Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Barnwyr 6:1-27

Barnwyr 6:1-27 BNET

Dyma bobl Israel, unwaith eto, yn gwneud rhywbeth gwirioneddol ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly dyma fe’n gadael i Midian eu rheoli nhw am saith mlynedd. Roedd y Midianiaid mor greulon nes i lawer o bobl Israel ddianc i’r mynyddoedd i fyw mewn cuddfannau ac ogofâu a lleoedd saff eraill. Bob tro y byddai pobl Israel yn plannu cnydau, byddai’r Midianiaid, yr Amaleciaid a phobl eraill o’r dwyrain yn ymosod arnyn nhw. Roedden nhw’n cymryd y wlad drosodd ac yn dinistrio’r cnydau i gyd, yr holl ffordd i Gasa. Roedden nhw’n dwyn y defaid, yr ychen a’r asynnod a gadael dim i bobl Israel ei fwyta. Pan oedden nhw’n dod gyda’u hanifeiliaid a’u pebyll, roedden nhw fel haid o locustiaid! Roedd cymaint ohonyn nhw, roedd hi’n amhosib eu cyfri nhw na’u camelod. Roedden nhw’n dod ac yn dinistrio popeth. Roedd pobl Israel yn ddifrifol o wan o achos Midian, a dyma nhw’n gweiddi’n daer ar yr ARGLWYDD am help. Pan ddigwyddodd hynny, dyma’r ARGLWYDD yn anfon proffwyd atyn nhw gyda neges gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn dweud: “Fi ddaeth â chi allan o wlad yr Aifft, a’ch rhyddhau o fod yn gaethweision. Gwnes i’ch achub chi o’u gafael nhw, ac o afael pawb arall oedd yn eich gormesu chi. Dyma fi’n eu gyrru nhw allan o’ch blaen chi, ac yn rhoi eu tir nhw i chi. A dwedais wrthoch chi, ‘Fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi. Peidiwch addoli duwiau’r Amoriaid dych chi’n byw ar eu tir nhw!’ Ond dych chi ddim wedi gwrando arna i.” Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod ac yn eistedd dan y goeden dderwen oedd ar dir Joas yr Abiesriad yn Offra. Roedd Gideon, ei fab, yno yn dyrnu ŷd mewn cafn gwasgu grawnwin, i’w guddio oddi wrth y Midianiaid. Pan welodd yr angel, dyma’r angel yn dweud wrtho, “Mae’r ARGLWYDD gyda ti, filwr dewr.” “Beth, syr?” meddai Gideon. “Os ydy’r ARGLWYDD gyda ni, pam mae pethau mor ddrwg arnon ni? Pam nad ydy e’n gwneud gwyrthiau rhyfeddol fel y rhai soniodd ein hynafiaid amdanyn nhw? ‘Daeth yr ARGLWYDD â ni allan o’r Aifft!’ – dyna roedden nhw’n ei ddweud. Ond bellach mae’r ARGLWYDD wedi troi ei gefn arnon ni, a gadael i’r Midianiaid ein rheoli.” Ond yna, dyma’r ARGLWYDD ei hun yn dweud wrth Gideon, “Rwyt ti’n gryf. Dos, i achub Israel o afael y Midianiaid. Fi sy’n dy anfon di.” Atebodd Gideon, “Ond feistr, sut alla i achub Israel? Dw i’n dod o’r clan lleiaf pwysig yn llwyth Manasse, a fi ydy mab ifancaf y teulu!” A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Ie, ond bydda i gyda ti. Byddi di’n taro’r Midianiaid i gyd ar unwaith!” Yna dyma Gideon yn dweud, “Plîs wnei di roi rhyw arwydd i mi i brofi mai ti sy’n siarad hefo fi go iawn. Paid mynd i ffwrdd nes bydda i wedi dod yn ôl gydag offrwm i’w gyflwyno i ti.” “Gwna i aros yma nes doi di yn ôl,” meddai’r ARGLWYDD. Felly dyma Gideon yn mynd a pharatoi myn gafr ifanc. Defnyddiodd sachaid fawr o flawd i baratoi bara heb furum ynddo – tua deg cilogram. Rhoddodd y cig mewn basged a’r cawl mewn crochan a dod â’r bwyd i’w roi i’r angel oedd o dan y goeden dderwen. Yna dyma’r angel yn dweud wrtho, “Gosod y cig a’r bara ar y garreg yma, yna tywallt y cawl drosto.” Pan wnaeth Gideon hynny, dyma’r angel yn cyffwrdd y cig a’r bara gyda blaen ei ffon. Ac yn sydyn, dyma fflamau tân yn codi o’r garreg a llosgi’r cig a’r bara. Yna diflannodd angel yr ARGLWYDD. Roedd Gideon yn gwybod yn iawn wedyn mai angel yr ARGLWYDD oedd e. “O, na!” meddai. “Feistr, ARGLWYDD. Dw i wedi gweld angel yr ARGLWYDD wyneb yn wyneb!” Ond meddai’r ARGLWYDD wrtho, “Popeth yn iawn. Paid bod ag ofn. Ti ddim yn mynd i farw.” A dyma Gideon yn adeiladu allor yno i’r ARGLWYDD, a rhoi’r enw “Heddwch yr ARGLWYDD” arni. (Mae’n dal yna heddiw, yn Offra yr Abiesriaid.) Y noson honno, dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Cymer y tarw gorau ond un sydd gan dy dad, yr un saith mlwydd oed. Yna dos a chwalu’r allor sydd gan dy dad i Baal, a thorri’r polyn Ashera sydd wrth ei hymyl. Wedyn dw i eisiau i ti adeiladu allor i’r ARGLWYDD dy Dduw ar ben y bryn yma, a gosod y cerrig mewn trefn. Defnyddia bolyn y dduwies Ashera wnest ti ei dorri i lawr fel coed tân i aberthu’r tarw yn offrwm i’w losgi’n llwyr.” Felly dyma Gideon yn mynd â deg o weision a gwneud fel y dwedodd yr ARGLWYDD. Ond arhosodd tan ganol nos, am fod arno ofn aelodau eraill y teulu a phobl y dref.