Yna dwedodd Elihw:
“Gwrandwch be dw i’n ddweud, chi ddynion doeth;
dych chi’n ddynion deallus, felly gwrandwch yn astud.
Mae’r glust yn profi geiriau
fel mae’r geg yn blasu bwyd.
Gadewch i ni ystyried beth sy’n wir;
a phenderfynu rhyngon beth sy’n iawn.
Mae Job wedi dweud, ‘Dw i’n ddieuog;
dydy Duw ddim wedi bod yn deg â mi.
Fi sy’n iawn. Ydw i i fod i ddweud celwydd?
Dw i wedi fy anafu, a does dim gwella ar y clwyf,
er fy mod heb droseddu.’
Oes rhywun tebyg i Job?
Mae’n dangos dirmyg fel yfed dŵr!
Mae’n cadw cwmni cnafon
ac yn ymddwyn fel pobl ddrwg!
Achos mae wedi dweud, ‘Does dim pwynt
byw i blesio Duw.’
Felly, gwrandwch, chi ddynion deallus,
Fyddai Duw byth yn gwneud drwg;
a’r Un sy’n rheoli popeth yn gwneud dim o’i le!
Mae e’n talu i bobl am yr hyn maen nhw’n ei wneud,
mae pawb yn cael beth maen nhw’n ei haeddu!
Dydy Duw yn sicr ddim yn gwneud drwg;
dydy’r Un sy’n rheoli popeth ddim yn gwyrdroi cyfiawnder.
Pwy roddodd y ddaear yn ei ofal?
Pwy roddodd hawl iddo roi trefn ar y byd?
Petai’n dewis, gallai gymryd
ei ysbryd a’i anadl yn ôl,
a byddai pob creadur byw yn marw,
a’r ddynoliaeth yn mynd yn ôl i’r pridd.
Gwranda, os wyt ti’n ddyn deallus;
gwrando’n astud ar beth dw i’n ddweud.
Ydy rhywun sy’n casáu cyfiawnder yn gallu llywodraethu?
Wyt ti’n mynd i gondemnio’r Un Grymus a Chyfiawn
sy’n dweud wrth frenin, ‘Y pwdryn diwerth!’
ac wrth wŷr bonheddig, ‘Y cnafon drwg!’?
Dydy e ddim yn ochri gyda thywysogion,
nac yn ffafrio’r cyfoethog ar draul y tlawd;
am mai gwaith ei ddwylo e ydyn nhw i gyd!
Maen nhw’n marw yn sydyn yng nghanol y nos;
mae’r bobl bwysig yn cael eu hysgwyd, ac yn diflannu;
mae’r pwerus yn cael eu symud o’r ffordd yn hawdd.
Mae e’n cadw golwg ar beth maen nhw’n ei wneud;
mae’n gwybod am bob symudiad.
Does dim tywyllwch na chwmwl
lle gall pobl ddrwg guddio.
Nid lle pobl ydy gosod amser
i ddod o flaen Duw i gael eu barnu!
Mae’n dryllio arweinwyr heb gynnal ymchwiliad,
ac yn gosod eraill i gymryd eu lle.
Am ei fod yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud,
mae’n eu dymchwel dros nos, a’u dryllio.
Mae’n eu taro nhw i lawr fel pobl ddrwg,
ac yn gwneud hynny o flaen pawb,
am eu bod nhw wedi bod yn anffyddlon iddo,
a gwrthod cymryd sylw o’i ffyrdd.
Maen nhw wedi achosi i’r tlodion alw arno,
a gwneud iddo wrando ar gri’r anghenus.
Os ydy Duw’n cadw’n dawel, pwy sydd i’w feirniadu?
Os ydy e’n cuddio, pwy all ddod o hyd iddo?
Ond mae e’n dal i wylio dros wledydd a dynoliaeth,
rhag i rywun annuwiol deyrnasu
a gosod maglau i’r bobl.
Ond os dywed rhywun wrth Dduw,
‘Dw i’n euog, a wna i ddim troseddu eto.
Dysga fi am y drwg dw i ddim yn ei weld.
Os dw i wedi gwneud drwg, wna i ddim yr un peth eto.’
Wyt ti’n credu y dylai Duw dalu’n ôl iddo,
gan dy fod yn gwrthod gwrando?
Ti sydd i ddewis, nid fi;
gad i ni glywed beth sydd gen ti i’w ddweud.
Bydd dynion deallus yn dweud wrtho i
– unrhyw ddyn doeth sy’n gwrando arna i –
‘Mae Job wedi dweud pethau dwl;
dydy ei eiriau’n gwneud dim sens.’
Dylai gael ei gosbi i’r eithaf
am siarad fel mae pobl ddrwg yn siarad.
Mae e wedi gwneud mwy na phechu –
mae e wedi gwrthryfela a gwawdio Duw yn ein plith ni,
a chyhuddo Duw’n ddi-stop.”