Eseia 42:1-25
Eseia 42:1-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma fy ngwas, yr un dw i’n ei gynnal, yr un dw i wedi’i ddewis ac sydd wrth fy modd i! Rhof fy ysbryd iddo, a bydd yn dysgu cyfiawnder i’r cenhedloedd. Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais, nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd. Fydd e ddim yn torri brwynen fregus nac yn diffodd llin sy’n mygu. Bydd e’n dangos y ffordd iawn i ni. Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio nes iddo sefydlu’r ffordd iawn ar y ddaear. Mae’r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.” Dyma mae’r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud – yr un greodd yr awyr, a’i lledu allan, yr un wnaeth siapio’r ddaear a phopeth ynddi, yr un sy’n rhoi anadl i’r bobl sy’n byw arni, a bywyd i’r rhai sy’n cerdded arni: “Fi ydy’r ARGLWYDD, dw i wedi dy alw i wneud beth sy’n iawn, a gafael yn dy law. Dw i’n gofalu amdanat ti, ac yn dy benodi’n ganolwr fy ymrwymiad i bobl, ac yn olau i genhedloedd – i agor llygaid y dall, rhyddhau carcharorion o’u celloedd, a’r rhai sy’n byw yn y tywyllwch o’r carchar. Fi ydy’r ARGLWYDD, dyna fy enw i. Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall, na rhoi’r clod dw i’n ei haeddu i ddelwau. Mae’r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir, a nawr dw i’n cyhoeddi pethau newydd. Dw i’n gadael i chi glywed amdanyn nhw cyn iddyn nhw ddechrau digwydd.” ARGLWYDD Canwch gân newydd i’r ARGLWYDD, canwch ei glod o ben draw’r byd – chi sy’n hwylio ar y môr, a’r holl greaduriaid sydd ynddo, a chi sy’n byw ar yr ynysoedd! Boed i’r anialwch a’i drefi godi eu lleisiau, a’r pentrefi lle mae crwydriaid Cedar yn byw. Canwch yn llawen, chi sy’n byw yn Sela, a gweiddi’n uchel o ben y mynyddoedd. Boed iddyn nhw roi clod i’r ARGLWYDD, a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd. Mae’r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwr ar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel. Mae e’n gweiddi – yn wir, mae e’n rhuo wrth ymosod ar ei elynion. “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir – wedi cadw’n dawel, a dal fy hun yn ôl. Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn, dw i’n sgrechian a gwingo a griddfan. Dw i’n mynd i ddifetha’r bryniau a’r mynyddoedd, a gwneud i bob tyfiant wywo. Dw i’n mynd i wneud yr afonydd yn sych, a sychu’r pyllau dŵr hefyd. Dw i’n mynd i arwain y rhai sy’n ddall ar hyd ffordd sy’n newydd, a gwneud iddyn nhw gerdded ar hyd llwybrau sy’n ddieithr iddyn nhw. Bydda i’n gwneud y tywyllwch yn olau o’u blaen ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn. Dyma dw i’n addo ei wneud – a dw i’n cadw fy ngair. Bydd y rhai sy’n trystio eilunod yn cael eu gyrru’n ôl a’u cywilyddio, sef y rhai sy’n dweud wrth ddelwau metel, ‘Chi ydy’n duwiau ni!’” Gwrandwch, chi’r rhai byddar; ac edrychwch, chi sy’n ddall! Pwy sy’n ddall fel fy ngwas, neu’n fyddar fel y negesydd dw i’n ei anfon? Pwy sy’n ddall fel yr un dw i wedi ymrwymo iddo? Pwy sy’n ddall fel gwas yr ARGLWYDD? Er dy fod yn gweld llawer, ti ddim yn ystyried; er bod gen ti glustiau, ti ddim yn gwrando. Roedd yr ARGLWYDD wedi’i blesio ei fod yn gyfiawn, a’i fod yn gwneud yn fawr o’r gyfraith, ac yn ei chadw. Ond mae’r bobl hyn wedi colli popeth: maen nhw i gyd wedi’u dal mewn tyllau, a’u carcharu mewn celloedd. Maen nhw’n ysglyfaeth, a does neb i’w hachub; maen nhw’n ysbail, a does neb yn dweud, “Rho nhw’n ôl!” Pwy sy’n barod i wrando ar hyn? Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen! Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio, a rhoi Israel i’r lladron? Yr ARGLWYDD, wrth gwrs – yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn! Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau, na bod yn ufudd i’w ddysgeidiaeth. Felly dyma fe’n tywallt ei lid arnyn nhw, a thrais rhyfel. Roedd y fflamau o’u cwmpas ym mhobman, ond wnaethon nhw ddim dysgu’r wers. Cawson nhw eu llosgi, ond gymron nhw ddim sylw.
Eseia 42:1-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal, f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo. Rhoddais fy ysbryd ynddo, i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd. Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais, na pheri ei glywed yn yr heol. Ni fydd yn dryllio corsen ysig, nac yn diffodd llin yn mygu; bydd yn cyhoeddi barn gywir. Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio, nes iddo osod barn ar y ddaear; y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith.” Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD, a greodd y nefoedd a'i thaenu allan, a luniodd y ddaear a'i chynnyrch, a roddodd anadl i'r bobl sydd arni, ac ysbryd i'r rhai sy'n rhodio ynddi: “Myfi yw'r ARGLWYDD; gelwais di mewn cyfiawnder, a gafael yn dy law; lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl, yn oleuni cenhedloedd; i agor llygaid y deillion, i arwain caethion allan o'r carchar, a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell. Myfi yw'r ARGLWYDD, dyna fy enw; ni roddaf fy ngogoniant i neb arall, na'm clod i ddelwau cerfiedig. Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd, a mynegaf yn awr bethau newydd; cyn iddynt darddu rwy'n eu hysbysu ichwi.” ARGLWYDD Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd, canwch ei glod o eithaf y ddaear; bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol, yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt. Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef, y pentrefi lle mae Cedar yn trigo; bydded i drigolion Sela ganu a bloeddio o ben y mynyddoedd. Bydded iddynt roi clod i'r ARGLWYDD, a mynegi ei fawl yn yr ynysoedd. Y mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel arwr, fel rhyfelwr yn cyffroi mewn llid; y mae'n bloeddio, yn codi ei lais, ac yn trechu ei elynion. “Bûm dawel dros amser hir, yn ddistaw, ac yn ymatal; yn awr llefaf fel gwraig yn esgor, a gwingo a griddfan. Gwnaf fynyddoedd a bryniau yn ddiffaith, a pheri i'w holl lysiau gleision wywo; gwnaf afonydd yn ynysoedd, a llynnau yn sychdir. Yna arweiniaf y deillion ar hyd ffordd ddieithr, a'u tywys mewn llwybrau nad adnabuant; paraf i'r tywyllwch fod yn oleuni o'u blaen, ac unionaf ffyrdd troellog. Dyma a wnaf iddynt, ac ni adawaf hwy. Ond cilio mewn cywilydd a wna'r rhai sy'n ymddiried mewn eilunod ac yn dweud wrth ddelwau tawdd, ‘Chwi yw ein duwiau ni.’ ” “ ‘Chwi sy'n fyddar, clywch; chwi sy'n ddall, edrychwch a gwelwch. Does neb mor ddall â'm gwas, nac mor fyddar â'r negesydd a anfonaf; does neb mor ddall â'r un ymroddedig, mor ddall â gwas yr ARGLWYDD. Er iddo weld llawer, nid yw'n eu hystyried; er bod ei glustiau'n agored, nid yw'n gwrando.’ Dymunodd yr ARGLWYDD, er mwyn ei gyfiawnder, fawrhau'r gyfraith, a'i gwneud yn anrhydeddus; ond ysbeiliwyd ac anrheithiwyd y bobl hyn; cawsant bawb eu dal mewn tyllau, a'u cuddio mewn celloedd, yn ysbail heb waredydd, yn anrhaith heb neb i ddweud, ‘Rho'n ôl.’ Pwy ohonoch a all wrando ar hyn, ac ystyried a gwrando i'r diwedd? Pwy a wnaeth Jacob yn anrhaith, a rhoi Israel i'r ysbeilwyr? Onid yr ARGLWYDD, y pechasom yn ei erbyn? Nid oeddent am rodio yn ei ffyrdd na gwrando ar ei gyfraith; felly tywalltodd ei lid a'i ddicter arnynt, a chynddaredd y frwydr. Caeodd y fflam amdano, ond ni ddysgodd ei wers; llosgodd, ond nid ystyriodd.”
Eseia 42:1-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i’r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allan farn i’r cenhedloedd. Ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol. Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd lin yn mygu: efe a ddwg allan farn at wirionedd. Ni phalla efe, ac ni ddigalonna, hyd oni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a’i hestynnydd; lledydd y ddaear a’i chnwd; rhoddydd anadl i’r bobl arni, ac ysbryd i’r rhai a rodiant ynddi: Myfi yr ARGLWYDD a’th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobl, ac yn oleuni Cenhedloedd; I agoryd llygaid y deillion, i ddwyn allan y carcharor o’r carchar, a’r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o’r carchardy. Myfi yw yr ARGLWYDD; dyma fy enw: a’m gogoniant ni roddaf i arall, na’m mawl i ddelwau cerfiedig. Wele, y pethau o’r blaen a ddaethant i ben, a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd; traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan. Cenwch i’r ARGLWYDD gân newydd, a’i fawl ef o eithaf y ddaear; y rhai a ddisgynnwch i’r môr, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a’u trigolion. Y diffeithwch a’i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd. Rhoddant ogoniant i’r ARGLWYDD, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd. Yr ARGLWYDD a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedda, ie, efe a rua; ac a fydd drech na’i elynion. Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith. Mi a wnaf y mynyddoedd a’r bryniau yn ddiffeithwch, a’u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a’r llynnoedd a sychaf. Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o’u blaen hwynt, a’r pethau ceimion yn union. Dyma y pethau a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt. Troir yn eu hôl, a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni. O fyddariaid, gwrandewch; a’r deillion, edrychwch i weled. Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy mor ddall â’r perffaith, a dall fel gwas yr ARGLWYDD? Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy. Yr ARGLWYDD sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a’i gwna yn anrhydeddus. Eto dyma bobl a ysbeiliwyd, ac a anrheithiwyd: hwy a faglwyd oll mewn tyllau, mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt: y maent yn ysbail, ac heb waredydd; yn anrhaith, ac heb a ddywedai, Dyro yn ei ôl. Pwy ohonoch a wrendy hyn? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw? Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i’r ysbeilwyr? onid yr ARGLWYDD, yr hwn y pechasom i’w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i’w gyfraith. Am hynny y tywalltodd efe arno lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel: efe a’i henynnodd oddi amgylch, ond ni wybu efe; llosgodd ef hefyd, ond nid ystyriodd.