Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 34

34
1Dywedodd Elihu:
2“Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion;
clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus.
3Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau,
fel y profir bwyd gan daflod y genau.
4Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn,
a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda.
5Dywedodd Job, ‘Yr wyf yn gyfiawn,
ond trodd Duw farn oddi wrthyf.
6Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog;
y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.’
7Pwy sydd fel Job,
yn drachtio dirmyg fel dŵr,
8yn cadw cwmni â rhai ofer,
ac yn gwag-symera gyda'r drygionus?
9Oherwydd dywedodd, ‘Nid yw o werth i neb
ymhyfrydu yn Nuw.’
10“Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf.
Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni,
ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.
11Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred,
a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw.
12Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg,
ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn.
13Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear,
a rhoi'r byd cyfan iddo?
14Pe byddai ef yn rhoi ei fryd
ar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn ôl ato'i hun,
15yna byddai pob cnawd yn marw,
a phawb yn dychwelyd i'r pridd.
16“Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn,
a rho sylw i'm geiriau.
17A all un sy'n casáu barn lywodraethu?
A gondemni di'r un cyfiawn cadarn?
18Gall ef ddweud wrth frenin, ‘Y dihiryn’,
ac wrth lywodraethwyr, ‘Y cnafon’;
19nid yw'n dangos ffafr at swyddogion,
nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd,
oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt.
20Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos;
trenga'r cyfoethog, a diflannu#34:20 Tebygol. Hebraeg, ysgydwir pobl a diflannant.;
symudir ymaith y cryf heb ymdrech.
21“Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un,
a gwêl ei holl gamau.
22Nid oes tywyllwch na chaddug
lle y gall drwgweithredwyr guddio.
23Nid oes amser wedi ei drefnu
i neb ddod i farn o flaen Duw;
24y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi,
ac yn gosod eraill yn eu lle.
25Y mae'n adnabod eu gweithredoedd,
ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson.
26Y mae'n eu taro o achos eu drygioni,
a hynny yng ngŵydd pawb,
27am eu bod yn troi oddi wrtho,
ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd.
28Gwnânt i gri'r tlawd ddod ato,
ac iddo glywed gwaedd yr anghenus.
29Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg;
y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais—
boed genedl neu unigolyn—
30rhag i neb annuwiol lywodraethu,
a maglu pobl.
31“Os dywed un wrth Dduw,
‘Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto;
32am na allaf fi weld, hyffordda di fi;
os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato’—
33a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybio
y bydd ef yn fodlon ar hynny?
Ti sydd i ddewis, nid fi;
traetha yr hyn a wyddost.
34Y mae pobl ddeallus yn siarad â mi,
a rhai doeth yn gwrando arnaf.
35Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried,
ac nid yw ei eiriau yn ddeallus.
36O na phrofid Job i'r eithaf,
gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg!
37Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod,
yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith,
ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw.”

Dewis Presennol:

Job 34: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda