“Gwae chwi, blant gwrthryfelgar,” medd yr ARGLWYDD,
“sy'n gweithio cynllun na ddaeth oddi wrthyf fi,
ac yn dyfeisio planiau nad ysbrydolwyd gennyf fi,
ac yn pentyrru pechod ar bechod.
Ânt i lawr i'r Aifft, heb ofyn fy marn,
i geisio help gan Pharo, a lloches yng nghysgod yr Aifft.
Ond bydd help Pharo yn dwyn gwarth arnoch,
a lloches yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.
Canys, er bod ei swyddogion yn Soan
a'i genhadau mor bell â Hanes,
fe ddaw pob un i gywilydd oherwydd pobl ddi-fudd,
nad ydynt yn help na llesâd, ond yn warth a gwaradwydd.”
Oracl am anifeiliaid y Negef:
Trwy wlad caledi a loes,
gwlad y llewes a'r llew,
y wiber a'r sarff hedegog,
fe gludant eu cyfoeth ar gefn asynnod
a'u trysorau ar grwmp camelod,
at bobl ddi-fudd.
Canys y mae help yr Aifft yn ofer a gwag;
am hynny galwaf hi, Rahab segur.
Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech,
a nodi hyn mewn llyfr,
iddo fod mewn dyddiau a ddaw
yn dystiolaeth barhaol.
Pobl wrthryfelgar yw'r rhain,
plant celwyddog,
plant na fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD,
ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, “Peidiwch ag edrych”,
ac wrth y proffwydi, “Peidiwch â phroffwydo i ni bethau uniawn,
ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus.
Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn,
parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni.”
Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn:
“Am i chwi wrthod y gair hwn
ac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt,
bydd y drygioni hwn yn eich golwg
fel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd,
ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu;
bydd yn torri fel llestr crochenydd,
yn chwilfriw ulw mân;
ni cheir ymysg ei ddarnau
gragen i godi tân oddi ar aelwyd,
neu i godi dŵr o ffos.”
Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel:
“Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig,
wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn.
Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud,
‘Nid felly, fe ffown ni ar feirch.’
Felly bydd yn rhaid i chwi ffoi.
‘Fe farchogwn ni feirch cyflym,’ meddwch.
Felly bydd eich erlidwyr yn gyflym.
Bydd mil yn ffoi ar fygythiad un;
ar fygythiad pump, fe ffowch nes eich gadael
fel lluman ar ben mynydd,
ac fel baner ar fryn.”
Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyl
i gael trugarhau wrthych,
ac yn barod i ddangos tosturi.
Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD;
gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho.