Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 30:1-18

Eseia 30:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Gwae chi, blant ystyfnig,” meddai’r ARGLWYDD – “yn gwneud cynlluniau sy’n groes i be dw i eisiau, a ffurfio cynghreiriau wnes i ddim eu hysbrydoli! A’r canlyniad? – Pentyrru un pechod ar y llall! Rhuthro i lawr i’r Aifft heb ofyn i mi, a gofyn i’r Pharo eu hamddiffyn a’u cuddio dan gysgod yr Aifft. Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd, a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr, er bod ganddo swyddogion yn Soan a llysgenhadon mor bell â Chanes. Cânt eu cywilyddio’n llwyr, am fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw – dim help o gwbl! Fyddan nhw’n elwa dim, ond yn profi siom a chywilydd.” Neges am ‘Anifeiliaid y Negef’: Yn nhir trafferthion a chaledi, gwlad y llewes a’r llew cry, y neidr a’r wiber wibiog, maen nhw’n cario’u cyfoeth ar gefn asynnod, a’u trysorau ar gefn camelod, ar ran pobl sy’n dda i ddim. Mae’r Aifft yn ddiwerth! Dŷn nhw ddim help o gwbl! Felly, dw i’n ei galw hi’n “Yr un falch sy’n fud.” Tyrd nawr, ysgrifenna hyn ar lechen a’i gofnodi mewn sgrôl, i fod yn dystiolaeth barhaol i’r dyfodol. Achos maen nhw’n bobl anufudd ac yn blant sy’n twyllo – plant sy’n gwrthod gwrando ar beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddysgu. Pobl sy’n dweud wrth y rhai sy’n cael gweledigaethau, “Peidiwch â cheisio gweledigaeth,” ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydo a dweud wrthon ni beth sy’n iawn. Dwedwch bethau neis – er eu bod yn gelwydd! Trowch o’r ffordd! Ewch oddi ar y llwybr iawn! Stopiwch ein hatgoffa ni am Un Sanctaidd Israel!” Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud: Am eich bod wedi gwrthod y neges yma, a dewis rhoi’ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus – bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio, ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae’n syrthio. Bydd yn torri’n ddarnau, fel jwg pridd yn cael ei falu’n deilchion – bydd wedi darfod. Fydd dim un darn yn ddigon o faint i godi marwor o badell dân neu wagio dŵr o bwll. Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud: “Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub; wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.” Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny. “Na,” meddech chi. “Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” – a dyna wnewch chi. “Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” – ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach! Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc; pump yn bygwth a phawb yn dianc. Bydd cyn lleied ar ôl, byddan nhw fel polyn fflag ar ben bryn, neu faner ar ben mynydd. Ond mae’r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi. Achos mae’r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn, ac mae’r rhai sy’n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!

Eseia 30:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

“Gwae chwi, blant gwrthryfelgar,” medd yr ARGLWYDD, “sy'n gweithio cynllun na ddaeth oddi wrthyf fi, ac yn dyfeisio planiau nad ysbrydolwyd gennyf fi, ac yn pentyrru pechod ar bechod. Ânt i lawr i'r Aifft, heb ofyn fy marn, i geisio help gan Pharo, a lloches yng nghysgod yr Aifft. Ond bydd help Pharo yn dwyn gwarth arnoch, a lloches yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd. Canys, er bod ei swyddogion yn Soan a'i genhadau mor bell â Hanes, fe ddaw pob un i gywilydd oherwydd pobl ddi-fudd, nad ydynt yn help na llesâd, ond yn warth a gwaradwydd.” Oracl am anifeiliaid y Negef: Trwy wlad caledi a loes, gwlad y llewes a'r llew, y wiber a'r sarff hedegog, fe gludant eu cyfoeth ar gefn asynnod a'u trysorau ar grwmp camelod, at bobl ddi-fudd. Canys y mae help yr Aifft yn ofer a gwag; am hynny galwaf hi, Rahab segur. Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech, a nodi hyn mewn llyfr, iddo fod mewn dyddiau a ddaw yn dystiolaeth barhaol. Pobl wrthryfelgar yw'r rhain, plant celwyddog, plant na fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD, ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, “Peidiwch ag edrych”, ac wrth y proffwydi, “Peidiwch â phroffwydo i ni bethau uniawn, ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus. Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn, parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni.” Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn: “Am i chwi wrthod y gair hwn ac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt, bydd y drygioni hwn yn eich golwg fel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd, ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu; bydd yn torri fel llestr crochenydd, yn chwilfriw ulw mân; ni cheir ymysg ei ddarnau gragen i godi tân oddi ar aelwyd, neu i godi dŵr o ffos.” Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel: “Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig, wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn. Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud, ‘Nid felly, fe ffown ni ar feirch.’ Felly bydd yn rhaid i chwi ffoi. ‘Fe farchogwn ni feirch cyflym,’ meddwch. Felly bydd eich erlidwyr yn gyflym. Bydd mil yn ffoi ar fygythiad un; ar fygythiad pump, fe ffowch nes eich gadael fel lluman ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.” Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyl i gael trugarhau wrthych, ac yn barod i ddangos tosturi. Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD; gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho.

Eseia 30:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwae y meibion cyndyn, medd yr ARGLWYDD, a gymerant gyngor, ond nid gennyf fi; ac a orchuddiant â gorchudd, ac nid o’m hysbryd i, i chwanegu pechod ar bechod: Y rhai sydd yn myned i ddisgyn i’r Aifft, heb ymofyn â mi, i ymnerthu yn nerth Pharo, ac i ymddiried yng nghysgod yr Aifft. Am hynny y bydd nerth Pharo yn gywilydd i chwi, a’r ymddiried yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd. Canys bu ei dywysogion yn Soan, a’i genhadau a ddaethant i Hanes. Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt, ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesâd, eithr yn warth ac yn waradwydd. Baich anifeiliaid y deau. I dir cystudd ac ing, lle y daw ohonynt yr hen lew a’r llew ieuanc, y wiber a’r sarff danllyd hedegog, y dygant eu golud ar gefnau asynnod, a’u trysorau ar gefnau camelod, at bobl ni wna les. Canys yn ddi-les ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid: am hynny y llefais arni, Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd. Dos yn awr, ysgrifenna hyn mewn llech ger eu bron hwynt, ac ysgrifenna mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd; Mai pobl wrthryfelgar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD: Y rhai a ddywedant wrth y gweledyddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn; traethwch i ni weniaith, proffwydwch i ni siomedigaeth: Ciliwch o’r ffordd, ciliwch o’r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio â ni. Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel, Am wrthod ohonoch y gair hwn, ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham, a phwyso ar hynny: Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio, yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg. Canys efe a’i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tân o’r aelwyd, nac i godi dwfr o’r ffos. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech. Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a’ch erlidio. Mil a ffy wrth gerydd un; ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni’ch gadawer megis hwylbren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn. Ac am hynny y disgwyl yr ARGLWYDD i drugarhau wrthych, ie, am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych; canys DUW cyfiawnder yw yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho.