Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 28:1-19

Eseia 28:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwae goronau balch meddwon Effraim, blodau gwyw eu haddurn gogoneddus ar ben y beilchion bras a orchfygwyd gan win. Wele, y mae gan yr ARGLWYDD un nerthol a chryf; fel storm o genllysg, fel tymestl ddinistriol, fel cenllif o ddyfroedd yn gorlifo'n ddilyw, fe ymesyd yn ddidostur ar y ddaear. Bydd coronau balch meddwon Effraim wedi eu mathru dan draed; a bydd blodau gwyw eu haddurn gogoneddus ar ben y beilchion bras fel ffigysen gynnar cyn yr haf; pan wêl rhywun hi fe'i llynca gyda'i bod yn ei law. Yn y dydd hwnnw bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn goron odidog, yn dorch brydferth i weddill ei bobl, yn ysbryd tegwch i'r sawl sy'n eistedd mewn barn, ac yn gadernid i'r sawl sy'n troi'r rhyfel draw o'r porth. Ond y mae eraill sy'n simsan gan win, ac yn gwegian yn eu diod; y mae'r offeiriad a'r proffwyd yn simsan yn eu diod, ac wedi drysu gan win; y maent yn gwegian mewn diod, yn simsan yn eu gweledigaeth, ac yn baglu yn eu dyfarniad. Y mae pob bwrdd yn un chwydfa; nid oes unman heb fudreddi. “Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu, ac i bwy y mae am roi gwers? Ai rhai newydd eu diddyfnu a'u tynnu oddi wrth y fron? Y mae fel dysgu sillafu: ‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’— gair bach yma, gair bach draw.” Yn wir, trwy iaith estron a thafod dieithr y lleferir wrth y bobl hyn, y rhai y dywedodd wrthynt, “Dyma'r orffwysfa, rhowch orffwys i'r lluddedig, dyma'r esmwythfa”—ond ni fynnent wrando. Ond dyma air yr ARGLWYDD iddynt: “Mater o ddysgu sillafu yw hi: ‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’— gair bach yma, gair bach draw.” Felly, wrth fynd ymlaen, fe syrthiant yn ôl, a'u clwyfo, a'u baglu a'u dal. Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi wŷr gwatwarus, penaethiaid y bobl hyn sydd yn Jerwsalem. Yr ydych chwi'n dweud, “Gwnaethom gyfamod ag angau a chynghrair â Sheol: pan fydd y ffrewyll lethol yn mynd heibio, ni fydd yn cyffwrdd â ni, am inni wneud celwydd yn noddfa inni a cheisio lloches mewn twyll.” Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw: “Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion, maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia'r sawl sy'n credu. Gwnaf farn yn llinyn mesur, a chyfiawnder yn blymen; bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd, a'r dyfroedd yn boddi eich lloches; diddymir eich cyfamod ag angau, ac ni saif eich cynghrair â Sheol. Pan â'r ffrewyll lethol heibio cewch eich mathru dani. Bob tro y daw heibio, fe'ch tery; y naill fore ar ôl y llall fe ddaw, liw dydd a liw nos.” Ni fydd namyn dychryn i'r sawl a ddeall y wers.

Eseia 28:1-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwae Samaria! Bydd coron falch meddwon Effraim yn syrthio, a’i harddwch yn ddim ond blodau wedi gwywo – blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Maen nhw’n chwil gaib! Edrychwch! Mae gan y Meistr un cryf a dewr sydd fel storm o genllysg, ie, drycin ddinistriol – fel storm pan mae’r glaw yn arllwys i lawr ac yn bwrw popeth i’r llawr. Bydd coron falch meddwon Effraim wedi’i sathru dan draed, a’i blodau wedi gwywo – y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Byddan nhw fel ffigysen gynnar cyn i’r cynhaeaf ddod. Bydd rhywun yn sylwi arni ac yn ei llyncu yr eiliad mae’n gafael ynddi. Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn goron hardd, ac yn dorch wedi’i phlethu’n hyfryd i’r bobl fydd wedi’u gadael ar ôl. Bydd yn rhoi arweiniad i’r un sy’n eistedd i farnu, a nerth i’r rhai sy’n amddiffyn giatiau’r ddinas. Ond mae’r rhain wedi meddwi’n gaib ar win; maen nhw’n chwil ar ôl yfed cwrw. Mae’r offeiriad a’r proffwyd wedi meddwi’n gaib ar gwrw a drysu’n lân ar win. Maen nhw’n chwil ar ôl yfed cwrw, a’u gweledigaethau’n ddryslyd; maen nhw’n baglu wrth farnu. Mae chwŷd a charthion dros y byrddau i gyd; does dim lle’n lân o gwbl. “Pwy mae e’n gallu ei ddysgu? I bwy fyddai e’n gallu esbonio rhywbeth? I blantos bach sydd newydd ddod oddi ar y frest falle! Fel ailadrodd llythrennau’r wyddor, ‘a, b’, ‘a, b’, ‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’, tyrd yma, bach; fan yma, bach!” O’r gorau, bydd yn siarad gyda nhw fel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron. Roedd wedi dweud wrthyn nhw yn y gorffennol: “Dyma le saff, lle i’r blinedig orffwys; dyma le i chi orwedd i lawr.” Ond doedd neb yn fodlon gwrando. Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw: “‘a, b’, ‘a, b’, ‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’, tyrd yma, bach; fan yma, bach!” Wrth geisio codi i gamu yn eu blaenau byddan nhw’n syrthio ar eu tinau, yn cael eu dryllio a’u rhwymo a’u dal. Felly dyma neges yr ARGLWYDD i chi sy’n gwawdio, chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem! Chi sy’n brolio, “Dŷn ni wedi gwneud cytundeb â Marwolaeth, a tharo bargen i osgoi’r bedd. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni. Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio, a chelwydd yn lle saff i gysgodi.” Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Edrychwch, dw i’n mynd i osod carreg yn Seion, carreg ddiogel, conglfaen gwerthfawr, sylfaen hollol gadarn. Fydd pwy bynnag sy’n credu ddim yn panicio. Bydda i’n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur, a thegwch yn llinyn plwm. Bydd cenllysg yn ysgubo’r twyll, sef eich lle i guddio, a bydd dŵr y llifogydd yn boddi’ch lle saff i gysgodi. Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri, a’ch bargen gyda’r bedd yn chwalu. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, chi fydd yn diodde’r difrod. Bydd yn eich taro chi bob tro y bydd yn dod. Bydd yn dod un bore ar ôl y llall, bob dydd a bob nos.”

Eseia 28:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win. Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr ARGLWYDD, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr â llaw. Dan draed y sethrir coron balchder, meddwon Effraim. Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant, yr hwn sydd ar ben y dyffryn bras, fydd blodeuyn diflanedig, megis ffigysen gynnar cyn yr haf, yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni, efe a’i llwnc hi, a hi eto yn ei law. Yn y dydd hwnnw y bydd ARGLWYDD y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl; Ac yn ysbryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn, ac yn gadernid i’r rhai a ddychwelant y rhyfel i’r porth. Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn. Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi, heb le glân. I bwy y dysg efe wybodaeth? ac i bwy y pair efe ddeall yr hyn a glywo? i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau. Canys rhoddir gorchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn; llin ar lin, llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw. Canys â bloesgni gwefusau, ac â thafodiaith ddieithr, y llefara efe wrth y bobl hyn. Y rhai y dywedodd efe wrthynt, Dyma orffwystra, gadewch i’r diffygiol orffwyso, a dyma esmwythder; ond ni fynnent wrando. Eithr gair yr ARGLWYDD oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt. Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, ddynion gwatwarus, llywodraethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem. Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo. A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a’r dyfroedd a foddant y lloches. A diddymir eich amod ag angau, a’ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi. O’r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir.