Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 6:28-40

Barnwyr 6:28-40 BNET

Y bore wedyn, pan oedd pawb wedi codi, cawson nhw sioc o weld allor Baal wedi’i dryllio a pholyn y dduwies Ashera wedi’i dorri i lawr. A hefyd yr allor newydd oedd wedi’i chodi, gydag olion y tarw oedd wedi’i aberthu arni. “Pwy sydd wedi gwneud hyn?” medden nhw. Ar ôl holi’n fanwl, dyma nhw’n darganfod yn y diwedd mai Gideon, mab Joas, oedd wedi gwneud y peth. Dyma nhw’n mynd at Joas. “Tyrd a dy fab allan yma,” medden nhw. “Fe sydd wedi dinistrio allor Baal ac wedi torri polyn y dduwies Ashera i lawr. Rhaid iddo farw!” Ond dyma Joas yn dweud wrth y dyrfa oedd yn ei fygwth, “Ydy Baal angen i chi ymladd ei frwydrau? Ydych chi’n mynd i’w achub e? Bydd unrhyw un sy’n ymladd drosto wedi marw erbyn y bore. Os ydy Baal yn dduw go iawn, gadewch iddo ymladd ei frwydrau ei hun pan mae rhywun yn dinistrio’i allor!” Y diwrnod hwnnw, dechreuodd ei dad alw Gideon yn Jerwb-baal, ar ôl dweud, “Gadewch i Baal ymladd gydag e, am ei fod wedi chwalu allor Baal.” Dyma’r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobloedd eraill o’r dwyrain yn dod at ei gilydd ac yn croesi afon Iorddonen a gwersylla yn Nyffryn Jesreel. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Gideon. Chwythodd y corn hwrdd a galw byddin o ddynion o glan Abieser i’w ddilyn. Yna anfonodd negeswyr drwy diroedd llwythau Manasse, Asher, Sabulon, a Nafftali i alw mwy o ddynion at ei gilydd, a dyma nhw i gyd yn dod i wynebu’r gelynion. Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Os wyt ti’n mynd i’m defnyddio i i achub Israel, fel ti wedi addo, rho arwydd i mi i ddangos fod hynny’n wir. Heno dw i’n mynd i roi swp o wlân allan ar y llawr dyrnu. Os bydd gwlith ar y gwlân yn unig a’r ddaear o’i gwmpas yn sych, bydda i’n gwybod yn bendant wedyn dy fod ti’n mynd i achub Israel trwof fi, fel ti wedi addo.” A dyna ddigwyddodd! Pan gododd Gideon y bore wedyn, dyma fe’n gwasgu’r gwlân a dyma lond powlen o wlith yn diferu ohono. Yna dyma Gideon yn dweud wrth Dduw, “Paid gwylltio gyda mi os gofynna i am un arwydd arall. Gad i mi brofi un waith eto gyda’r gwlân. Y tro yma, cadw’r gwlân yn sych tra mae’r ddaear o’i gwmpas yn wlith i gyd.” A’r noson honno, dyna’n union wnaeth Duw. Dim ond y gwlân oedd yn sych. Roedd y ddaear o’i gwmpas yn wlith i gyd.