Gwae goron balchder, meddwon Effraim; yr hwn y mae ardderchowgrwydd ei ogoniant yn flodeuyn diflanedig, yr hwn sydd ar ben y dyffrynnoedd breision, y rhai a orchfygwyd gan win. Wele, un grymus a nerthol sydd gan yr ARGLWYDD, fel tymestl cenllysg, neu gorwynt dinistriol, fel llifeiriant dyfroedd mawrion yn llifo drosodd, yr hwn a fwrw i lawr â llaw. Dan draed y sethrir coron balchder, meddwon Effraim. Ac ardderchowgrwydd ei ogoniant, yr hwn sydd ar ben y dyffryn bras, fydd blodeuyn diflanedig, megis ffigysen gynnar cyn yr haf, yr hon pan welo yr hwn a edrycho arni, efe a’i llwnc hi, a hi eto yn ei law.
Yn y dydd hwnnw y bydd ARGLWYDD y lluoedd yn goron ardderchowgrwydd, ac yn goron gogoniant i weddill ei bobl; Ac yn ysbryd barn i’r hwn a eisteddo ar farn, ac yn gadernid i’r rhai a ddychwelant y rhyfel i’r porth.
Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn. Canys y byrddau oll sydd lawn o chwydfa a budreddi, heb le glân.
I bwy y dysg efe wybodaeth? ac i bwy y pair efe ddeall yr hyn a glywo? i’r rhai a ddiddyfnwyd oddi wrth laeth, y rhai a dynnwyd oddi wrth y bronnau. Canys rhoddir gorchymyn ar orchymyn, gorchymyn ar orchymyn; llin ar lin, llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw. Canys â bloesgni gwefusau, ac â thafodiaith ddieithr, y llefara efe wrth y bobl hyn. Y rhai y dywedodd efe wrthynt, Dyma orffwystra, gadewch i’r diffygiol orffwyso, a dyma esmwythder; ond ni fynnent wrando. Eithr gair yr ARGLWYDD oedd iddynt yn orchymyn ar orchymyn, yn orchymyn ar orchymyn; yn llin ar lin, yn llin ar lin; ychydig yma, ac ychydig acw; fel yr elent ac y syrthient yn ôl, ac y dryllier, ac y magler, ac y dalier hwynt.
Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, ddynion gwatwarus, llywodraethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem. Am i chwi ddywedyd, Gwnaethom amod ag angau, ac ag uffern y gwnaethom gynghrair; pan ddêl ffrewyll lifeiriol, ni ddaw atom ni: canys gosodasom ein gobaith ar gelwydd, a than ffalster y llechasom.
Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion, maen profedig, conglfaen gwerthfawr, sylfaen safadwy; ni frysia yr hwn a gredo. A mi a osodaf farn wrth linyn, a chyfiawnder wrth bwys; y cenllysg a ysguba noddfa celwydd, a’r dyfroedd a foddant y lloches.
A diddymir eich amod ag angau, a’ch cynghrair ag uffern ni saif; pan ddêl y ffrewyll lifeiriol, byddwch yn sathrfa iddi. O’r amser y delo, y cymer chwi: canys daw bob bore, ddydd a nos; a blinder yn unig fydd i beri deall yr hyn a glywir.