Gwae goronau balch meddwon Effraim,
blodau gwyw eu haddurn gogoneddus
ar ben y beilchion bras a orchfygwyd gan win.
Wele, y mae gan yr ARGLWYDD un nerthol a chryf;
fel storm o genllysg, fel tymestl ddinistriol,
fel cenllif o ddyfroedd yn gorlifo'n ddilyw,
fe ymesyd yn ddidostur ar y ddaear.
Bydd coronau balch meddwon Effraim
wedi eu mathru dan draed;
a bydd blodau gwyw eu haddurn gogoneddus
ar ben y beilchion bras
fel ffigysen gynnar cyn yr haf;
pan wêl rhywun hi fe'i llynca gyda'i bod yn ei law.
Yn y dydd hwnnw bydd ARGLWYDD y Lluoedd
yn goron odidog, yn dorch brydferth i weddill ei bobl,
yn ysbryd tegwch i'r sawl sy'n eistedd mewn barn,
ac yn gadernid i'r sawl sy'n troi'r rhyfel draw o'r porth.
Ond y mae eraill sy'n simsan gan win,
ac yn gwegian yn eu diod;
y mae'r offeiriad a'r proffwyd yn simsan yn eu diod,
ac wedi drysu gan win;
y maent yn gwegian mewn diod,
yn simsan yn eu gweledigaeth,
ac yn baglu yn eu dyfarniad.
Y mae pob bwrdd yn un chwydfa;
nid oes unman heb fudreddi.
“Pwy y mae'n ceisio'i ddysgu,
ac i bwy y mae am roi gwers?
Ai rhai newydd eu diddyfnu
a'u tynnu oddi wrth y fron?
Y mae fel dysgu sillafu:
‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—
gair bach yma, gair bach draw.”
Yn wir, trwy iaith estron a thafod dieithr
y lleferir wrth y bobl hyn,
y rhai y dywedodd wrthynt,
“Dyma'r orffwysfa, rhowch orffwys i'r lluddedig,
dyma'r esmwythfa”—ond ni fynnent wrando.
Ond dyma air yr ARGLWYDD iddynt:
“Mater o ddysgu sillafu yw hi:
‘o s’ am ‘os’, ‘o s’ am ‘os’; ‘a c’ am ‘ac’, ‘a c’ am ‘ac’—
gair bach yma, gair bach draw.”
Felly, wrth fynd ymlaen, fe syrthiant yn ôl,
a'u clwyfo, a'u baglu a'u dal.
Am hynny, gwrandewch air yr ARGLWYDD, chwi wŷr gwatwarus,
penaethiaid y bobl hyn sydd yn Jerwsalem.
Yr ydych chwi'n dweud, “Gwnaethom gyfamod ag angau
a chynghrair â Sheol:
pan fydd y ffrewyll lethol yn mynd heibio, ni fydd yn cyffwrdd â ni,
am inni wneud celwydd yn noddfa inni a cheisio lloches mewn twyll.”
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw:
“Wele fi'n gosod carreg sylfaen yn Seion,
maen a brofwyd, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy;
ni frysia'r sawl sy'n credu.
Gwnaf farn yn llinyn mesur,
a chyfiawnder yn blymen;
bydd y cenllysg yn ysgubo ymaith eich noddfa celwydd,
a'r dyfroedd yn boddi eich lloches;
diddymir eich cyfamod ag angau,
ac ni saif eich cynghrair â Sheol.
Pan â'r ffrewyll lethol heibio
cewch eich mathru dani.
Bob tro y daw heibio, fe'ch tery;
y naill fore ar ôl y llall fe ddaw,
liw dydd a liw nos.”
Ni fydd namyn dychryn i'r sawl a ddeall y wers.