Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 42

42
1Wele fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allan farn i’r cenhedloedd. 2Ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol. 3Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd lin yn mygu: efe a ddwg allan farn at wirionedd. 4Ni phalla efe, ac ni ddigalonna, hyd oni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef.
5Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, creawdydd y nefoedd a’i hestynnydd; lledydd y ddaear a’i chnwd; rhoddydd anadl i’r bobl arni, ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi: 6Myfi yr Arglwydd a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobl, ac yn oleuni Cenhedloedd; 7I agoryd llygaid y deillion, i ddwyn allan y carcharor o’r carchar, a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy. 8Myfi yw yr Arglwydd; dyma fy enw: a’m gogoniant ni roddaf i arall, na’m mawl i ddelwau cerfiedig. 9Wele, y pethau o’r blaen a ddaethant i ben, a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd; traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan. 10Cenwch i’r Arglwydd gân newydd, a’i fawl ef o eithaf y ddaear; y rhai a ddisgynnwch i’r môr, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a’u trigolion. 11Y diffeithwch a’i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd. 12Rhoddant ogoniant i’r Arglwydd, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd. 13Yr Arglwydd a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedda, ie, efe a rua; ac a fydd drech na’i elynion. 14Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith. 15Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch, a’u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a’r llynnoedd a sychaf. 16Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn union. Dyma y pethau a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt.
17Troir yn eu hôl, a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni. 18O fyddariaid, gwrandewch; a’r deillion, edrychwch i weled. 19Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy mor ddall â’r perffaith, a dall fel gwas yr Arglwydd? 20Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy. 21Yr Arglwydd sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a’i gwna yn anrhydeddus. 22Eto dyma bobl a ysbeiliwyd, ac a anrheithiwyd: hwy a faglwyd oll mewn tyllau, mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt: y maent yn ysbail, ac heb waredydd; yn anrhaith, ac heb a ddywedai, Dyro yn ei ôl. 23Pwy ohonoch a wrendy hyn? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw? 24Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i’r ysbeilwyr? onid yr Arglwydd, yr hwn y pechasom i’w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i’w gyfraith. 25Am hynny y tywalltodd efe arno lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel: efe a’i henynnodd oddi amgylch, ond ni wybu efe; llosgodd ef hefyd, ond nid ystyriodd.

Dewis Presennol:

Eseia 42: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda