Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 6:1-27

Barnwyr 6:1-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Midian am saith mlynedd. Am fod Midian yn drech nag Israel paratôdd yr Israeliaid lochesau iddynt eu hunain yn y mynyddoedd, a hefyd ogofeydd a chaerau. Bob tro y byddai'r Israeliaid wedi hau, byddai Midian ac Amalec a'r dwyreinwyr yn dod ac yn ymosod arnynt; byddent yn gwersyllu yn eu herbyn ac yn distrywio cnwd y ddaear cyn belled â Gasa, heb adael unrhyw beth byw yn Israel, na dafad nac ych nac asyn. Pan ddoent hwy a'u hanifeiliaid a'u pebyll, yr oeddent mor niferus â locustiaid; nid oedd rhifo arnynt hwy na'u camelod pan ddoent i'r wlad i'w difrodi. Felly aeth Israel yn dlawd iawn o achos Midian; yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD. Wedi iddynt alw ar yr ARGLWYDD o achos Midian, anfonodd yr ARGLWYDD broffwyd at yr Israeliaid, a dywedodd hwnnw wrthynt, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Myfi a ddaeth â chwi i fyny o'r Aifft, a'ch rhyddhau o dŷ'r caethiwed; achubais chwi o law'r Eifftiaid a phawb oedd yn eich gormesu, a'u gyrru allan o'ch blaen, a rhoi eu tir ichwi. Dywedais wrthych: Myfi yw'r ARGLWYDD, eich Duw; peidiwch ag ofni duwiau'r Amoriaid yr ydych yn byw yn eu gwlad. Ond ni wrandawsoch arnaf.’ ” Daeth angel yr ARGLWYDD ac eistedd dan y dderwen yn Offra, a oedd yn perthyn i Joas yr Abiesriad. Yr oedd ei fab, Gideon, yn dyrnu gwenith mewn gwinwryf, i'w guddio rhag Midian. Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD gyda thi, ŵr dewr.” Atebodd Gideon ef, “Ond, syr, os yw'r ARGLWYDD gyda ni, pam y mae hyn i gyd wedi digwydd inni? A phle mae ei holl ryfeddodau y soniodd ein hynafiaid amdanynt, a dweud wrthym, ‘Oni ddygodd yr ARGLWYDD ni i fyny o'r Aifft?’ Erbyn hyn y mae'r ARGLWYDD wedi'n gadael, a'n rhoi yng ngafael Midian.” Trodd angel yr ARGLWYDD ato a dweud, “Dos, gyda'r nerth hwn sydd gennyt, a gwared Israel o afael Midian; onid wyf fi yn dy anfon?” Atebodd yntau, “Ond, syr, sut y gwaredaf fi Israel? Edrych, fy nhylwyth i yw'r gwannaf yn Manasse, a minnau yw'r distatlaf o'm teulu.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Yn sicr byddaf fi gyda thi, a byddi'n taro'r Midianiaid fel pe baent un gŵr.” Atebodd yntau, “Os cefais ffafr yn d'olwg, yna rho arwydd imi mai ti sy'n siarad â mi. Paid â mynd oddi yma cyn imi ddychwelyd atat a chyflwyno fy offrwm a'i osod o'th flaen.” Atebodd yntau, “Fe arhosaf nes iti ddod yn ôl.” Aeth Gideon a pharatoi myn gafr a phobi bara croyw o beilliaid. Gosododd y cig ar ddysgl a rhoi'r cawl mewn padell, a'u dwyn ato dan y dderwen, a'u cyflwyno. Yna dywedodd angel Duw wrtho, “Cymer y cig a'r bara croyw a'u rhoi ar y graig acw, a thywallt y cawl.” Gwnaeth hynny. Estynnodd angel yr ARGLWYDD flaen y ffon oedd yn ei law, a phan gyffyrddodd â'r cig a'r bara croyw, cododd tân o'r graig a'u llosgi; a diflannodd angel yr ARGLWYDD o'i olwg. Yna fe sylweddolodd Gideon mai angel yr ARGLWYDD oedd, a dywedodd, “Gwae fi, f'Arglwydd DDUW, am imi weld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb.” Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Heddwch iti; paid ag ofni, ni byddi farw.” Adeiladodd Gideon allor i'r ARGLWYDD yno a'i henwi Jehofa-shalom. Y mae yn Offra Abieser hyd y dydd hwn. Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Cymer ych o eiddo dy dad, yr ail ych, yr un seithmlwydd, a thyn i lawr yr allor i Baal sydd gan dy dad, a thor i lawr y pren Asera sydd yn ei hymyl. Adeilada allor briodol i'r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y fangre hon; yna cymer yr ail ych a'i offrymu'n boethoffrwm ar goed yr Asera a dorraist i lawr.” Cymerodd Gideon ddeg o'i weision a gwnaeth fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho, ond gan fod arno ofn gwneud hynny liw dydd oherwydd ei deulu a phobl y ddinas, fe'i gwnaeth liw nos.

Barnwyr 6:1-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud rhywbeth gwirioneddol ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly dyma fe’n gadael i Midian eu rheoli nhw am saith mlynedd. Roedd y Midianiaid mor greulon nes i lawer o bobl Israel ddianc i’r mynyddoedd i fyw mewn cuddfannau ac ogofâu a lleoedd saff eraill. Bob tro y byddai pobl Israel yn plannu cnydau, byddai’r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobl eraill o’r dwyrain yn ymosod arnyn nhw. Roedden nhw’n cymryd y wlad drosodd ac yn dinistrio’r cnydau i gyd, yr holl ffordd i Gasa. Roedden nhw’n dwyn y defaid, yr ychen a’r asynnod a gadael dim i bobl Israel ei fwyta. Pan oedden nhw’n dod gyda’u hanifeiliaid a’u pebyll, roedden nhw fel haid o locustiaid! Roedd cymaint ohonyn nhw, roedd hi’n amhosib eu cyfri nhw na’u camelod. Roedden nhw’n dod ac yn dinistrio popeth. Roedd pobl Israel yn ddifrifol o wan o achos Midian, a dyma nhw’n gweiddi’n daer ar yr ARGLWYDD am help. Pan ddigwyddodd hynny, dyma’r ARGLWYDD yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a’ch rhyddhau o fod yn gaethweision. Gwnes i’ch achub chi o’u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi’n eu gyrru nhw allan o’ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi. A dwedais wrthoch chi, ‘Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau’r Amoriaid dych chi’n byw ar eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.” Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i’w guddio oddi wrth y Midianiaid. Pan welodd yr angel, dyma’r angel yn dweud wrtho, “Mae’r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.” “Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy’r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e’n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o’r Aifft!’ – dyna roedden nhw’n ei ddweud. Ond bellach mae’r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i’r Midianiaid ein rheoli.” Ond yna, dyma’r ARGLWYDD ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti’n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy’n dy anfon di.” Atebodd Gideon, “Ond feistr, sut alla i achub Israel? Dw i’n dod o’r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di’n taro’r Midianiaid i gyd ar unwaith!” Yna dyma Gideon yn dweud, “Plîs wnei di roi rhyw arwydd i mi i brofi mai ti sy’n siarad hefo fi go iawn. Paid mynd i ffwrdd nes bydda i wedi dod yn ôl gydag offrwm i’w gyflwyno i ti.” “Gwna i aros yma nes doi di yn ôl,” meddai’r ARGLWYDD. Felly dyma Gideon yn mynd a pharatoi myn gafr ifanc. Defnyddiodd sachaid fawr o flawd i baratoi bara heb furum ynddo – tua deg cilogram. Rhoddodd y cig mewn basged a’r cawl mewn crochan a dod â’r bwyd i’w roi i’r angel oedd o dan y goeden dderwen. Yna dyma’r angel yn dweud wrtho, “Gosod y cig a’r bara ar y garreg yma, yna tywallt y cawl drosto.” Pan wnaeth Gideon hynny, dyma’r angel yn cyffwrdd y cig a’r bara gyda blaen ei ffon. Ac yn sydyn, dyma fflamau tân yn codi o’r garreg a llosgi’r cig a’r bara. Yna diflannodd angel yr ARGLWYDD. Roedd Gideon yn gwybod yn iawn wedyn mai angel yr ARGLWYDD oedd e. “O, na!” meddai. “Feistr, ARGLWYDD. Dw i wedi gweld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb!” Ond meddai’r ARGLWYDD wrtho, “Popeth yn iawn. Paid bod ag ofn. Ti ddim yn mynd i farw.” A dyma Gideon yn adeiladu allor yno i’r ARGLWYDD, a rhoi’r enw “Heddwch yr ARGLWYDD” arni. (Mae’n dal yna heddiw, yn Offra yr Abiesriaid.) Y noson honno, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Cymer y tarw gorau ond un sydd gan dy dad, yr un saith mlwydd oed. Yna dos a chwalu’r allor sydd gan dy dad i Baal, a thorri’r polyn Ashera sydd wrth ei hymyl. Wedyn dw i eisiau i ti adeiladu allor i’r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y bryn yma, a gosod y cerrig mewn trefn. Defnyddia bolyn y dduwies Ashera wnest ti ei dorri i lawr fel coed tân i aberthu’r tarw yn offrwm i’w losgi’n llwyr.” Felly dyma Gideon yn mynd â deg o weision a gwneud fel y dwedodd yr ARGLWYDD. Ond arhosodd tan ganol nos, am fod arno ofn aelodau eraill y teulu a phobl y dref.

Barnwyr 6:1-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A meibion Israel a wnaethant ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: a’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn llaw Midian saith mlynedd. A llaw Midian a orthrechodd Israel: a rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd, a’r ogofeydd, a’r amddiffynfaoedd. A phan heuasai Israel, yna Midian a ddaeth i fyny, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy: Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinistriasant gnwd y ddaear, hyd oni ddelych i Gasa; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn. Canys hwy a ddaethant i fyny â’u hanifeiliaid, ac â’u pebyll, a daethant fel locustiaid o amldra; ac nid oedd rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: a hwy a ddaethant i’r wlad i’w distrywio hi. Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD. A phan lefodd meibion Israel ar yr ARGLWYDD oblegid y Midianiaid, Yr ARGLWYDD a anfonodd broffwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a’ch dygais chwi i fyny o’r Aifft, ac a’ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed; Ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law eich holl orthrymwyr; gyrrais hwynt allan o’ch blaen chwi, a rhoddais eu tir hwynt i chwi: A dywedais wrthych, Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond ni wrandawsoch ar fy llais i. Ac angel yr ARGLWYDD a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra, yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf, i’w guddio rhag y Midianiaid. Ac angel yr ARGLWYDD a ymddangosodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD sydd gyda thi, ŵr cadarn nerthol. A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr ARGLWYDD gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr ARGLWYDD ni i fyny o’r Aifft? Ond yn awr yr ARGLWYDD a’n gwrthododd ni, ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid. A’r ARGLWYDD a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, Dos yn dy rymustra yma; a thi a waredi Israel o law y Midianiaid: oni anfonais i dydi? Dywedodd yntau wrtho ef, O fy arglwydd, pa fodd y gwaredaf fi Israel? Wele fy nheulu yn dlawd ym Manasse, a minnau yn lleiaf yn nhŷ fy nhad. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Diau y byddaf fi gyda thi; a thi a drewi y Midianiaid fel un gŵr. Ac efe a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gwna erof fi arwydd mai ti sydd yn llefaru wrthyf. Na chilia, atolwg, oddi yma, hyd oni ddelwyf atat, ac oni ddygwyf fy anrheg, a’i gosod ger dy fron. Dywedodd yntau, Myfi a arhosaf nes i ti ddychwelyd. A Gedeon a aeth i mewn, ac a baratôdd fyn gafr, ac effa o beilliaid yn fara croyw: y cig a osododd efe mewn basged, a’r isgell a osododd efe mewn crochan; ac a’i dug ato ef dan y dderwen, ac a’i cyflwynodd. Ac angel DUW a ddywedodd wrtho, Cymer y cig, a’r bara croyw, a gosod ar y graig hon, a thywallt yr isgell. Ac efe a wnaeth felly. Yna angel yr ARGLWYDD a estynnodd flaen y ffon oedd yn ei law, ac a gyffyrddodd â’r cig, ac â’r bara croyw: a’r tân a ddyrchafodd o’r graig, ac a ysodd y cig, a’r bara croyw. Ac angel yr ARGLWYDD a aeth ymaith o’i olwg ef. A phan welodd Gedeon mai angel yr ARGLWYDD oedd efe, y dywedodd Gedeon, Och, O ARGLWYDD DDUW! oherwydd i mi weled angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Tangnefedd i ti: nac ofna; ni byddi farw. Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i’r ARGLWYDD, ac a’i galwodd Jehofah-shalom: hyd y dydd hwn y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid. A’r noson honno y dywedodd yr ARGLWYDD wrtho ef, Cymer y bustach sydd eiddo dy dad, sef yr ail fustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad, a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi: Ac adeilada allor i’r ARGLWYDD dy DDUW ar ben y graig hon, yn y lle trefnus; a chymer yr ail fustach, ac offryma boethoffrwm â choed y llwyn, yr hwn a dorri di. Yna Gedeon a gymerodd ddengwr o’i weision, ac a wnaeth fel y llefarasai yr ARGLWYDD wrtho: ac oherwydd ei fod yn ofni teulu ei dad, a gwŷr y ddinas, fel nas gallai wneuthur hyn liw dydd, efe a’i gwnaeth liw nos.