ar y byd? Petai’n dewis, gallai gymryd ei ysbryd a’i anadl yn ôl, a byddai pob creadur byw yn marw, a’r ddynoliaeth yn mynd yn ôl i’r pridd. Gwranda, os wyt ti’n ddyn deallus; gwrando’n astud ar beth dw i’n ddweud. Ydy rhywun sy’n casáu cyfiawnder yn gallu llywodraethu? Wyt ti’n mynd i gondemnio’r Un Grymus a Chyfiawn sy’n dweud wrth frenin, ‘Y pwdryn diwerth!’ ac wrth wŷr bonheddig, ‘Y cnafon drwg!’? Dydy e ddim yn ochri gyda thywysogion, nac yn ffafrio’r cyfoethog ar draul y tlawd; am mai gwaith ei ddwylo e ydyn nhw i gyd! Maen nhw’n marw yn sydyn yng nghanol y nos; mae’r bobl bwysig yn cael eu hysgwyd, ac yn diflannu; mae’r pwerus yn cael eu symud o’r ffordd yn hawdd. Mae e’n cadw golwg ar beth maen nhw’n ei wneud; mae’n gwybod am bob symudiad. Does dim tywyllwch na chwmwl lle gall pobl ddrwg guddio. Nid lle pobl ydy gosod amser i ddod o flaen Duw i gael eu barnu! Mae’n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad, ac yn gosod eraill i gymryd eu lle. Am ei fod yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud, mae’n eu dymchwel dros nos, a’u dryllio. Mae’n eu taro nhw i lawr fel pobl ddrwg, ac yn gwneud hynny o flaen pawb, am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon iddo, a gwrthod cymryd sylw o’i ffyrdd. Maen nhw wedi achosi i’r tlodion alw arno, a gwneud iddo wrando ar gri’r anghenus. Os ydy Duw’n cadw’n dawel, pwy sydd i’w feirniadu? Os ydy e’n cuddio, pwy all ddod o hyd iddo? Ond mae e’n dal i wylio dros wledydd a dynoliaeth, rhag i rywun annuwiol deyrnasu a gosod maglau i’r bobl. Ond os dywed rhywun wrth Dduw, ‘Dw i’n euog, a wna i ddim troseddu eto. Dysga fi am y drwg dw i ddim yn ei weld. Os dw i wedi gwneud drwg, wna i ddim yr un peth eto.’ Wyt ti’n credu y dylai Duw dalu’n ôl iddo, gan dy fod yn gwrthod gwrando? Ti sydd i ddewis, nid fi; gad i ni glywed beth sydd gen ti i’w ddweud. Bydd dynion deallus yn dweud wrtho i – unrhyw ddyn doeth sy’n gwrando arna i – ‘Mae Job wedi dweud pethau dwl; dydy ei eiriau’n gwneud dim sens.’ Dylai gael ei gosbi i’r eithaf am siarad fel mae pobl ddrwg yn siarad. Mae e wedi gwneud mwy na phechu – mae e wedi gwrthryfela a gwawdio Duw yn ein plith ni, a chyhuddo Duw’n ddi-stop.”
Job 34:1-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd, Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch. Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd. Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda. Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf: a DUW a ddug ymaith fy marn. A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd. Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr? Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol. Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â DUW. Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth DDUW fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd. Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun. Diau hefyd na wna DUW yn annuwiol; ac na ŵyra yr Hollalluog farn. Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd? Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef; Pob cnawd a gyd-drenga, a dyn a ddychwel i’r pridd. Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion. A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol? A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion? Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll. Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a’r cadarn a symudir heb waith llaw. Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef. Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio. Canys ni esyd DUW ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â DUW. Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt. Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir. Efe a’u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg: Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef: Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol. Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig: Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl. Ond wrth DDUW, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd; Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy. Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a’i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis; ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost. Gwŷr call, dywedant i mi; a’r gŵr doeth, clywed fi. Job a ddywedodd yn annoeth; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb. Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir. Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn DUW.