Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 6:28-40

Barnwyr 6:28-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan gododd pobl y ddinas yn gynnar yn y bore a gweld allor Baal wedi ei bwrw i lawr a'r pren Asera oedd yn ei hymyl wedi ei thorri, a'r ail ych wedi ei offrymu ar yr allor oedd wedi ei chodi, yna gofynnodd pawb i'w gilydd, “Pwy a wnaeth hyn?” Ar ôl chwilio a holi, dywedasant, “Gideon fab Joas sydd wedi gwneud hyn.” Yna dywedodd pobl y ddinas wrth Joas, “Tyrd â'th fab allan iddo gael marw, oherwydd y mae wedi bwrw i lawr allor Baal a thorri'r pren Asera oedd yn ei hymyl.” Ond meddai Joas wrth bawb oedd yn sefyll o'i gwmpas, “A ydych chwi am ddadlau achos Baal? A ydych chwi am ei achub ef? Rhoir pwy bynnag sy'n dadlau drosto i farwolaeth erbyn y bore. Os yw'n dduw, dadleued drosto'i hun am i rywun fwrw ei allor i lawr.” A'r diwrnod hwnnw galwyd Gideon yn Jerwbbaal—hynny yw, “Bydded i Baal ddadlau ag ef”—am iddo fwrw ei allor i lawr. Daeth yr holl Midianiaid a'r Amaleciaid a'r dwyreinwyr ynghyd, a chroesi a gwersyllu yn nyffryn Jesreel. Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Gideon; chwythodd yntau'r utgorn a galw ar yr Abiesriaid i'w ddilyn. Anfonodd negeswyr drwy Manasse gyfan a galw arnynt hwythau hefyd i'w ddilyn. Yna anfonodd negeswyr drwy Aser, Sabulon a Nafftali, a daethant hwythau i'w cyfarfod. Dywedodd Gideon wrth Dduw, “Os wyt am waredu Israel drwy fy llaw i, fel yr addewaist, dyma fi'n gosod cnu o wlân ar y llawr dyrnu; os bydd gwlith ar y cnu yn unig, a'r llawr i gyd yn sych, yna byddaf yn gwybod y gwaredi Israel drwof fi, fel y dywedaist.” Felly y bu. Pan gododd fore trannoeth a hel y cnu at ei gilydd, gwasgodd ddigon o wlith ohono i lenwi ffiol â'r dŵr. Ond meddai Gideon wrth Dduw, “Paid â digio wrthyf os gofynnaf un peth arall; yr wyf am wneud un prawf arall â'r cnu: bydded y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd.” Gwnaeth Duw hynny y noson honno, y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd.

Barnwyr 6:28-40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Y bore wedyn, pan oedd pawb wedi codi, cawson nhw sioc o weld allor Baal wedi’i dryllio a pholyn y dduwies Ashera wedi’i dorri i lawr. A hefyd yr allor newydd oedd wedi’i chodi, gydag olion y tarw oedd wedi’i aberthu arni. “Pwy sydd wedi gwneud hyn?” medden nhw. Ar ôl holi’n fanwl, dyma nhw’n darganfod yn y diwedd mai Gideon, mab Joas, oedd wedi gwneud y peth. Dyma nhw’n mynd at Joas. “Tyrd a dy fab allan yma,” medden nhw. “Fe sydd wedi dinistrio allor Baal ac wedi torri polyn y dduwies Ashera i lawr. Rhaid iddo farw!” Ond dyma Joas yn dweud wrth y dyrfa oedd yn ei fygwth, “Ydy Baal angen i chi ymladd ei frwydrau? Ydych chi’n mynd i’w achub e? Bydd unrhyw un sy’n ymladd drosto wedi marw erbyn y bore. Os ydy Baal yn dduw go iawn, gadewch iddo ymladd ei frwydrau ei hun pan mae rhywun yn dinistrio’i allor!” Y diwrnod hwnnw, dechreuodd ei dad alw Gideon yn Jerwb-baal, ar ôl dweud, “Gadewch i Baal ymladd gydag e, am ei fod wedi chwalu allor Baal.” Dyma’r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o’r dwyrain yn dod at ei gilydd ac yn croesi afon Iorddonen a gwersylla yn Nyffryn Jesreel. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Gideon. Chwythodd y corn hwrdd a galw byddin o ddynion o glan Abieser i’w ddilyn. Yna anfonodd negeswyr drwy diroedd llwythau Manasse, Asher, Sabulon, a Nafftali i alw mwy o ddynion at ei gilydd, a dyma nhw i gyd yn dod i wynebu’r gelynion. Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Os wyt ti’n mynd i’m defnyddio i i achub Israel, fel ti wedi addo, rho arwydd i mi i ddangos fod hynny’n wir. Heno dw i’n mynd i roi swp o wlân allan ar y llawr dyrnu. Os bydd gwlith ar y gwlân yn unig a’r ddaear o’i gwmpas yn sych, bydda i’n gwybod yn bendant wedyn dy fod ti’n mynd i achub Israel trwof fi, fel ti wedi addo.” A dyna ddigwyddodd! Pan gododd Gideon y bore wedyn, dyma fe’n gwasgu’r gwlân a dyma lond powlen o wlith yn diferu ohono. Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Paid gwylltio gyda mi os gofynna i am un arwydd arall. Gad i mi brofi un waith eto gyda’r gwlân. Y tro yma, cadw’r gwlân yn sych tra mae’r ddaear o’i gwmpas yn wlith i gyd.” A’r noson honno, dyna’n union wnaeth Duw. Dim ond y gwlân oedd yn sych. Roedd y ddaear o’i gwmpas yn wlith i gyd.

Barnwyr 6:28-40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan gyfododd gwŷr y ddinas y bore, yna wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr, a’r llwyn yr hwn oedd yn ei hymyl wedi ei dorri, a’r ail fustach wedi ei offrymu ar yr allor a adeiladasid. A dywedodd pawb wrth ei gilydd, Pwy a wnaeth y peth hyn? Ac wedi iddynt ymofyn a chwilio, y dywedasant, Gedeon mab Joas a wnaeth y peth hyn. Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas, Dwg allan dy fab, fel y byddo marw: am iddo fwrw i lawr allor Baal, ac am iddo dorri’r llwyn oedd yn ei hymyl hi. A Joas a ddywedodd wrth y rhai oll a oeddynt yn sefyll yn ei erbyn ef, A ddadleuwch chwi dros Baal? ai chwi a’i ceidw ef? yr hwn a ddadleuo drosto ef, bydded farw y bore hwn: os DUW yw efe, dadleued drosto ei hun, am fwrw ei allor ef i lawr. Ac efe a’i galwodd ef y dwthwn hwnnw Jerwbbaal; gan ddywedyd, Dadleued Baal drosto ei hun, am fwrw ei allor i lawr. Yna y Midianiaid oll, a’r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, a gasglwyd ynghyd, ac a aethant drosodd, ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel. Ond ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth ar Gedeon; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac Abieser a aeth ar ei ôl ef. Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasse, yr hwn hefyd a’i canlynodd ef: anfonodd hefyd genhadau i Aser, ac i Sabulon, ac i Nafftali; a hwy a ddaethant i fyny i’w cyfarfod hwynt. A Gedeon a ddywedodd wrth DDUW, O gwaredi di Israel trwy fy llaw i, megis y lleferaist; Wele fi yn gosod cnu o wlân yn y llawr dyrnu: os gwlith a fydd ar y cnu yn unig, a sychder ar yr holl ddaear; yna y caf wybod y gwaredi di Israel trwy fy llaw i, fel y lleferaist. Ac felly y bu: canys cyfododd yn fore drannoeth, ac a sypiodd y cnu ynghyd, ac a wasgodd wlith o’r cnu, lonaid ffiol o ddwfr. A Gedeon a ddywedodd wrth DDUW, Na lidied dy ddicllonedd i’m herbyn, a mi a lefaraf unwaith eto. Profaf yn awr, y waith hon yn unig, trwy’r cnu: bydded, atolwg, sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear bydded gwlith. A DUW a wnaeth felly y noson honno: canys yr oedd sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear yr oedd gwlith.