Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 32:1-20

Eseia 32:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Wele, bydd brenin yn teyrnasu mewn cyfiawnder, a'i dywysogion yn llywodraethu mewn barn, pob un yn gysgod rhag y gwynt ac yn lloches rhag y dymestl, fel afonydd dyfroedd mewn sychdir, fel cysgod craig fawr mewn tir blinedig. Ni chaeir llygaid y rhai sy'n gweld, ac fe glyw clustiau'r rhai sy'n gwrando; bydd calon y difeddwl yn synied ac yn deall, a thafod y bloesg yn siarad yn llithrig a chlir. Ni elwir mwyach y ffŵl yn fonheddig, ac ni ddywedir bod y cnaf yn llednais. Oherwydd y mae'r ffŵl yn traethu ffolineb, a'i galon yn dyfeisio drygioni, i weithio annuwioldeb, i draethu celwydd am yr ARGLWYDD; y mae'n atal bwyd rhag y newynog, ac yn gwrthod diod i'r sychedig. Y mae cynllwyn y cnaf yn faleisus; y mae'n dyfeisio camwri i ddifetha'r tlawd trwy dwyll, a gwadu cyfiawnder i'r anghenus. Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd, ac yn ei anrhydedd y saif. Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch; gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus. Ymhen ychydig dros flwyddyn cewch eich ysgwyd o'ch difrawder, oherwydd derfydd y cynhaeaf gwin, a chwithau heb gasglu ffrwyth. Chwi sy'n ddiofal, pryderwch, ymysgydwch o'ch difrawder. Tynnwch eich dillad ac ymnoethi; rhowch sachliain am eich lwynau. Curwch eich bronnau am y meysydd braf a'r gwinwydd ffrwythlon, am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri, ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon. Canys cefnwyd ar y palas, a gwacawyd y ddinas boblog. Aeth y gaer a'r tŵr yn ogofeydd am byth, yn hyfrydwch i'r asynnod gwyllt ac yn borfa i'r preiddiau. Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry, a'r anialwch yn mynd yn ddoldir, a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir, yna caiff barn drigo yn yr anialwch a chyfiawnder gartrefu yn y doldir; bydd cyfiawnder yn creu heddwch, a'i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth. Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon, mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel, a'r goedwig wedi ei thorri i lawr, a'r ddinas yn gydwastad â'r pridd. Gwyn eich byd chwi sy'n hau wrth lan pob afon, ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd.

Eseia 32:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Edrychwch, bydd brenin yn teyrnasu yn gyfiawn, a’i dywysogion yn rheoli yn deg. Bydd pob un ohonyn nhw fel cysgod rhag y gwynt a lloches rhag y storm, fel nentydd o ddŵr mewn tir sych neu gysgod craig enfawr mewn crasdir. Bydd llygaid y rhai sy’n gweld yn edrych, a chlustiau’r rhai sy’n clywed yn gwrando. Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi, a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir. Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw’n ŵr bonheddig, na’r twyllwr yn cael ei anrhydeddu. Achos dweud pethau ffôl mae ffŵl a chynllunio i wneud pethau drwg. Mae’n ymddwyn yn annuwiol ac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD. Mae’n gadael y newynog hefo stumog wag ac yn gwrthod rhoi diod i’r sychedig. Mae arfau’r twyllwr yn ddrwg. Mae’n cynllunio i wneud drwg – dinistrio pobl dlawd drwy eu twyllo a cham-drin yr anghenus yn y llys. Ond mae bwriadau’r person anrhydeddus yn dda, ac mae bob amser yn gwneud beth sy’n nobl. Chi wragedd cyfforddus, safwch! Gwrandwch arna i! Chi ferched heb bryder yn y byd, gwrandwch beth dw i’n ddweud! Mewn llai na blwyddyn, cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd. Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu, a dim ffrwyth i’w gasglu. Dylech chi sy’n gyfforddus ddechrau poeni! Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu! Tynnwch eich dillad! Stripiwch! Gwisgwch sachliain am eich canol, ac am y bronnau sy’n galaru! Dros y caeau hyfryd a’r coed gwinwydd ffrwythlon, dros dir fy mhobl bydd drain a mieri yn tyfu. Ie, dros yr holl dai hyfryd a’r dre llawn miri. Bydd y palas wedi’i adael a’r ddinas boblog yn wag. Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniau yn troi’n foelydd am byth – yn gynefin i asynnod gwyllt a phorfa i breiddiau. Dyna sut bydd hi, nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni, i’r anialwch gael ei droi’n gaeau ffrwythlon, a’r caeau droi’n goedwig. Bryd hynny, bydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwch a thegwch yn cartrefu yn y caeau; bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch, ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth. Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel. Er i’r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysg ac i’r ddinas orwedd mewn cywilydd, y fath fendith fydd i chi sy’n hau wrth ffrydiau dŵr, ac yn gollwng yr ych a’r asyn yn rhydd i bori.

Eseia 32:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Wele, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a lywodraethant mewn barn. A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig. Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant. Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur. Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw. Canys coegwr a draetha goegni, a’i galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr ARGLWYDD, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu. Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn. Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe. Cyfodwch, wragedd di-waith; clywch fy llais: gwrandewch fy ymadrodd, ferched diofal. Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi, wragedd difraw: canys darfu y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull. Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau. Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon. Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobl, ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd. Canys y palasau a wrthodir, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynnod gwylltion, yn borfa diadellau; Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir. Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y doldir. A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch, hyd byth. A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd. Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel. Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch draed yr ych a’r asyn yno.