Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 32:1-20

Eseia 32:1-20 BWM

Wele, brenin a deyrnasa mewn cyfiawnder, a thywysogion a lywodraethant mewn barn. A gŵr fydd megis yn ymguddfa rhag y gwynt, ac yn lloches rhag y dymestl; megis afonydd dyfroedd mewn sychdir, megis cysgod craig fawr mewn tir sychedig. Yna llygaid y rhai a welant ni chaeir, a chlustiau y rhai a glywant a wrandawant. Calon y rhai ehud hefyd a ddeall wybodaeth, a thafod y rhai bloesg a brysura lefaru yn eglur. Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw. Canys coegwr a draetha goegni, a’i galon a wna anwiredd, i ragrithio, ac i draethu amryfusedd yn erbyn yr ARGLWYDD, i ddiddymu enaid y newynog; ac efe a wna i ddiod y sychedig ballu. Arfau y cybydd sydd ddrygionus: efe a ddychymyg ddichellion i ddifwyno y trueiniaid trwy ymadroddion gau, pan draetho yr anghenus yr uniawn. Ond yr hael a ddychymyg haelioni; ac ar haelioni y saif efe. Cyfodwch, wragedd di-waith; clywch fy llais: gwrandewch fy ymadrodd, ferched diofal. Dyddiau gyda blwyddyn y trallodir chwi, wragedd difraw: canys darfu y cynhaeaf gwin, ni ddaw cynnull. Ofnwch, rai difraw; dychrynwch, rai diofal: ymddiosgwch, ac ymnoethwch, a gwregyswch sachliain am eich llwynau. Galarant am y tethau, am y meysydd hyfryd, am y winwydden ffrwythlon. Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhobl, ie, ar bob tŷ llawenydd yn y ddinas hyfryd. Canys y palasau a wrthodir, lluosowgrwydd y ddinas a adewir, yr amddiffynfeydd a’r tyrau fyddant yn ogofeydd hyd byth, yn hyfrydwch asynnod gwylltion, yn borfa diadellau; Hyd oni thywallter arnom yr ysbryd o’r uchelder, a bod yr anialwch yn ddoldir, a chyfrif y doldir yn goetir. Yna y trig barn yn yr anialwch, a chyfiawnder a erys yn y doldir. A gwaith cyfiawnder fydd heddwch; ie, gweithred cyfiawnder fydd llonyddwch a diogelwch, hyd byth. A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd. Pan ddisgynno cenllysg ar y coed, ac y gostyngir y ddinas mewn lle isel. Gwyn eich byd y rhai a heuwch gerllaw pob dyfroedd, y rhai a yrrwch draed yr ych a’r asyn yno.