Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 32:1-20

Eseia 32:1-20 BNET

Edrychwch, bydd brenin yn teyrnasu yn gyfiawn, a’i dywysogion yn rheoli yn deg. Bydd pob un ohonyn nhw fel cysgod rhag y gwynt a lloches rhag y storm, fel nentydd o ddŵr mewn tir sych neu gysgod craig enfawr mewn crasdir. Bydd llygaid y rhai sy’n gweld yn edrych, a chlustiau’r rhai sy’n clywed yn gwrando. Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi, a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir. Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw’n ŵr bonheddig, na’r twyllwr yn cael ei anrhydeddu. Achos dweud pethau ffôl mae ffŵl a chynllunio i wneud pethau drwg. Mae’n ymddwyn yn annuwiol ac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD. Mae’n gadael y newynog hefo stumog wag ac yn gwrthod rhoi diod i’r sychedig. Mae arfau’r twyllwr yn ddrwg. Mae’n cynllunio i wneud drwg – dinistrio pobl dlawd drwy eu twyllo a cham-drin yr anghenus yn y llys. Ond mae bwriadau’r person anrhydeddus yn dda, ac mae bob amser yn gwneud beth sy’n nobl. Chi wragedd cyfforddus, safwch! Gwrandwch arna i! Chi ferched heb bryder yn y byd, gwrandwch beth dw i’n ddweud! Mewn llai na blwyddyn, cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd. Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu, a dim ffrwyth i’w gasglu. Dylech chi sy’n gyfforddus ddechrau poeni! Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu! Tynnwch eich dillad! Stripiwch! Gwisgwch sachliain am eich canol, ac am y bronnau sy’n galaru! Dros y caeau hyfryd a’r coed gwinwydd ffrwythlon, dros dir fy mhobl bydd drain a mieri yn tyfu. Ie, dros yr holl dai hyfryd a’r dre llawn miri. Bydd y palas wedi’i adael a’r ddinas boblog yn wag. Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniau yn troi’n foelydd am byth – yn gynefin i asynnod gwyllt a phorfa i breiddiau. Dyna sut bydd hi, nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni, i’r anialwch gael ei droi’n gaeau ffrwythlon, a’r caeau droi’n goedwig. Bryd hynny, bydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwch a thegwch yn cartrefu yn y caeau; bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch, ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth. Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel. Er i’r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysg ac i’r ddinas orwedd mewn cywilydd, y fath fendith fydd i chi sy’n hau wrth ffrydiau dŵr, ac yn gollwng yr ych a’r asyn yn rhydd i bori.