Eseia 42:16-17
Eseia 42:16-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n mynd i arwain y rhai sy’n ddall ar hyd ffordd sy’n newydd, a gwneud iddyn nhw gerdded ar hyd llwybrau sy’n ddieithr iddyn nhw. Bydda i’n gwneud y tywyllwch yn olau o’u blaen ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn. Dyma dw i’n addo ei wneud – a dw i’n cadw fy ngair. Bydd y rhai sy’n trystio eilunod yn cael eu gyrru’n ôl a’u cywilyddio, sef y rhai sy’n dweud wrth ddelwau metel, ‘Chi ydy’n duwiau ni!’”
Eseia 42:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna arweiniaf y deillion ar hyd ffordd ddieithr, a'u tywys mewn llwybrau nad adnabuant; paraf i'r tywyllwch fod yn oleuni o'u blaen, ac unionaf ffyrdd troellog. Dyma a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwy. Ond cilio mewn cywilydd a wna'r rhai sy'n ymddiried mewn eilunod ac yn dweud wrth ddelwau tawdd, ‘Chwi yw ein duwiau ni.’ ”
Eseia 42:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn union. Dyma y pethau a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt. Troir yn eu hôl, a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni.