Eseia 5:8-30
Eseia 5:8-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwae'r rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ, sy'n chwanegu cae at gae nes llyncu pob man, a'ch gadael chwi'n unig yng nghanol y tir. Tyngodd ARGLWYDD y Lluoedd yn fy nghlyw, “Bydd plastai yn anghyfannedd, a thai helaeth a theg heb drigiannydd. Bydd deg cyfair o winllan yn dwyn un bath, a homer o had heb gynhyrchu dim ond un effa.” Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i ddilyn diod gadarn, ac sy'n oedi hyd yr hwyr nes i'r gwin eu cynhyrfu. Yn eu gwleddoedd fe geir y delyn a'r nabl, y tabwrdd a'r ffliwt a'r gwin; ond nid ystyriant waith yr ARGLWYDD nac edrych ar yr hyn a wnaeth. Am hynny, caethgludir fy mhobl o ddiffyg gwybodaeth; bydd eu bonedd yn trengi o newyn a'u gwerin yn gwywo gan syched. Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc, ac agor ei cheg yn ddiderfyn; fe lyncir y bonedd a'r werin, ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi. Darostyngir gwreng a bonedd, a syrth llygad y balch; ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn, a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder. Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin, a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion. Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd, a phechod megis â rhaffau men, y rhai sy'n dweud, “Brysied, prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld; doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.” Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg, sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch, sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw. Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain, ac yn gall yn eu tyb eu hunain. Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin, ac yn gryfion wrth gymysgu diod gadarn, y rhai sy'n cyfiawnhau'r euog am wobr, ac yn gwrthod cyfiawnder i'r cyfiawn. Am hynny, fel yr ysir y sofl gan dafod o dân ac y diflanna'r mân us yn y fflam, felly y pydra eu gwreiddyn ac y diflanna eu blagur fel llwch; am iddynt wrthod cyfraith ARGLWYDD y Lluoedd, a dirmygu gair Sanct Israel. Am hynny enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, ac estynnodd ei law yn eu herbyn, a'u taro; fe grynodd y mynyddoedd, a gorweddai'r celanedd fel ysgarthion ar y strydoedd. Er hynny ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law. Fe gyfyd faner i genhedloedd pell, a chwibana arnynt o eithaf y ddaear, ac wele, fe ddônt yn fuan a chwim. Nid oes neb yn blino nac yn baglu, nid oes neb yn huno na chysgu, nid oes neb a'i wregys wedi ei ddatod, nac a charrai ei esgidiau wedi ei thorri. Y mae eu saethau'n llym a'u bwâu i gyd yn dynn; y mae carnau eu meirch fel callestr, ac olwynion eu cerbydau fel corwynt. Y mae eu rhuad fel llew; rhuant fel llewod ifanc, sy'n chwyrnu wrth afael yn yr ysglyfaeth a'i dwyn ymaith, heb neb yn ei harbed. Rhuant arni yn y dydd hwnnw, fel rhuad y môr; ac os edrychir tua'r tir, wele dywyllwch a chyfyngdra, a'r goleuni yn tywyllu gan ei gymylau.
Eseia 5:8-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwae y rhai sy’n cydio tŷ wrth dŷ, ac yn ychwanegu cae at gae, nes bod dim lle i neb arall fyw yn y wlad! Dw i wedi clywed yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: Bydd llawer o dai yn cael eu dinistrio, fydd neb yn byw yn y tai mawr, crand. Bydd deg acer o winllan yn rhoi llai na chwe galwyn o win; a chae lle heuwyd deg mesur o had yn rhoi dim ond un mesur yn ôl. Gwae’r rhai sy’n codi’n fore i yfed diod feddwol ac yn aros ar eu traed gyda’r nos dan ddylanwad gwin. Maen nhw’n cael partïon gyda’r delyn a’r nabl, y drwm a’r pib – a’r gwin, ond yn cymryd dim sylw o’r ARGLWYDD, nac yn gweld beth mae’n ei wneud. Felly, bydd fy mhobl yn cael eu caethgludo am beidio cymryd sylw. Bydd y bobl bwysig yn marw o newyn, a’r werin yn gwywo gan syched. Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw; bydd yn agor ei geg yn anferth, a bydd ysblander Jerwsalem a’i chyffro, ei sŵn a’i sbri yn llithro i lawr iddo. Bydd pobl yn cael eu darostwng a phawb yn cywilyddio; bydd llygaid y balch wedi syrthio. Ond bydd yr ARGLWYDD hollbwerus wedi’i ddyrchafu drwy ei gyfiawnder; a’r Duw sanctaidd wedi profi ei fod yn sanctaidd drwy ei degwch. Bydd ŵyn yn pori yno fel yn eu cynefin, a chrwydriaid yn bwyta yn adfeilion y cyfoethog. Gwae’r rhai sy’n llusgo drygioni gyda rhaffau twyll, a llusgo pechod ar eu holau fel trol! Y rhai sy’n dweud, “Gadewch iddo wneud rhywbeth yn sydyn, i ni gael gweld; gadewch i ni weld pwrpas Un Sanctaidd Israel, i ni gael gwybod beth ydy e!” Gwae’r rhai sy’n galw drwg yn dda a da yn ddrwg, sy’n dweud fod tywyllwch yn olau a golau yn dywyllwch, sy’n galw’r chwerw yn felys a’r melys yn chwerw! Gwae’r rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n ddoeth, ac yn ystyried eu hunain mor glyfar! Gwae’r rhai sy’n arwyr wrth yfed gwin – ac yn meddwl eu bod nhw’n rêl bois wrth gymysgu’r diodydd; y rhai sy’n gollwng troseddwyr yn rhydd am freib, ac yn gwrthod rhoi dedfryd gyfiawn i’r dieuog. Felly, fel gwellt yn llosgi yn y fflamau a gwair yn crino yn y gwres, bydd eu gwreiddiau yn pydru a’u blagur yn cael ei chwythu ymaith fel llwch. Am eu bod wedi gwrthod beth mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddysgu, a chymryd dim sylw o neges Un Sanctaidd Israel. Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda’i bobl. Dyna pam wnaeth e droi yn eu herbyn nhw, a’u taro nhw. Roedd y mynyddoedd yn crynu, a’r cyrff yn gorwedd fel sbwriel ar y strydoedd. Ac eto wnaeth Duw ddim tawelu, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. Bydd e’n codi baner i alw cenedl o bell, ac yn chwibanu ar un o ben draw’r byd. Ac edrychwch, maen nhw’n dod ar ras wyllt! Does neb yn blino nac yn baglu’n y rhengoedd, neb yn pendwmpian nac yn cysgu, neb â’i felt wedi’i ddatod, na charrai ei esgid wedi torri. Mae eu saethau’n finiog, a’u bwâu i gyd yn dynn. Mae carnau’r meirch yn galed fel carreg, ac olwynion eu cerbydau yn troi fel corwynt. Mae eu rhuad fel llew, maen nhw’n rhuo fel llewod ifanc sy’n chwyrnu wrth ddal yr ysglyfaeth a’i lusgo i ffwrdd – all neb ei achub! Bryd hynny, bydd sŵn y rhuo fel tonnau’r môr yn taro’r tir. Wrth edrych tua’r tir gwelir tywyllwch ac argyfwng, a’r golau’n troi’n dywyllwch yn y cymylau o ewyn.
Eseia 5:8-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷ at dŷ, ac yn cydio maes wrth faes, hyd oni byddo eisiau lle, ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir. Lle y clywais y dywedodd ARGLWYDD y lluoedd, Yn ddiau bydd tai lawer, mawrion a theg, yn anghyfannedd heb drigiannydd. Canys deg cyfair o winllan a ddygant un bath, a lle homer a ddwg effa. Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt. Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell, a’r gwin: ond am waith yr ARGLWYDD nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant. Am hynny y caethgludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth: a’u gwŷr anrhydeddus sydd newynog, a’u lliaws a wywodd gan syched. Herwydd hynny yr ymehangodd uffern, ac yr agorodd ei safn yn anferth; ac yno y disgyn eu gogoniant, a’u lliaws, a’u rhwysg, a’r hwn a lawenycha ynddi. A’r gwrêng a grymir, a’r galluog a ddarostyngir, a llygaid y rhai uchel a iselir. Ond ARGLWYDD y lluoedd a ddyrchefir mewn barn; a’r DUW sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder. Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer; a dieithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision. Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd, a phechod megis â rhaffau men: Y rhai a ddywedant, Brysied, a phrysured ei orchwyl, fel y gwelom; nesaed hefyd, a deued cyngor Sanct yr Israel, fel y gwypom. Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch: y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw. Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun, a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun. Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a’r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn: Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt. Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith ARGLWYDD y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel. Am hynny yr enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a’u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan. Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd o bell, ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear: ac wele, ar frys yn fuan y deuant. Ni bydd un blin na thramgwyddedig yn eu plith; ni huna yr un, ac ni chwsg: ac ni ddatodir gwregys ei lwynau, ac ni ddryllir carrai ei esgidiau. Yr hwn sydd â’i saethau yn llymion, a’i holl fwâu yn anelog: carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr, a’i olwynion fel corwynt. Ei ruad fydd fel llew; efe a rua fel cenawon llew: efe a chwyrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth; efe a ddianc hefyd, ac a’i dwg ymaith yn ddiogel, ac ni bydd achubydd. Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw, fel rhuad y môr: os edrychir ar y tir, wele dywyllwch, a chyfyngder, a’r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd.