Eseia 42:1-7
Eseia 42:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal, f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Rhoddais fy ysbryd ynddo, i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd. Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol. Ni fydd yn dryllio corsen ysig, nac yn diffodd llin yn mygu; bydd yn cyhoeddi barn gywir. Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio, nes iddo osod barn ar y ddaear; y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith.” Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD, a greodd y nefoedd a'i thaenu allan, a luniodd y ddaear a'i chynnyrch, a roddodd anadl i'r bobl sydd arni, ac ysbryd i'r rhai sy'n rhodio ynddi: “Myfi yw'r ARGLWYDD; gelwais di mewn cyfiawnder, a gafael yn dy law; lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl, yn oleuni cenhedloedd; i agor llygaid y deillion, i arwain caethion allan o'r carchar, a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell.
Eseia 42:1-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma fy ngwas, yr un dw i’n ei gynnal, yr un dw i wedi’i ddewis ac sydd wrth fy modd i! Rhof fy ysbryd iddo, a bydd yn dysgu cyfiawnder i’r cenhedloedd. Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais, nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd. Fydd e ddim yn torri brwynen fregus nac yn diffodd llin sy’n mygu. Bydd e’n dangos y ffordd iawn i ni. Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio nes iddo sefydlu’r ffordd iawn ar y ddaear. Mae’r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.” Dyma mae’r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud – yr un greodd yr awyr, a’i lledu allan, yr un wnaeth siapio’r ddaear a phopeth ynddi, yr un sy’n rhoi anadl i’r bobl sy’n byw arni, a bywyd i’r rhai sy’n cerdded arni: “Fi ydy’r ARGLWYDD, dw i wedi dy alw i wneud beth sy’n iawn, a gafael yn dy law. Dw i’n gofalu amdanat ti, ac yn dy benodi’n ganolwr fy ymrwymiad i bobl, ac yn olau i genhedloedd – i agor llygaid y dall, rhyddhau carcharorion o’u celloedd, a’r rhai sy’n byw yn y tywyllwch o’r carchar.
Eseia 42:1-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allan farn i’r cenhedloedd. Ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol. Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd lin yn mygu: efe a ddwg allan farn at wirionedd. Ni phalla efe, ac ni ddigalonna, hyd oni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a’i hestynnydd; lledydd y ddaear a’i chnwd; rhoddydd anadl i’r bobl arni, ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi: Myfi yr ARGLWYDD a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobl, ac yn oleuni Cenhedloedd; I agoryd llygaid y deillion, i ddwyn allan y carcharor o’r carchar, a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy.